Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Caffel
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Bydd sifftiau naill ai rhwng 6am a 2pm, neu 8am a 4pm - i'w gytuno ar adeg penodi)
- Cyfeirnod y swydd
- 043-EA009-0326
- Cyflogwr
- GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Storfeydd Rhanbarthol Dinbych
- Tref
- Dinbych
- Cyflog
- £24,833 Y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 19/03/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Gweithredwr Cadwyn Gyflenwi
Gradd 2
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn adran gaffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn Storfeydd Rhanbarthol Dinbych, Gogledd Cymru.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm sy'n darparu defnyddiau traul meddygol ac anfeddygol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Gogledd). Bydd hyn yn cynnwys dethol a phacio eitemau yn barod i'w hanfon i safleoedd, yn dilyn archebion a gynhyrchir gan staff yr ysbyty.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae swydd wag wedi codi ar gyfer Gweithredwr Cadwyn Gyflenwi llawn amser, yn Storfeydd Rhanbarthol Dinbych. Bydd y patrwm sifft naill ai rhwng 6am a 2pm neu 8am a 4pm (dydd Llun i ddydd Gwener) i'w gytuno ar adeg penodi.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel aelod o dîm sy'n derbyn ac yn paratoi archebion yn barod i'w dosbarthu i safleoedd ysbytai. Dylai ymgeiswyr feddu ar brofiad blaenorol o weithio mewn storfeydd. Dylent fod yn ddiwyd ac yn gallu canolbwyntio ar y cwsmer a deall pwysigrwydd darparu gwasanaeth o ansawdd uchel.
Bydd gweddill y rôl yn gweithio yn y prif Warws lle mae archebion yn cael eu paratoi a'u pacio i'w dosbarthu.
Gweithio i'n sefydliad
Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.
Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl.
Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.
Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb. I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/
Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- NVQ Lefel 2 mewn Warws a Dosbarthu (neu'n barod i weithio tuag ato) NEU 3 TGAU (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg)
- Lefel gyfatebol o brofiad
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth sylfaenol am eitemau meddygol a llawfeddygol
- Gwybodaeth weithredol am systemau a gweithdrefnau Ansawdd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol mewn amgylchedd warws
- Profiad blaenorol o weithio yn unol â gofynion Iechyd a Diogelwch
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithredu offer trin mecanyddol
- Defnydd blaenorol/ymwybyddiaeth o ddyfeisiau llaw
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu gweithio o fewn terfynau amser
- Sgiliau Cyfathrebu Rhagorol
Meini prawf dymunol
- Yn gallu teithio i safleoedd eraill os oes angen
- Yn gallu gweithredu offer trin mecanyddol
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Nick Hailes
- Teitl y swydd
- Area Manager - SCLT
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07818413546
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Ian Jones
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau Cymorth neu bob sector












.png)