Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Dental
- Gradd
- NHS AfC: 8a
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 082-PST010-1126
- Cyflogwr
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ty Dysgu
- Tref
- Nantgarw
- Cyflog
- £58,379 - £65,723 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 10/12/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 18/12/2026
Teitl cyflogwr
Arweinydd Therapi a Hylendid Deintyddol
NHS AfC: 8a
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant yn AaGIC ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb sy'n cydnabod y gwerth y mae amrywiaeth yn ei roi i'n gweithlu. I weithio yn y DU, mae angen i ymgeiswyr nad ydynt yn ddinasyddion y DU neu Weriniaeth Iwerddon (ROI) gael eu noddi trwy Fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod ganddynt ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Sylwch nad oes gan AaGIC drwydded ar hyn o bryd i benodi gweithwyr medrus o dramor drwy eu noddi i weithio yn y DU. Os byddant yn llwyddiannus, byddai ymgeiswyr o'r tu allan i'r DU neu ROI yn gyfrifol am gael eu nawdd neu fisa eu hunain i'w galluogi i weithio i AaGIC - Gweithio yn y DU - Work in the UK
Gall y swydd wag hon gau'n gynnar os bydd yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Cwblhewch a chyflwynwch eich cais mewn da bryd i osgoi cael eich siomi.
Trosolwg o'r swydd
Trosolwg Swydd: Llunio dyfodol Therapi Deintyddol ac addysg Hylendid yng Nghymru
Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol mewn llunio a chomisiynu addysg a hyfforddiant Therapi Deintyddol a Hylendid o ansawdd uchel ledled Cymru.
Byddwch yn gweithio ar lefel genedlaethol, gan ddylanwadu ar gyfeiriad darpariaeth israddedig yn y dyfodol, datblygu partneriaethau cryf a helpu sicrhau bod addysg a hyfforddiant yn cefnogi anghenion newidiol y proffesiwn deintyddol a'r gweithlu yn y dyfodol.
Os ydych chi'n angerddol am addysg ddeintyddol, comisiynu strategol a datblygu'r gweithlu, gallai hwn fod yn gyfle i chi.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Prif Ddyletswyddau: Arwain y gwaith o gomisiynu rhaglenni israddedig mewn hylendid deintyddol a therapi deintyddol ledled Cymru, gan gynnwys rheoli contractau, darpariaeth ac ansawdd y rhaglenni.
Bod yn arweinydd proffesiynol ar gyfer addysg a hyfforddiant therapi deintyddol a hylendid deintyddol yn AaGIC.
Gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol i ddatblygu a rheoli'r hyn sy'n cael ei gynnig ledled Cymru o ran hyfforddiant therapi deintyddol a hylendid deintyddol.
Gweithio yn annibynnol heb fawr o oruchwyliaeth a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth gyfoes o bolisi lleol a chenedlaethol mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant therapi deintyddol a hylendid deintyddol yng Nghymru.
Gweithio i'n sefydliad
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru sydd â swyddogaethau statudol sy'n cynnwys addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth, a gyrfaoedd. Ein diben yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion/defnyddwyr gwasanaethau ac iechyd rhagorol yn y boblogaeth. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.
Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant mewnol o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchu ein meddyliau, ein teimladau a'n credoau o ran sut y byddwn, ac na fyddwn, yn ymddwyn ac yn trin eraill:
- Parch i Bawb ym mhob cyswllt sydd gennym ag eraill,
- Syniadau sy'n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, gwerthuso a gwella'n barhaus,
- Gyda'n Gilydd fel Tîm
Derbyniodd AaGIC Wobr HPMA ar gyfer Ymgysylltu â Gweithwyr yn 2019.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:
- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,
- arweinyddiaeth dosturiol,
- proses arfarnu perfformiad ystyrlon sy'n seiliedig ar werthoedd,
- y cyfle i effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bywydau a lles pobl Cymru.
Mae llawer o'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid wedi gwneud sylwadau ar y cyffro a'r awyrgylch a olygwn drwy gydweithio fel "Un Tîm AaGIC". Ydych chi am ymuno â'r tîm hwnnw?
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Therapydd deintyddol cymwys wedi'i gofrestru gyda'r GDC.
- Cymhwyster lefel Meistr neu wybodaeth broffesiynol arbenigol gyfwerth mewn maes perthnasol.
- Tystiolaeth o DPP diweddar, perthnasol.
- Gwybodaeth am dechnoleg addysgol fodern a ddefnyddir i gefnogi dysgu.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o gyflwyno addysg a hyfforddiant hylendid a therapi israddedig.
- Profiad mewn addysg ôl-raddedig deintyddol i oedolion, theori ac ymarfer.
- Profiad o gynllunio rhaglenni gwaith yn strategol.
- Profiad o gymhwyso sgiliau addysgol, cwnsela a mentora.
- Profiad o weithio o fewn rôl arweinyddiaeth.
- Profiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft Office.
Meini prawf dymunol
- Profiad o gymryd rhan mewn Gwelliant mewn Ymarfer.
- Profiad o fodelau ariannu prentisiaethau.
- Gwybodaeth am strwythurau a gweithrediad gwasanaethau deintyddol yng Nghymru a dealltwriaeth eang o'r cyd-destun ar draws gweddill y DU.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Ymrwymedig a brwdfrydig
- Chwaraewr tîm da
- Arloesol a hyderus
- Proffesiynol
- Agwedd hyblyg at waith
- Y gallu i deithio ledled Cymru
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau arweinyddiaeth effeithiol
- Tact a diplomyddiaeth
- Sgiliau cyflwyno
- Sgiliau rhwydweithio
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu datblygedig iawn
- Sgiliau trefnu a rheoli amser
Sgiliau Iaith Gymraeg
Meini prawf dymunol
- Ystyrir bod sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ar lefel A1 - Sylfaenol. I'w asesu yn y cyfweliad.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kirstie Moons
- Teitl y swydd
- Postgraduate Dental Dean
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03300 584219
Rhestr swyddi gyda Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





