Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ysgrifennydd Meddygol
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (Dydd Llun, Mercher, Iau, Gwener 9-5 Egwyl ginio 30 munud)
Cyfeirnod y swydd
028-AC125-0424
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Sgrinio'r Fron Gorllewin Cymru
Tref
Caerdydd
Cyflog
£25,524 - £28,010 pro rata y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
23/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Ysgrifennydd Meddygol

Gradd 4

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Darparu gwasanaeth ysgrifenyddol cynhwysfawr o'r radd flaenaf i dîm mawr o Staff Meddygol Ymgynghorol lleol ac i hwyluso cyfathrebu effeithiol rhwng timau meddygol yng nghanolfan De-ddwyrain Cymru.

Cymryd rhan weithredol yn y gwaith o gynllunio a gweithredu'r holl glinigau darllen ac asesu a gynhelir yng Nghanolfan Sgrinio'r Fron De-ddwyrain Cymru yng Nghaerdydd. Rhoi cyngor a gwybodaeth anghlinigol dros y ffôn, yn Gymraeg neu yn Saesneg, i ddefnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd neu eu gofalwyr.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae cyfle wedi codi ar gyfer Ysgrifennydd Meddygol hynod frwdfrydig a phrofiadol. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol cynhwysfawr i'r tîm clinigol lleol. Cynllunio a chefnogi’r llwybr asesu, gan gynnwys prosesu clinigau asesu, teipio llythyrau clinig, cofnodi data clinigol a chreu atgyfeiriadau triniaeth electronig.

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu dangos llygad craff am fanylion, meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, sgiliau teipio copi a sain cywir a sgiliau trefnu lefel uchel.

Gwahoddir ceisiadau gan unigolion â chymwysterau addas i weithio yn rhan o Bron Brawf Cymru, Caerdydd.

Mae manylion llawn y rôl a manyleb y person ynghlwm.

Os hoffech drafod y swydd cyn gwneud cais, cysylltwch â Linda Williams ar 02920 787808 neu drwy e-bost: [email protected] 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.

Gweithio i'n sefydliad

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Sefydliad Iechyd y Cyhoedd cenedlaethol Cymru. Ein gweledigaeth yw ‘Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru’. Rydym yn chwarae rhan ganolog mewn ysgogi gwelliannau o ran iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd “Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth”. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I gael rhagor o wybodaeth am weithio i ni, y buddion a gynigiwn a'r arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gweithio-i-ni/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr

 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Ynghlwm yn y dogfennau ategol, mae Swydd-ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person. Fel arall, cliciwch ar “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • RSA Prosesu Geiriau Lefel 2 neu gyfwerth
Meini prawf dymunol
  • RSA Prosesu Geiriau Lefel 3
  • Cymhwyster AMSPAR

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profaid ysgrifennydd meddygol blaenorol
Meini prawf dymunol
  • Profaid o weithio yn y GIG
  • Profaid o weithio mewn uned arbenigol ar y fon

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol
  • Gallu sgyrsio yn Gymraeg, ar faterion cyffredinol, a defnyddwyr gwasanaethau, eu teulu neu ofalwyr
  • Gallu blaenoriaethu gwaith
  • gallu gweithioodan bwysau a bodloni terfynau amser
  • Chwaraewr tim Clywdeipio
Meini prawf dymunol
  • Llaw-fer

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am amrywiaeth eang o derminoleg feddygol yn Saesneg; rhoddir cymorth llawn lle mae angen dysgu terminoleg feddygol Gymraeg
  • Gwybodaeth am amrywiaeth o becynnau TG e.e. Microsoft Office, Excel, Outlook, Access
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am sgrinio'r fron
  • Gwybodaeth am gronfa ddata System Sgrinio Genedlaethol y fron

Nodweddion Personol

Meini prawf hanfodol
  • Dull hyblyg o weithio
  • Llawn cumhelliant / Brwdfrydig
  • sylw i fanylion

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Linda Williams
Teitl y swydd
Deputy Screening Centre Manger
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
02920 787808
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg