Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyllid
Gradd
Gradd 8c
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-AC142-0625
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Crynhoad Cyfalaf 2
Tref
Caerdydd
Cyflog
£75,405 - £86,885 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
29/06/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Pennaeth Adrodd Ariannol a Rheolaeth

Gradd 8c

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn yr Is-adran Cyllid a Pherfformiad yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i arwain y swyddogaeth Adrodd a Rheoli Ariannol fel Pennaeth Adrodd a Rheoli Ariannol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais amdani.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae’r cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:

  • Cynhyrchu a chyflwyno cyfrifon statudol gan sicrhau eu bod yn cynrychioli darlun gwir a theg, eu bod ar amser ac yn bodloni holl ofynion cyfreithiol, Llywodraeth Cymru ac archwilio allanol.
  • Rheoli'r trefniadau llywodraethu ariannol cyffredinol gan gynnwys sicrwydd rheolaethau, gorchmynion sefydlog, gweithdrefnau ariannol, a chydlynu gwaith archwilio mewnol ac allanol a gwasanaethau atal twyll yr Ymddiriedolaeth.
  • Uniondeb a chywirdeb cyffredinol systemau cyfrifyddu'r Ymddiriedolaeth. Bod yn gyfrifol am ddatblygiad parhaus System Rheoli Ariannol Oracle y sefydliad gan gynnwys integreiddio gwybodaeth ariannol yr Ymddiriedolaeth yn llawn. 
  • Rheoli sefyllfa arian parod gyffredinol a chyfrifon banc yr Ymddiriedolaeth yn unol â gofynion y Trysorlys a chanllawiau LlC. 
  • Rheoli swyddogaeth y Gwasanaethau Ariannol yn yr Ymddiriedolaeth, sy'n cynnwys darparu goruchwyliaeth o'r gwasanaethau a ddarperir gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC), a sicrhau bod systemau ar waith i sicrhau bod targedau perfformiad yn cael eu cyrraedd ar draws pob maes, yn cynnwys polisi talu'r sector cyhoeddus.
  • Rheolaeth gyllidebol gyffredinol ar draws yr Ymddiriedolaeth, a sicrhau uniondeb y Cynllun Ariannol, y cyllidebau a'r llyfr cyfrifon cyffredinol. Rheoli dyraniad adnoddau a chyllidebau incwm yr Ymddiriedolaeth a rheoli cyllidebau canolog a chronfeydd wrth gefn yr Ymddiriedolaeth.

Gweithio i'n sefydliad

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru. Ein gweledigaeth yw 'Gweithio i gyflawni dyfodol iachach i Gymru'. Rydym yn chwarae rhan ganolog wrth ysgogi gwelliannau yn iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi'r gwaith o ddatblygu iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.

Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd. Rydym yn sefydliad sy'n rhoi ein hunain wrth wraidd cefnogi pobl, cymunedau, partneriaid a Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â'r heriau mawr hyn a darparu atebion ar gyfer gweithredu.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd “Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth”. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gweler y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person sydd ynghlwm am fanylion llawn y rôl a'r cyfrifoldebau.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cyfrifydd â chymwysterau proffesiynol CCAB gyda phrofiad ôl-gymhwyso sylweddol mewn rôl uwch
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus.
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster rheoli priodol

PROFIAD

Meini prawf hanfodol
  • Profiad cyllid helaeth ar lefel uwch reolwr yn y GIG neu gyfwerth
  • Hanes blaenorol o ymdrin â sefyllfaoedd hynod gymhleth a chyflawni amcanion corfforaethol heriol.
  • Profiad o drafod ac ymdrin â sefyllfaoedd anodd a gwrthdaro.
  • Profiad sylweddol o arwain, rheoli a goruchwylio staff.
  • Profiad o weithio mewn sefydliad hynod gymhleth a gwleidyddol sensitif
  • Tystiolaeth o ddylanwadu'n llwyddiannus ar uwch glinigwyr a gweithwyr proffesiynol eraill a gweithio gyda thîm amlddisgyblaethol.
  • Gwybodaeth a phrofiad helaeth o fframwaith llywodraethu ariannol y GIG.
  • Profiad o weithredu ar Lefel Bwrdd neu'n agos ato mewn sefydliad cymhleth mawr.
Meini prawf dymunol
  • Profiad Rheolaeth Cyffredinol
  • Profiad o reoli prosiectau
  • Profiad o ymgymryd ag achosion busnes cymhleth

SGILIAU

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a chyflwyno rhagorol
  • Sgiliau dadansoddi, dehongli a chymharu datblygedig iawn a’r gallu i ddelio â gwybodaeth hynod gymhleth a sensitif i gefnogi penderfyniadau rhesymegol.
  • Sgiliau rheoli ac arwain staff helaeth.
  • Gallu i weithio’n annibynnol a’r un mor effeithiol fel rhan o dîm amlddisgyblaeth
  • Yn gallu gweithio ar nifer o dasgau cymhleth ar yr un pryd a chynhyrchu gwaith o safon uchel o fewn terfynau amser tynn a chydag adnoddau cyfyngedig
  • Yn hyddysg mewn TG gyda sgiliau cyfrifiadurol ymarferol yn cynnwys cynhyrchion Microsoft, ac ar lefel uwch o ran taenlenni Excel
  • Sgiliau rheoli prosiect amlwg gan gynnwys cynllunio gwaith, trefnu a blaenoriaethu.
  • Sgiliau trafod a rheoli gwrthdaro y gellir eu dangos
  • Y gallu i feddwl yn arloesol a datblygu ffyrdd newydd o weithio, gan ymdrechu’n barhaus i wella systemau a pherfformiad
Meini prawf dymunol
  • Defnyddio Oracle neu systemau cyfriflyfr cyffredinol eraill

GWYBODAETH ARBENNIG

Meini prawf hanfodol
  • Meddu ar brofiad ac arbenigedd ym maes rheoli ac arwain staff ac adrannau.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol o gyfundrefn gyllid ac anariannol y GIG, gan gynnwys y polisïau sy’n sail iddynt. Ynghyd â gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol o’r polisïau, gweithdrefnau a gofynion statudol cyfrifyddu ac ariannol perthnasol.
  • Y gallu i ddehongli a chymhwyso Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol ac Egwyddorion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth a phrofiad arbenigol o gyfrifo rheolaeth ariannol strategol y GIG a chynllunio ariannol strategol.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Neil Stoodley
Teitl y swydd
Interim Head of Finance & Performance
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg