Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Caffael
- Gradd
- Band 8b
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 043-AC088-0625
- Cyflogwr
- GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Tŷ Gorwel, Adeilad 14
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £63,150 - £73,379 Y Flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/06/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Dirprwy Bennaeth Caffael Gweithredol
Band 8b
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Chwilio am yrfa ddeinamig ym maes caffael sy'n cynnig twf, heriau, a'r cyfle i gael effaith gadarnhaol ar y GIG yng Nghymru? Mae gan Wasanaethau Caffael PCGC gyfle cyffrous ar gyfer Dirprwy Bennaeth Caffael o fewn yr Is-adran Gwasanaethau Caffael Proffesiynol, sydd wedi’i lleoli ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda.
Mae’r rôl yn cynnwys arwain Partneriaethau Integredig Rheng Flaen, goruchwylio gweithrediadau caffael, a chyflawni amcanion allweddol a osodwyd yn y Cynllun Tymor Canolig Integredig—gan gynnwys strategaethau cyrchu, ymgysylltu clinigol, cyflawni arbedion, a chefnogi nod Llywodraeth Cymru o allyriadau carbon sero-net erbyn 2030.
Yn ogystal, bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol mewn cydweithrediad rhanbarthol Gorllewin Cymru, gan arwain gweithgareddau cyrchu a chaffael wrth gymhwyso craffter masnachol mewn tirwedd GIG sy'n datblygu'n gyflym. Mae'r rôl yn gofyn am ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan sicrhau gwelededd ac integreiddio aelodau tîm rheng flaen ar draws safleoedd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol; Anogir siaradwyr Cymraeg a Saesneg i wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn gyfrifol am arwain ar elfennau strategol allweddol a ddyrannwyd y Strategaeth Gaffael a phrosiectau mawr Byrddau Iechyd/Ymddiriedolaethau, gan gynnwys rheoli holl weithgareddau Caffael clinigol ac anghlinigol y Bwrdd Iechyd yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.
Yn gyfrifol am ddatblygu ethos adran gaffael o staff hyfforddedig, rhagweithiol a fydd yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ehangu darpariaeth gwasanaethau caffael, gan sicrhau bod rhaglen yn cael ei datblygu i gwmpasu pob maes o wariant nad yw'n ymwneud â chyflogau.
Gweithio'n agos gydag arweinwyr gwasanaethau eraill i ddatblygu, cyflwyno, cynllunio, trefnu a gweithredu strategaeth gaffael y Tîm Caffael Rheng Flaen Leol sy'n cyd-fynd â Chynlluniau Gweithredol a Chynllun Tymor Canolig Integredig y Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth ac sy'n ystyried y tirweddau cenedlaethol a rhanbarthol sy'n newid yn barhaus.
Dirprwyo ar gyfer y Penaethiaid Caffael Gweithredol mewn perthynas â Rheng Flaen y Tîm Caffael Lleol a Phortffolio Categori yn ôl yr angen.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.
Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl.
Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.
Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb. I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/
Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd ôl-raddedig (MA/MSc/MBA) neu brofiad cyfwerth amlwg mewn maes perthnasol
- Yn gymwys hyd at MCIPS
- Gwybodaeth arbenigol am gyfraith contractau / deddfwriaeth yr UE i gefnogi caffael cyhoeddus
- Deall buddion busnes sy’n cefnogi cyflwyno e-strategaethau, gan gynnwys e-dendro, arwerthiannau a rheoli catalog.
- Gwybodaeth gadarn am bolisïau’r GIG a’r llywodraeth, a gwybod ym mha hinsawdd wleidyddol ac economaidd y mae gofal iechyd yn cael ei gyflawni.
- Gwybodaeth gadarn am reoli caffael strategol a gweithredol
Meini prawf dymunol
- Yn gymwys mewn rheoli prosiectau, h.y. PRINCE2 neu fethodoleg amgen.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddefnyddio’r fethodoleg gwella gwasanaethau / prosesau / newid diwylliant yn llwyddiannus, h.y. LEAN, Six Sigma neu gyfwerth.
- Hanes blaenorol amlwg o reoli gweithredol, a chyflawni amcanion strategol gweithredol
- Profiad pendant o ymdrin â chaffaeliadau ‘cymhleth’ a/neu werth uchel mewn pryd, ac o fewn cyllideb.
- Arbenigedd mewn rheoli contractau a chaffael yr UE, a gafwyd drwy hyfforddiant pellach a/neu brofiad perthnasol.
- Profiad o reoli Categori
- Profiad o reoli pobl/staff
Meini prawf dymunol
- Ymwybyddiaeth wleidyddol, gan arddangos dealltwriaeth glir o oblygiadau agendâu cenedlaethol a lleol a sut y gellir rheoli’r rhain.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau arwain cryf a’r gallu i arwain drwy esiampl
- Y gallu i ddatblygu a gweithredu cynlluniau busnes aml-faes lle mae angen cymharu ystod o opsiynau
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn groyw ac yn gadarn wrth gyflwyno syniadau.
- Hanes blaenorol o reoli pobl, a’r gallu i feithrin, arwain, cymell a datblygu timau gan ddefnyddio systemau a damcaniaethau rheoli a datblygu priodol.
- Sgiliau dylanwadu datblygedig gyda sgiliau cyd-drafod/profiad helaeth, yn dda am feithrin perthnasoedd cynhyrchiol
Arall
Meini prawf hanfodol
- Hunanysgogol
- Yn dda am drefnu amser a gweithgareddau, yn gallu nodi materion a blaenoriaethau allweddol, a gweithio i ymestyn targedau.
- Ability to analyse and act upon highly complex data sets
- Y gallu i ddadansoddi a gweithredu ar setiau data cymhleth
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Claire Salisbury
- Teitl y swydd
- Deputy Director of Procurement Services
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector