Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyfathrebu
- Gradd
- Gradd 8b
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 028-AC126-0525
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Chwarter 2 y Brifddinas
- Tref
- Caerdydd
- Cyflog
- £63,150 - £73,379 Y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/06/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Dirprwy Bennaeth Cyfathrebu
Gradd 8b
Trosolwg o'r swydd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gosod uchelgais glir i gynyddu disgwyliad oes iach, gwella lles ac iechyd, a lleihau anghydraddoldebau. Mae cyfathrebu’n ganolog i hyn – fel swyddogaeth strategol ac ymyriad iechyd cyhoeddus.
Nod yr Is-adran Gyfathrebu yw darparu cyfathrebiadau o safon fyd-eang sy’n cefnogi ein blaenoriaethau, yn gwella bywydau, ac yn galluogi’r sefydliad i weithredu’n effeithiol. Rydym yn adrodd ein stori, yn newid ymddygiad, yn diogelu enw da ac yn sicrhau dull sy’n canolbwyntio ar y gynulleidfa.
Rydym yn chwilio am arweinydd gwleidyddol graff, cynhwysol a chreadigol, gyda hanes o ysbrydoli eraill, arwain newid, a chreu perthnasau buddiol.
Fel uwch arweinydd, byddwch yn helpu datblygu gallu cyfathrebu'r sefydliad i gwrdd ag heriau’r dyfodol, gan sicrhau safonau clir, gwerthuso ac aliniad ar draws pob rôl gyfathrebu.
Byddwch yn Ddirprwy i’r Pennaeth Cyfathrebu ac yn rheoli pobl, prosesau a pholisïau’r adran. Rhaid i chi fod yn drefnus, dibynadwy ac yn gynlluniwr cadarn.
Nid yw profiad yn y GIG yn hanfodol, ond byddwch wedi gweithio ar y lefel hon ac yn deall y sector iechyd. Byddwch yn strategol, rhagweithiol, ac yn gallu troi uchelgais yn weithredu go iawn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
· Mae'r rôl yn cefnogi'r Pennaeth Cyfathrebu i ddatblygu a chyflwyno strategaethau cyfathrebu mewnol ac allanol effaith uchel sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau sefydliadol a chenedlaethol, sy’n defnyddio data, mewnwelediad a dadansoddiad cynulleidfaoedd i yrru gwelliant parhaus a chanlyniadau mesuradwy.
· Trwy weithredu fel cynrychiolydd allweddol o'r Adran Gyfathrebu, mae'r rôl yn cynnwys meithrin a chynnal perthnasoedd dibynadwy gydag uwch arweinwyr, swyddogion y llywodraeth, partneriaid y GIG, a rhanddeiliaid eraill i sicrhau cydweithio effeithiol a chyfleu negeseuon allweddol yn gyson.
· Bydd deiliad y swydd yn dod ag arbenigedd cyfathrebu uwch i gefnogi’r Pennaeth Cyfathrebu wrth reoli gweithrediadau dyddiol y tîm, arwain prosiectau cymhleth, mentora staff, a hyrwyddo arloesedd, ansawdd a datblygu gwasanaethau ar draws y sefydliad.
- Mae ein gwerthoedd sefydliadol o Gydweithio, gydag Ymddiriedaeth a Pharch, i Wneud Gwahaniaeth, a ategir gan ein Fframwaith Bod ar Ein Gorau yn nodi sut y disgwylir i ni gyflawni ein rolau. Y grwpiau Cydweithwyr Bod ar Ein Gorau sy'n berthnasol i'r rôl hon yw Cydweithwyr a Rheolwr Pobl.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
- Gweithio ochr yn ochr â Phennaeth yr Is-adran a chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu a gwella arweinyddiaeth strategol a gweithredol yr Adran Gyfathrebu. Rheolaeth llinell y Tîm Newyddion a Materion Allanol a'r Tîm Cyfathrebu Mewnol a Chorfforaethol.
- Cefnogi rheolaeth weithredol o ddydd i ddydd a datblygiad strategol yr Is-adran Gyfathrebu, a chydbwyso'r angen i ddatblygu gwasanaethau'n rhagweithiol ac arweinyddiaeth strategol yn erbyn gofynion adweithiol cyfrifoldebau gweithredol a rhanddeiliaid.
- Goruchwylio cynllunio a chyflawni'r portffolio cyfathrebu, sy’n cynnwys cyfrifoldeb am gefnogi aelodau'r Bwrdd a'r Tîm Gweithredol i gyflawni cylch blynyddol o weithgarwch ymgysylltu â staff a chyfathrebu arweinyddiaeth.
- Rhagweld ac ymateb i faterion sy'n dod i'r amlwg, a sicrhau bod rhanddeiliaid allweddol yn cael eu cynnwys a'u hysbysu a bod cynlluniau cadarn, archwiliadwy yn cael eu rhoi ar waith i liniaru risgiau wrth iddynt godi.
- Darparu arweinyddiaeth broffesiynol ar draws y sefydliad. Arwain, tyfu a datblygu'r is-adran gyfathrebu i ddarparu allbynnau rhagorol sy'n bodloni anghenion rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
- Cefnogi rhaglenni strategol cymhleth y mae eu heffaith a'u rhanddeiliaid yn cwmpasu'r sefydliad cyfan neu bartneriaid ar draws y system iechyd yn genedlaethol. Mae hyn yn cynnwys atebolrwydd am sicrhau bod dull effeithiol, wedi'i gynllunio o gyfleu newid yn y sefydliad ac o ran newid cenedlaethol sy'n effeithio ar staff a gwasanaethau.
- Rheoli amrywiaeth eang o waith cyfathrebu, sy’n cynnwys pynciau fel newid diwylliant, trawsnewid digidol, newid gwasanaethau, a'r agenda cynaliadwyedd. Yn aml yn trin gwybodaeth hynod sensitif ac yn cynghori ar faterion dadleuol o fewn ac ar draws y sefydliad.
- Goruchwylio cyflawni strategaeth digwyddiadau corfforaethol y sefydliad, sy’n cynnwys ei brif ddigwyddiad cenedlaethol, sef Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus flynyddol Cymru.
- Gyrru cynllunio strategol, a sicrhau bod blaenoriaethau cenedlaethol a lleol yn cael eu hadlewyrchu mewn gweithgaredd cyfathrebu a defnyddio strategaethau cyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o flaenoriaethau allweddol iechyd y cyhoedd.
- Gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol i integreiddio anghenion cyfathrebu i gynllunio strategol hirdymor. Cynghori, dylanwadu a pherswadio staff uwch ar ddulliau priodol. Cydweithio â'r tîm Strategaeth a Chynllunio i sicrhau bod Cyfathrebu wedi'i ymgorffori i fframweithiau cynllunio sefydliadol.
- Datblygu'r swyddogaeth a'r gwasanaeth Cyfathrebu yn barhaus. Arwain a noddi prosiectau cyfathrebu penodol i weithredu ffyrdd newydd o weithio sy'n cyd-fynd â strategaethau a chynlluniau busnes y sefydliad. Cynllunio a threfnu amrywiaeth eang o weithgareddau a rhaglenni cymhleth ar sail tymor byr a hirdymor, ac addasu blaenoriaethau ac addasu cynlluniau gwaith yn ôl yr angen.
- Rhoi cyngor arbenigol i lywio penderfyniadau strategol ar gyfer y sefydliad. Dadansoddi ac asesu gwybodaeth sy'n gwrthdaro lle mae barn arbenigwyr yn wahanol neu lle nad yw ar gael, a chymhwyso barn a meddwl beirniadol i gyflawni canlyniadau priodol.
- Arfer barn yn aml a gwneud penderfyniadau arwyddocaol a gwybodus sy'n cynnwys ffeithiau, ffigurau a sefyllfaoedd cymhleth iawn. Dadansoddi, dehongli a chymharu amrywiaeth o opsiynau—sy'n aml yn gysylltiedig â rhaglenni newid sefydliadol neu drin gwybodaeth sensitif neu ddadleuol sydd â photensial i effeithio ar eu heffeithiau gweithredol neu ar enw da.
- Gweithredu gyda gradd uchel o ymreolaeth, gan gymryd camau gweithredu ar y cyd ag aelodau'r Tîm Gweithredol ar faterion sy'n ymwneud â staff a'r sefydliad.
- Gweithio'n annibynnol i ddylanwadu ar strategaethau, polisïau a chanllawiau cenedlaethol/lleol sefydliadol a'u llunio, a chynghori ar eu dehongli a'u gweithredu.
- Cynnal ymwybyddiaeth wleidyddol a deall materion cymhleth y GIG a materion gwleidyddol o fewn cyd-destunau strategol sy'n newid.
- Defnyddio data mesur ffurfiol ac anffurfiol i werthuso effeithiolrwydd sianeli cyfathrebu a'u cynnwys, a chymhwyso mewnwelediadau i wella cyfathrebu yn y dyfodol.
- Gosod, monitro a rhagweld cyllidebau cywir ar gyfer meysydd cyfrifoldeb.
- Arwain a chefnogi'r Tîm Cyfathrebu, a sicrhau bod llwyth gwaith yn cael ei ddyrannu a'i flaenoriaethu'n effeithiol. Sicrhau bod pob aelod uniongyrchol o’r staff sy’n atebol yn cael arfarniadau blynyddol, amcanion clir, cynlluniau datblygu personol a hyfforddi, ac adolygiadau rheolaidd o Fy Nghyfraniad. Monitro absenoldeb salwch a chydymffurfio â phrosesau Adnoddau Dynol eraill.
- Dirprwyo ar ran y Pennaeth Cyfathrebu yn ôl yr angen.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel gradd meistr neu gyfwerth, neu brofiad cyfatebol
- Cymhwyster perthnasol e.e. astudiaethau cyfathrebu a/neu gysylltiadau cyhoeddus a/neu farchnata
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol, e.e. CIPR/CIM/IOIC
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster rheoli
- Aelodaeth Siartredig CIPR neu CIM
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth arbenigol ddatblygedig iawn o gyfathrebu mewnol ac allanol a'r ystod eang o weithgarwch a gweithdrefnau cysylltiedig, wedi'u hategu gan theori a phrofiad
- Profiad o weithio gyda thimau amlddisgyblaethol ar lefelau amrywiol
- Profiad amlwg o adeiladu, arwain, ysgogi, rheoli a datblygu timau
- Profiad eang, a thystiolaeth o, weithredu'n effeithiol ar lefel uwch o fewn sefydliad
- Profiad amlwg o weithio gydag uwch gydweithwyr, arweinwyr a rheolwyr, a darparu cyngor cyfathrebu newid arbenigol iddynt
- Profiad ymarferol a thystiolaeth o ddefnyddio technegau mesur ffurfiol ac anffurfiol i werthuso cyfathrebiadau
- Profiad o gynllunio a chyflwyno digwyddiadau cenedlaethol proffil uchel
- Profiad o ddatblygu a gwella gwasanaethau, gan gynnwys pobl, prosesau a pholisïau
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am y GIG
- Profiad eang, a thystiolaeth o weithredu’n effeithiol ar lefel uwch o fewn sefydliadau’r GIG, gwasanaethau cyhoeddus ehangach a/neu’r trydydd sector
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Cyfathrebu'n effeithiol gan gynnwys sgiliau ysgrifenedig ac ar lafar gwych
- Yn gyfforddus wrth weithio o'i fenter ei hunain ac yn hyderus wrth wneud dyfarniadau cadarn ac annibynnol
- Meddwl dadansoddol sy'n gallu dod i gasgliadau clir o ffynonellau gwybodaeth lluosog
- Yn gallu dangos y gallu i adeiladu perthnasoedd cadarnhaol â chydweithwyr fel mater o drefn er mwyn sefydlu hyder ac ymddiriedaeth
- Meddu ar y gallu yn gyfartal i uniaethu â phobl, prosesau a systemau’n dda
- Gallu datblygu strategaethau cyfathrebu mewnol hirdymor a chymhleth a dangos lefel uchel o gymhwysedd wrth roi cynlluniau ar waith
- Gallu amlwg i gyflawni targedau ac amcanion mewn amgylchedd llethol a llawn pwysau o fewn terfynau amser heriol
- Yn gallu dangos sgiliau rhyngbersonol ar bob lefel, gan ddangos hygrededd, dylanwad a chraffter gwleidyddol
- Sgiliau cyfathrebu, trefniadol, gwella ansawdd, arweinyddiaeth ardderchog
- Yn gallu cymhwyso creadigrwydd ac arloesedd i ddatblygu ei ymagwedd at gyfathrebu mewnol, yn seiliedig ar gysyniadau, mewnwelediadau neu ddadansoddiadau newydd
- Yn gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm a chynnig atebion arloesol i heriau
- Gallu delio â pherthnasoedd traws-sefydliadol heriol
- Yn hyderus i ymateb yn gyflym ac yn effeithlon i amgylchiadau sy'n newid yn barhaus
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu
Arall
Meini prawf dymunol
- Parodrwydd i weithio o'n swyddfa yng Nghaerdydd rhwng 40% a 60% o'r amser (2 i 3 ddiwrnod yr wythnos)
- Parodrwydd i deithio i leoliadau eraill ledled Cymru lle bo angen
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Leah Morantz
- Teitl y swydd
- Head of Communications
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector