Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwasanaethau Gweithredol
Gradd
Gradd 2
Contract
Cyfnod Penodol: 22 mis (gyfnod penodol / secondiad am 12 mis orherwydd cyllido)
Oriau
Rhan-amser - 35 awr yr wythnos (Dydd Llun- Dydd Gwener, 08:30 - 16:30)
Cyfeirnod y swydd
120-EA157-0725
Cyflogwr
Canolfan Ganser Felindre
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Ganser Felindre
Tref
Caerdydd
Cyflog
£23,970 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
13/07/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Canolfan Ganser Felindre logo

Cynorthwyydd Cyfleusterau

Gradd 2

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;

Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.

ein gwerthoedd;

  • Gofalgar
  • Parchus
  • Atebol

ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.

Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.

Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.

 


Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle wedi dod ar gael i berson brwdfrydig a hunan-gymhellol i ymuno ag Cynorthwyydd  Gweithredol Canolfan Ganser Felindre i ddarparu gwasanaethau rheng flaen i gleifion, staff ac ymwelwyr. 

1.       Maer'r swydd hon am gyfnod penodol / secondiad am 22 mis. Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon. 

1.     Maer'r swydd hon am gyfnod penodol / secondiad am 22 mis. Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon. SYLWCH Bydd angen i ymgeiswyr gael caniatâd eu rheolwr llinell cyn cyflwyno eu diddordeb.  Gallwch lawrlwytho ffurflen ryddhau i'w chynnwys gyda'ch ffurflen gais yma. (Bydd angen i’r aelod o staff a’r rheolwr llinell gwblhau’r ffurflen hon a’i dychwelyd atoch)

 

 

 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rôl gyfun yw rôl y Cynorthwyydd Cyfleusterau sy'n darparu Gwasanaethau Arlwyo a Chadw Tŷ o fewn y Ganolfan Ganser sy'n gweithio yn unol â safonau glanhau cenedlaethol a deddfwriaeth diogelwch bwyd.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus i gyflawni pob un o'r prif dasgau yn unol â'r swydd ddisgrifiad yn gweithio o fewn gwerthoedd ac ymddygiadau Ymddiriedolaeth Prifysgol Felindre. 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

Gweithio i'n sefydliad

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.

Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.

Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.

Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/ 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. 

Manyleb y person

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth dda am Iechyd a Diogelwch, COSHH ac am y systemau rheoli diogelwch bwyd HACCP
Meini prawf dymunol
  • NVQ Lefel 2 bwyd a diod

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad arlwyo neu lanhau blaenorol, yn enwedig mewn wardiau ac ystafelloedd bwyta/siopau coffi ysbytai
Meini prawf dymunol
  • Profiad arlwyo blaenorol, yn enwedig mewn wardiau/ystafelloedd bwyta ysbytai

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Tystysgrif Hylendid Bwyd Sylfaenol Lefel 2 NVQ Lefel 2 mewn glanhau. Yn barod i weithio tuag at Gymhwyster Prentisiaeth Cyfleusterau Cymru Gyfan
Meini prawf dymunol
  • NVQ Lefel 2 bwyd a diod

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveInvestors in People: GoldImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Susan Sheppard-Murphy
Teitl y swydd
Facilities Services Deputy Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
02920 196157
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg