Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyllid
- Gradd
- Band 8c
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 043-AC206-1125
- Cyflogwr
- GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- NWSSP HQ
- Tref
- Caerdydd
- Cyflog
- £78,120 - £90,013 Y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 15/12/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 05/01/2026
Teitl cyflogwr
Pennaeth Partneru Busnes Cyllid
Band 8c
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am arweinydd cyllid eithriadol i ymuno â PCGC fel Pennaeth Partneru Busnes Cyllid. Mae hon yn rôl arweinyddiaeth strategol sydd wrth wraidd ein cenhadaeth i gyflenwi gwasanaethau rhagorol a rhagoriaeth weithredol.
Byddwch yn arwain tîm o weithwyr proffesiynol cyllid, ac yn partneru ag arweinwyr gwasanaeth i hyrwyddo perfformiad ariannol, galluogi trawsnewid, a sicrhau bod adnoddau wedi'u halinio â’r blaenoriaethau yn ein Cynllun Tymor Canolig Integredig (CTCI).
Prif ddyletswyddau'r swydd
• Arwain a datblygu'r swyddogaeth Partneru Busnes Cyllid ar draws PCGC
• Darparu mewnwelediad ariannol strategol i gefnogi rhaglenni cyflenwi gwasanaethau a thrawsnewid
• Cydweithio â chyfarwyddwyr isadrannol ac arweinwyr gwasanaethau i ddylanwadu ar benderfyniadau
• Goruchwylio prosesau cyllidebu, rhagweld a chynllunio ariannol
• Sicrhau llywodraethu ariannol cadarn a chydymffurfedd â pholisïau'r GIG
• Hyrwyddo gwerth am arian a gwelliant parhaus ar draws gwasanaethau
Gweithio i'n sefydliad
Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.
Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl.
Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.
Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb. I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/
Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
-
Yn gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth ariannol broffesiynol a rheoli'r ddarpariaeth lawn o gyngor, cefnogaeth a gwybodaeth ariannol broffesiynol ar gyfer gweithgareddau'r Is-adran/nau (neu feysydd cyllideb dynodedig eraill) er mwyn ei galluogi i osod a rheoli ei cyllidebau a'u cyllid yn effeithiol ac yn rhagweithiol i sicrhau cyflawniad targedau a chynlluniau ariannol. - Yn gyfrifol am ddarparu'r prif gyngor a chymorth ariannol i'r prosesau cynllunio ariannol a busnes ar gyfer Is-adrannau. Mae hyn yn cynnwys darparu'r arweinyddiaeth ariannol wrth ddatblygu achosion Busnes strategol a datblygu modelau gwasanaeth a chyllid cymhleth.
- Cyfrannu at agenda a strategaeth rheoli ariannol ar draws y Sefydliad a llunio polisïau ym maes Proffesiwn Cyllid. Sicrhau bod gweithgareddau a systemau ariannol Is-adrannau PCGC yn unol â pholisïau a gweithdrefnau corfforaethol ac yn bodloni'r safonau uchaf o ran stiwardiaeth a chywirdeb ac yn cydymffurfio â gofynion llywodraethu corfforaethol.
- Yn gyfrifol am reoli'r Tîm Partneru Busnes Cyllid a dirprwyo ar ran Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cyfrifydd cymwys proffesiynol CCAB gyda phrofiad ôl-gymhwyso sylweddol.
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl arbenigol o’r canlynol: • Cyfundrefn Ariannol y GIG • Rheolaeth Ariannol a Chynllunio Busnes y GIG • Gweithdrefnau Buddsoddi Cyfalaf y GIG • Datblygiadau a Strategaethau Cyfredol y GIG • Canllawiau perthnasol gan Lywodraeth Cymru a'r Is-adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Rheoli Priodol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth o fewn cyllid y GIG gyda blynyddoedd lawer o brofiad ar lefel uwch reolwyr yn y GIG neu gyfwerth.
- Gwybodaeth fanwl am weithdrefnau ariannol a chyfrifyddu, agweddau ariannol ar ddeddfwriaeth y GIG a pholisïau cyllid y GIG
- Gwybodaeth a phrofiad arbenigol uwch o reolaeth ariannol y GIG a chynllunio busnes a strategol.
- Hanes blaenorol o ymdrin â sefyllfaoedd cymhleth dros ben a chyflawni amcanion corfforaethol heriol.
- Profiad rheoli sylweddol o reoli pobl a staff.
- Profiad o weithio mewn sefydliad hynod gymhleth a gwleidyddol sensitif
- Tystiolaeth o ddylanwadu'n llwyddiannus ar uwch glinigwyr a gweithwyr proffesiynol eraill a gweithio gyda thîm amlddisgyblaethol.
Meini prawf dymunol
- Profiad Rheolaeth Cyffredinol
- Profiad o reoli prosiectau
- Profiad o ymgymryd ag achosion busnes cymhleth
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ag ystod eang o staff a rheolwyr proffesiynol ar bob lefel, oddi mewn ac oddi allan i'r sefydliad
- Sgiliau dadansoddi, dehongli a chymharu datblygedig iawn a’r gallu i ddelio â gwybodaeth hynod gymhleth a sensitif i gefnogi penderfyniadau rhesymegol.
- Yn gallu gweithio ar nifer o dasgau cymhleth ar yr un pryd a chynhyrchu gwaith o safon uchel o fewn terfynau amser tynn a chydag adnoddau cyfyngedig
- Yn hyddysg mewn TG gyda sgiliau cyfrifiadurol ymarferol yn cynnwys cynhyrchion Microsoft, ac ar lefel uwch o ran taenlenni Excel
- Yn gallu gweithio’n annibynnol a’r un mor effeithiol fel rhan o dîm amlddisgyblaeth
- Yn gallu meddwl yn arloesol a datblygu ffyrdd newydd o weithio, ac ymdrechu’n barhaus i wella systemau a pherfformiad
- Yn gallu dylanwadu ar randdeiliaid allweddol a meddu ar weledigaeth strategol
Meini prawf dymunol
- Defnyddio Oracle neu systemau cyfriflyfr cyffredinol eraill
- Sgiliau Cymraeg lefelau 1 i 5 mewn deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu teithio'n helaeth i gyflawni dyletswyddau'r swydd mewn amrywiol safleoedd os oes angen
- Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i'n cwsmeriaid mewnol ac allanol, a’n helpu i gynnal safon rhagoriaeth mewn gwasanaethau cwsmeriaid.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Bydd y swydd hon yn gofyn am gyflwyno Datgeliad i wirio am unrhyw gollfarnau troseddol sydd heb ddarfod.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Linsay Payne
- Teitl y swydd
- Deputy Director of Finance & Corporate Services
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector












.png)