Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Caffael
- Gradd
- Band 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 043-AC078-0525
- Cyflogwr
- GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Tŷ Gwent
- Tref
- Cwmbrân
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 09/06/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Swyddog Busnes Caffael
Band 4
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi codi i Swyddog Busnes Caffael ymuno â thîm Caffael rheng flaen PCGC Aneurin Bevan sydd wedi'i leoli yn Nhŷ Gwent, Lake View, Llantarnam yng Nghwmbrân. Dyma gyfle gwych i ddatblygu eich gyrfa gaffael mewn amgylchedd deinamig, heriol a phroffil uchel yn genedlaethol.
Fel gwasanaeth caffael sefydledig yn GIG Cymru, rydym wedi cynorthwyo’r Byrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaethau i ddarparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gleifion ers 7 blynedd a rhagor fel rhan o Gydwasanaethau GIG Cymru. Rydym yn wasanaeth sydd wedi ennill gwobrau, ac rydym yn canolbwyntio ar werth am arian, diogelwch, rhagoriaeth, arloesedd ac ansawdd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad (deiliaid) y swydd yn cefnogi’r Rheolwr Busnes Caffael i ddarparu gwasanaeth caffael proffesiynol i’r Ymddiriedolaeth / Bwrdd Iechyd ac yn cyfrannu at ddatblygu a chyflawni cynllun Busnes PCGC. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi’r Rheolwr Busnes Caffael ar brosesau caffael ac ar brosiectau allweddol.
Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod y gwasanaeth yn sensitif, yn ymatebol ac yn hyblyg i anghenion newidiol y defnyddwyr, ac yn cydbwyso hyn yn erbyn yr angen i barhau i fod yn gost effeithiol. Y brif dasg fydd darparu ffocws proffesiynol cryf ac effeithiol a fydd yn arwain at gyrraedd targedau Cenedlaethol, targedau PCGC a thargedau lleol y cytunir arnynt, ynghyd ag arbedion effeithlonrwydd a mentrau gwerth ychwanegol.
Cyflwyno PCGC fel busnes blaengar, rhagweithiol, ymatebol ac arloesol er mwyn cynhyrchu a sbarduno nifer y contractau a gyd-drafodir. Bydd yn gweithio’n agos gyda sefydliadau partneriaeth i ddylanwadu ar ddewis, blaenoriaethu newid a sicrhau arbedion, gwella prosesau a safoni cynhyrchion, a fydd yn gostwng costau a gwella ansawdd a gwasanaethau. Gweithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws y swyddogaeth Gaffael a sefydliadau Partner i hyrwyddo dulliau ar y cyd o ddatrys materion yn ymwneud â’r gwasanaeth.
Gweithio i'n sefydliad
Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.
Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl.
Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.
Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb. I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/
Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Shortlisting criteria
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am egwyddorion prynu proffesiynol a gafwyd trwy NVQ lefel 3 neu Dystysgrif Uwch mewn Caffael a Chyflenwi, ynghyd â gwybodaeth am gyfraith contract a gafwyd trwy gyrsiau byr a phrofiad NEU • Profiad gwaith blaenorol mewn swyddogaeth gontractio: e.e. gallu dehongli a datblygu manylebau technegol a masnachol i gefnogi gweithgareddau caffael, profiad o weithio gyda defnyddwyr terfynol i drosi gofynion gweithredol yn ddogfennaeth gaffael glir a chryno, gwerthuso cyflenwyr, gwahodd tendrau a gwerthuso cynigion, telerau ac amodau contractau.
- Gallu amlwg i feithrin, rheoli a chynnal perthnasoedd effeithiol â rhanddeiliaid mewnol a chyflenwyr allanol.
- Yn dangos sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf, a dull cydweithredol o ymgysylltu â thimau a gwerthwyr amrywiol.
Meini prawf dymunol
- Yn gallu gweithio o fewn terfynau amser
- Yn gymwys o ran defnyddio cynhyrchion Microsoft
- Gallu amlwg i baratoi dogfennaeth gan ddefnyddio cynhyrchion Microsoft, sy’n strwythurol ac yn ramadegol gywir, a’r gallu i roi cyflwyniad terfynol.
- Sgiliau trefnu rhagorol.
- Sgiliau cyfathrebu profedig.
- Yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol
- Yn gallu dyfalbarhau â gwaith hyd ei gwblhau.
- Yn gallu gweithio'n gadarnhaol fel rhan o dîm.
- Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol
- Yn gallu gweithio ar y cyd i ymgysylltu â thimau a gwerthwyr amrywiol
Other
Meini prawf dymunol
- Yn gallu teithio yn brydlon oddi ar y safle ar gyfer cyfarfodydd (fel y bo’n briodol) ledled Cymru a rhannau eraill o’r DU
- Ymwybyddiaeth o egwyddorion cynllunio busnes
- Gwybodaeth ddigonol am systemau a gweithdrefnau ansawdd, sy’n cynnwys technegau datrys problemau
- Gwybodaeth am arferion gorau, meincnodi a thechnegau mesur perfformiad.
- Yn gallu dadansoddi a dehongli setiau data cymhleth.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lurdes Conceicao Moreira Magalhaes
- Teitl y swydd
- Senior Procurement Business Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 029 2150 1347
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector