Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Radiotherapy Physics
Gradd
Gradd 8a
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
120-HS053-0524
Cyflogwr
Canolfan Ganser Felindre
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Ganser Felindre
Tref
Caerdydd
Cyflog
£51,706 - £58,210 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
21/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Canolfan Ganser Felindre logo

Gwyddonydd Clinigol Arbenigol mewn Ffiseg Radiotherapi

Gradd 8a

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;

Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.

ein gwerthoedd;

BYDD Atebol
BYDD Feiddgar
BYDD Ofalgar
BYDD Ddeinamig
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.

Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.

Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.

 


Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am unigolion talentog a brwdfrydig i ymuno â'r adran, sydd gyda sgiliau gwyddonol gwych ac a fydd yn gallu arwain yr adran drwy'r newidiadau dros y blynyddoedd nesaf.  Bydd deiliad/deiliaid y swydd wedi'u lleoli naill ai yng nghanolfan Caerdydd neu yn y ganolfan loeren, a bydd disgwyl iddynt fynychu'r ganolfan arall pan fo angen.

Mae deiliad y swydd, ar y cyd ag Arbenigwyr Ffiseg Feddygol (MPEs) eraill ac uwch staff yn yr Adran Radiotherapi, yn gyfrifol am sicrhau bod radiotherapi yn cael ei ddarparu'n ddiogel. Bydd yn gweithredu fel Arbenigwr Ffiseg Feddygol o dan ddeddfwriaeth IR(ME)R 2017 ar draws pob maes radiotherapi, gan arwain mewn meysydd y mae ganddo arbenigedd penodol ynddynt e.e. cynllunio triniaeth, dosimetreg, ffiseg delweddu, bracitherapi neu gyfrifiadura. Bydd yn arwain y gwaith o weithredu a chomisiynu technolegau a thechnegau newydd, yn darparu cyngor arbenigol ar lefel MPE i dimau amlddisgyblaethol ac yn rhoi cyngor ar y cynlluniau triniaeth cleifion mwyaf cymhleth, materion yn ymwneud â radiobioleg a dosimetreg a darparu cymorth arbenigol ar gyfer ymchwil a threialon clinigol . 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Ddarparu cyngor gwyddonol a thechnegol hynod gymhleth ar ddelweddu, cynllunio triniaeth a materion yn ymwneud â dosimetreg i feddygon ymgynghorol radiotherapi a staff clinigol eraill ynghylch triniaethau bracitherapi neu radiotherapi pelydr allanol i gleifion.

Cydgysylltu â chynhyrchwyr a chydweithwyr mewn canolfannau eraill yn ôl yr angen ar faterion yn ymwneud â thriniaethau radiotherapi, delweddu ac optimeiddio delweddau.

Trafod materion sy'n gysylltiedig â sefydlu triniaeth Radiotherapi, materion yn ymwneud â radiobioleg a  dosimetreg a materion eraill gyda staff clinigol a chleifion gan ddisgrifio gwybodaeth wyddonol gymhleth a'i goblygiadau ar gyfer triniaeth y claf.

Cyflwyno a lledaenu canlyniadau clinigol trwy gyflwyniadau llafar neu bosteri mewn cyfarfodydd a chynadleddau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a, lle bo'n briodol, paratoi papurau i'w cyhoeddi mewn cyfnodolion gwyddonol.

Addysgu egwyddorion Ffiseg Radiotherapi i bob disgyblaeth yn yr ystafell ddosbarth ac yn y gweithle.

Yn unol ag IRMER(2017), sicrhau bod holl weithredwyr offer radiotherapi perthnasol wedi derbyn hyfforddiant digonol ac wedi cyrraedd y lefel ofynnol o gymhwysedd.

Trafod statws y system ansawdd gydag archwilwyr mewnol ac allanol gan gynnwys cyfiawnhau newidiadau i brosesau, datrys achosion o ddiffyg cydymffurfio ac adrodd ar ddigwyddiadau adroddadwy yn unol ag IR(ME)R 2017 

Gweithio i'n sefydliad

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru gyfan yng Nghanolfan Ganser flaengar Felindre a'n Gwasanaeth Gwaed Cymru arobryn, yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran ynghyd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Gwasanaethau a Thechnoleg Iechyd GIG Cymru ac rydym wedi datblygu partneriaeth gref gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn. 

Mae'r Gwasanaeth Radiotherapi yng Nghanolfan Ganser Felindre yn cael ei drawsnewid yn sylweddol, a bydd hyn yn parhau am sawl blwyddyn. Ar hyn o bryd, mae 8 cyflymydd llinellol (4 Varian a 4 Elekta) a pheiriant Flexitron Elekta yn cael eu defnyddio i ddarparu triniaethau bracitherapi. Mae rhaglen newydd o'r holl ddyfeisiau triniaeth, Systemau Gwybodaeth Oncoleg a Systemau Cynllunio Triniaeth ar y gweill; gosodwyd y peiriant Varian Halcyon cyntaf ym mis Ionawr 2023, a bydd un arall yn cael ei osod ym mis Medi 2023. Mae disgwyl i ganolfan loeren radiotherapi agor yn y Fenni yn 2025, ac mae Canolfan Ganser Felindre newydd i fod i agor yn 2027. Bydd offer radiotherapi yn y ganolfan newydd yn cynnwys peiriant bracitherapi Varian BRAVO, 6 peiriant Halcyon Maria, 2 beiriant Truebeams Varian (HD) a pheiriant ymchwil pwrpasol.

 

 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person sydd ynghlwm o fewn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwnewch gais nawr" i'w weld yn Trac.

 

 

Manyleb y person

Qualifications

Meini prawf hanfodol
  • Gradd gyntaf mewn ffiseg neu ddisgyblaeth gysylltiedig.
  • MSc neu gyfwerth mewn ffiseg feddygol
  • Wedi cofrestru fel Gwyddonydd Clinigol gyda'r HCPC
  • Tystysgrif Cymhwysedd RPA2000 i weithredu fel MPE gan ddangos gwybodaeth sy’n rhagori ar lefel Cofrestru Clinigol ac MPE, neu'n agos at ennill y dystysgrif
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion Ffiseg Ymbelydredd gryn dipyn y tu hwnt i'r lefel.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion dyfeisiau triniaeth radiotherapi.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion yr holl ddulliau delweddu a ddefnyddir mewn Radiotherapi
  • Dealltwriaeth drylwyr o'r ddeddfwriaeth fel y mae’n gymwys i ddefnyddio ymbelydredd mewn ysbytai
  • Dealltwriaeth o gyfyngiadau a pheryglon dosimetreg a chyfrifo ymbelydredd, gan gynnwys electronau.
  • Dealltwriaeth o gynlluniau ac egwyddorion Sicrhau Ansawdd mewn RT.
  • Gwybodaeth am Ddiogelu Data; egwyddorion ac arferion Iechyd a Diogelwch
  • Gwybodaeth gyffredinol dda am le ffiseg ac RT mewn therapi canser.
Meini prawf dymunol
  • PhD mewn Ffiseg Feddygol neu debyg
  • Wedi cyhoeddi ym maes ffiseg radiotherapi neu bwnc cysylltiedig.
  • Sgiliau Mathemateg Uwch.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion ac arferion dadansoddi data, agregu ansicrwydd, ac ystadegau
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion dulliau ymchwil ffiseg.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o sail radiobiolegol RT a'r defnydd ohoni ar gyfer newidiadau dos-ffracsiwn
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o ganser a ddaw o ffeithiau ac egwyddorion ymbelydredd
  • Gwybodaeth dda o anatomeg

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Profiad helaeth mewn Radiotherapi hyd at lefel MPE
  • Profiad o gymryd rôl oruchwyliol
  • Profiad arbenigol o weithredu offer radiotherapi a systemau cynllunio triniaeth a sicrhau ansawdd cysylltiedig.
Meini prawf dymunol
  • Profiad arbenigol hyd at lefel MPE ar draws yr holl gynllunio triniaeth, dosimetreg a bracitherapi.
  • Wedi ymwneud â deddfwriaeth ymbelydredd.

Aptitude and Abilities

Meini prawf hanfodol
  • Gallu cyfathrebu materion gwyddonol anodd i wyddonwyr a phobl nad ydynt yn wyddonwyr gyda sgiliau cynhyrchu a chyflwyno llafar, ysgrifenedig a chlyweledol da.
  • Gallu dangos bod newid cadarnhaol yn cael ei roi ar waith yn effeithiol wrth ddatblygu gwasanaethau
  • Gallu dangos gweithrediad clinigol llwyddiannus technegau triniaeth a / neu offer newydd
  • Negodwr da wrth roi gwybod am newidiadau ymarfer
  • Dadansoddi cyfrifiadurol uwch, trin data a'i arddangos
  • Sgiliau addysgu
Meini prawf dymunol
  • Yn gallu siarad Cymraeg hyd at lefel 1

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveInvestors in People: GoldImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rebecca Windle
Teitl y swydd
Deputy Head of Radiotherapy Physics
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
02920 316273
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg