Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Radiotherapi
Gradd
Gradd 5
Contract
Cyfnod Penodol: 18 mis (Gyfnod penodol / secondiad am 12 mis)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
120-AHP173-1026
Cyflogwr
Canolfan Ganser Felindre
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Gwasanaeth Canser Felindre
Tref
Caerdydd/ Y Fenni
Cyflog
£32,557 - £39,631 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
29/10/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Canolfan Ganser Felindre logo

Radiograffydd Therapi

Gradd 5

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;

Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.

ein gwerthoedd;

  • Gofalgar
  • Parchus
  • Atebol

ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.

Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.

Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i fand 5 Radiograffwyr Therapiwtig ymuno â'n tîm mewn adran radiotherapi blaengar yng Ngwasanaeth Canser Felindre.

Mae Gwasanaeth Canser Felindre yn cynnwys dwy adran radiotherapi, un yng Nghaerdydd ac un yn Y Fenni.

Rydym yn chwilio am Radiograffydd Therapiwtig brwdfrydig ac arloesol sy'n dymuno ehangu eu gwybodaeth a'u profiad mewn Canolfan Ganser sydd wedi’i hadeiladu’n bwrpasol, gan ddarparu gofal canser o'r radd flaenaf i bobl de-ddwyrain Cymru.

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal wyneb yn wyneb yn unig.

Bydd sylfaen Gwasanaeth Canser Felindre, Caerdydd neu Uned Radiotherapi Velindre @ Nevill Hall Y Fenni-  i'w ofyn amdano yn y cyfweliad.

Maer'r swydd hon am gyfnod penodol / secondiad  am 18 mis. Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.

SYLWCH Bydd angen i ymgeiswyr gael caniatâd eu rheolwr llinell cyn cyflwyno eu diddordeb.  Gallwch lawrlwytho ffurflen ryddhau i'w chynnwys gyda'ch ffurflen gais yma. (Bydd angen i’r aelod o staff a’r rheolwr llinell gwblhau’r ffurflen hon a’i dychwelyd atoch)

 

Prif ddyletswyddau'r swydd


Gweithio ym mhob rhan o'r adran radiotherapi h.y. ar unedau triniaeth (cyflymyddion llinellol, Orthofoltage, a Flexitron), ac yn yr ardal cyn triniaeth, a chyflawni technegau cyn-triniaeth a thriniaeth cywir a chyson. 
 
Helpu i drefnu'r llwyth gwaith yn swyddogaethau amrywiol yr adran. 
 
Bod yn rhan o dîm amlddisgyblaethol mawr, a bod yn rhan o’r gwaith o ddarparu gofal i gleifion sy'n cael radiotherapi. 
 
Cymryd rhan yn y gwaith o hyfforddi a goruchwylio myfyrwyr. 
 
Gweithio'n hyblyg yn unol â gofynion y gwasanaeth, gan gynnwys ar benwythnosau ac ar draws mwy 
nag un safle. 
 
Cymryd rhan mewn triniaeth CHART, a gweithio ar alwad yn ôl y gofyn. 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Yn Ymddiriedolaeth Prifysgol Felindre, rydym yn falch o ddarparu gwasanaethau arbenigol ledled Cymru drwy Ganolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru, gyda chefnogaeth ein timau corfforaethol a'n partneriaethau â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac Iechyd  Technoleg Cymru.

 

Wrth edrych tua’r dyfodol, rydym yn paratoi ar gyfer agor Ganolfan Ganser Felindre newydd (nVCC) yng Ngwanwyn 2027—carreg filltir gyffrous a fydd yn trawsnewid gofal canser i’n poblogaeth. Wedi’i lleoli o fewn cyrraedd hawdd i ddinas fywiog Caerdydd a harddwch trawiadol Bannau Brycheiniog, rydym yn cynnig amgylchedd gwaith unigryw sy’n cyfuno arloesedd, cydweithio ac ansawdd bywyd rhagorol.

 

Ers ein sefydlu ym 1994, mae ein gweithlu ymroddedig wedi parhau’n ffyddlon i gyflawni egwyddorion gofal doeth ar draws ystod eang o rolau. Rydym yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i wella’r gwasanaethau a ddarparwn ymhellach.

 

Mae popeth rydym yn ei wneud wedi’i seilio ar werthoedd ein Hymddiriedolaeth. Rydym yn ofalgar, yn barchus ac yn atebol yn y ffordd rydym yn gweithio gyda chleifion, rhoddwyr, partneriaid a’n gilydd—gan sicrhau ein bod yn darparu’r safonau uchaf o ofal wrth ymdrechu’n barhaus i wella.

 

Os ydych am weithio i sefydliad sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, sy’n croesawu arloesedd ac sy’n cynnig cyfleoedd gyrfa gwerth chweil mewn lleoliad ysbrydoledig, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw’r lle i chi.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd Ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu gliciwch "Gwnewch gais nawr" i'w weld yn Trac.

Manyleb y person

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog
  • Sgiliau trefnu
  • Sgiliau TG
  • Trefnus
  • Yn gallu addasu i newid
  • Dangos menter
  • Yn gallu sbarduno ei hun i weithio
  • Gweithiwr tîm
  • Dibynadwy a phrydlon
  • Dull hyblyg o weithio ac anghenion y gwasanaeth
  • Sgil rhyngbersonol
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad Cymraeg i Lefel 1
  • Sgiliau goruchwylio – radiograffwyr a myfyrwyr
  • Sgiliau mentora

Cymwysterau / Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • B.Sc. (Anrh) mewn Radiograffeg Therapiwtig neu Ddiploma Coleg y Radiograffyddion DCR (T)
  • Wedi cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion a chysyniadau sy'n sail i gymwysiadau a thechnegau sydd yn cael eu defnyddio ym maes radiotherapi.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion oncoleg presennol
  • Gwybodaeth lawn am reoliadau ymbelydredd
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o DPP (datblygiad proffesiynol parhaus) a enillwyd drwy gyrsiau byr ar lefel Meistr neu gyfwerth

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth o radiotherapi sydd wedi ei gaffael drwy symud o gwmpas drwy bob agwedd o’r maes radiotherapi (gan gynnwys fel myfyriwr), sy'n cynnwys yr ystod gyfan o offer radiotherapi hynod arbenigol a chymhleth iawn, gan gynnwys cyflymyddion llinellol a sganwyr CT
  • Gallu ymarferol a thechnegol cadarn
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio gydag offer Varian a/neu Elekta
  • Sicrhau ansawdd
  • Archwilio clinigol
  • Asesiad myfyrwyr

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveDisability confident leaderInvestors in People: GoldImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Core principlesDisability Confident Leader - Welsh

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Samantha Allen
Teitl y swydd
Deputy Radiotherapy Services Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
029 20615888
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

029 20615888 Ext. 6258

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg