Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweithredol
Gradd
Executives / VSM: Executives / VSM
Contract
6 mis (Cyfnod penodol / secondiad am 6 mis i diwally anghenion y gwasanaeth)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
120-AC815-0725-A
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
mddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre 2 Charnwood Court
Tref
Caerdydd
Cyflog
£118,930 - £123,872 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
14/08/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre logo

Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Datblygu Pobl a Sefydliadol

Executives / VSM: Executives / VSM

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;

Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.

ein gwerthoedd;

  • Gofalgar
  • Parchus
  • Atebol


ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.

Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre le arbennig ym maes gofal iechyd yng Nghymru. Mae’n sefydliad anhygoel i weithio ynddo ac i ddatblygu eich gyrfa hefyd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnwys dwy adran, sef Canolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) a Thechnoleg Iechyd Cymru (HTW) yn disgyn dan adain yr Ymddiriedolaeth hefyd, ar ran Llywodraeth Cymru a GIG Cymru.

Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddion a chefnogaeth i staff.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o drafod y cyfle hwn gyda chi.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol. 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle wedi codi i weithio am 6 mis fel Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Pobl a Datblygu Sefydliadol, i weithio gyda'r Prif Swyddog Gweithredol a Bwrdd yr Ymddiriedolaeth.

Rydym yn chwilio am arweinydd eithriadol sydd yn gallu gweithio ar draws portffolio eang a chefnogi'r sefydliad trwy gyfnod o gyfleoedd a newid ar draws ei wasanaethau.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ym 1994, ac mae'n un o 12 sefydliad iechyd statudol yng Nghymru. Rydym yn cyflogi tua 7,500 o staff, ac mae gennym drosiant blynyddol o £1.1 Biliwn. Prif bwrpas yr Ymddiriedolaeth ydy darparu gwasanaethau gwaed a chanser arbenigol i bobl Cymru. Rydym hefyd yn darparu nifer o wasanaethau eraill ar ran y GIG yng Nghymru (ar sail lletya), gan gynnwys Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, Technoleg Iechyd Cymru a Therapïau Datblygedig Cymru.

Mae hwn yn sefydliad sy'n seiliedig ar werthoedd, ac yn rhoi pwyslais ar gefnogi a datblygu ei weithlu yn yr hinsawdd bresennol o newid diwylliannol a thrawsnewid gwasanaethau.

Fel Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Datblygu Sefydliadol, byddwch yn uwch arweinydd y gweithlu, gyda phrofiad sylweddol o weithio ym meysydd newid ac arweinyddiaeth ddiwylliannol.

Ar gyfer y swydd dros dro chwe mis hon, byddwn yn ystyried pobl ar sail secondiad neu ar sail contract tymor penodol.  Byddai trefniadau llawn amser neu ran-amser yn cael eu hystyried, gyda rhai elfennau o weithio o bell yn bosibl.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd y Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Datblygu Sefydliadol yn gyfrifol am ddatblygu, dylunio a rheoli'r gweithlu, yn ogystal â datblygiad sefydliadol yr Ymddiriedolaeth.  Bydd yn gyfrifol am arweinyddiaeth a gwaith proffesiynol mewn perthynas â chyfrifoldebau'r Bwrdd fel cyflogwr i'r holl staff.

Fel aelod Gweithredol o’r Bwrdd, bydd gan y Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Datblygu Sefydliadol gyfrifoldeb corfforaethol ar y cyd ag aelodau eraill o’r Bwrdd am y cyfeiriad strategol, llunio polisïau corfforaethol a datblygu a chyflawni amcanion yr Ymddiriedolaeth.

Bydd y Cyfarwyddwr Gweithredol yn rhoi cyngor strategol ar ddatblygu sefydliadol a'r gweithlu i'r Bwrdd a bydd hefyd yn atebol yn statudol am bob mater gweithlu sy'n ymwneud â'r sefydliadau a letyir gan yr Ymddiriedolaeth. 

Maer'r swydd hon am gyfnod penodol / secondiad am  6 mis  i diwally anghenion y gwasanaeth,  Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.

Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth  drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.

Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.

Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Addysgedig i'r Gradd Meistr mewn Datblygu Sefydliadol neu gymhwysedd ôl-raddedig cyfatebol neu brofiad lefel uwch cyfatebol mewn sefydliad cymhleth.
  • Cymrodoriaeth y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (FCIPD)
  • Tystiolaeth o Reolaeth a Datblygu Arweinyddiaeth ddiweddar
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus.

Profiad a Gwybodaeth Hanfodol

Meini prawf hanfodol
  • Profiad amlwg mewn rôl uwch ym maes Pobl a Datblygu Sefydliadol.
  • Profiad rheoli a phroffesiynol sylweddol.
  • Tystiolaeth o weithio ar draws amrywiaeth o sefydliadau i gyflawni newid sylweddol a chynaliadwy.
  • Profiad o gynllunio a datblygu strategol.
  • Gwybodaeth a phrofiad damcaniaethol ac ymarferol o gynllunio'r gweithlu
  • Gwybodaeth ddamcaniaethol am dechnegau, ymarfer ac offer Datblygu Sefydliadol.
  • Tystiolaeth o gymryd rhan weithredol mewn cyflawni gwelliannau ac effeithlonrwydd gwasanaeth.
  • Profiad o feithrin hygrededd personol a phroffesiynol gyda'r Bwrdd, a grwpiau rheoli a staff amrywiol.
  • Dealltwriaeth o'r heriau sy'n wynebu'r gweithlu yn yr 21ain Ganrif.
  • Yn deall cyfraith AD a Chyflogaeth a sut i liniaru risg.

Galluedd a Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol a gallu gweithio'n effeithiol ac ar y cyd â chydweithwyr a phartneriaid eraill
  • Sgiliau arwain a dylanwadu rhagorol.
  • Yn gallu meddwl yn strategol a dadansoddi a datrys problemau cymhleth.
  • Arweinydd ysbrydoledig sy'n gallu arwain a rheoli newid.
  • Wedi ymrwymo i ddatblygiad parhaus staff a chi’ch hun.
  • Ymrwymiad i ddatblygu diwylliant o fod yn agored a phartneriaeth.
  • Ymrwymiad i wella ansawdd gofal a gwasanaethau cleifion a rhoddwyr
  • Tystiolaeth o hunanymwybyddiaeth.
  • Meddu ar feddwl creadigol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Carl James
Teitl y swydd
Exec Director of Strategy & Planning Deputy CEO
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
02920 615888
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Carl James, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio / Is-Gyfarwyddwr (Dychwelyd))

[email protected]

02920 615 888

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg