Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Radiotherapi
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 120-AHP163-0626
- Cyflogwr
- Canolfan Ganser Felindre
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gwasanaeth Canser Felindre
- Tref
- Caerdydd
- Cyflog
- £32,557 - £39,631 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 25/06/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Radiograffydd Therapi
Gradd 5
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.
ein gwerthoedd;
- Gofalgar
- Parchus
- Atebol
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.
Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.
Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i fand 5 Radiograffwyr Therapiwtig ymuno â'n tîm mewn adran radiotherapi blaengar yng Ngwasanaeth Canser Felindre.
Mae Gwasanaeth Canser Felindre yn cynnwys dwy adran radiotherapi, un yng Nghaerdydd ac un yn Y Fenni.
Rydym yn chwilio am Radiograffydd Therapiwtig brwdfrydig ac arloesol sy'n dymuno ehangu eu gwybodaeth a'u profiad mewn Canolfan Ganser sydd wedi’i hadeiladu’n bwrpasol, gan ddarparu gofal canser o'r radd flaenaf i bobl de-ddwyrain Cymru.
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal wyneb yn wyneb yn unig.
Bydd sylfaen Gwasanaeth Canser Felindre, Caerdydd neu Uned Radiotherapi Velindre @ Nevill Hall Y Fenni- i'w ofyn amdano yn y cyfweliad.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gweithio ym mhob rhan o'r adran radiotherapi h.y. ar unedau triniaeth (cyflymyddion llinellol, Orthofoltage, a Flexitron), ac yn yr ardal cyn triniaeth, a chyflawni technegau cyn-triniaeth a thriniaeth cywir a chyson.
Helpu i drefnu'r llwyth gwaith yn swyddogaethau amrywiol yr adran.
Bod yn rhan o dîm amlddisgyblaethol mawr, a bod yn rhan o’r gwaith o ddarparu gofal i gleifion sy'n cael radiotherapi.
Cymryd rhan yn y gwaith o hyfforddi a goruchwylio myfyrwyr.
Gweithio'n hyblyg yn unol â gofynion y gwasanaeth, gan gynnwys ar benwythnosau ac ar draws mwy
nag un safle.
Cymryd rhan mewn triniaeth CHART, a gweithio ar alwad yn ôl y gofyn.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol a’n Gwasanaeth Gwaed Cymru sydd wedi ennill gwobrau yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran ynghyd. Rydym hefyd yn ffodus i letya Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.
Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.
Ewch i'n gwefan i gael gwybod mwy: https://felindre.gig.cymru/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd Ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu gliciwch "Gwnewch gais nawr" i'w weld yn Trac.
Manyleb y person
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Sgiliau trefnu
- Sgiliau TG
- Trefnus
- Yn gallu addasu i newid
- Dangos menter
- Yn gallu sbarduno ei hun i weithio
- Gweithiwr tîm
- Dibynadwy a phrydlon
- Dull hyblyg o weithio ac anghenion y gwasanaeth
- Sgil rhyngbersonol
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg i Lefel 1
- Sgiliau goruchwylio – radiograffwyr a myfyrwyr
- Sgiliau mentora
Cymwysterau / Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- B.Sc. (Anrh) mewn Radiograffeg Therapiwtig neu Ddiploma Coleg y Radiograffyddion DCR (T)
- Wedi cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion a chysyniadau sy'n sail i gymwysiadau a thechnegau sydd yn cael eu defnyddio ym maes radiotherapi.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion oncoleg presennol
- Gwybodaeth lawn am reoliadau ymbelydredd
Meini prawf dymunol
- • Tystiolaeth o DPP (datblygiad proffesiynol parhaus) a enillwyd drwy gyrsiau byr ar lefel Meistr neu gyfwerth
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth o radiotherapi sydd wedi ei gaffael drwy symud o gwmpas drwy bob agwedd o’r maes radiotherapi (gan gynnwys fel myfyriwr), sy'n cynnwys yr ystod gyfan o offer radiotherapi hynod arbenigol a chymhleth iawn, gan gynnwys cyflymyddion llinellol a sganwyr CT
- Gallu ymarferol a thechnegol cadarn
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gydag offer Varian a/neu Elekta
- Sicrhau ansawdd
- Archwilio clinigol
- Asesiad myfyrwyr
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Samantha Allen
- Teitl y swydd
- Deputy Radiotherapy Services Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 029 20615888
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
029 20615888 Ext. 6258
Rhestr swyddi gyda Canolfan Ganser Felindre yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector






.png)