Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Atal
- Gradd
- Gradd 8a
- Contract
- Cyfnod Penodol: 6 mis (Dyddiad gorffen: 31 Mawrth 2026)
- Oriau
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 082-PST008-0825
- Cyflogwr
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ty Dysgu
- Tref
- Nantgarw
- Cyflog
- £56,514 - £63,623 pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 03/09/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Arweinydd Atal Optometreg
Gradd 8a
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant yn AaGIC ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb sy'n cydnabod y gwerth y mae amrywiaeth yn ei roi i'n gweithlu. I weithio yn y DU, mae angen i ymgeiswyr nad ydynt yn ddinasyddion y DU neu Weriniaeth Iwerddon (ROI) gael eu noddi trwy Fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod ganddynt ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Sylwch nad oes gan AaGIC drwydded ar hyn o bryd i benodi gweithwyr medrus o dramor drwy eu noddi i weithio yn y DU. Os byddant yn llwyddiannus, byddai ymgeiswyr o'r tu allan i'r DU neu ROI yn gyfrifol am gael eu nawdd neu fisa eu hunain i'w galluogi i weithio i AaGIC - Gweithio yn y DU - Work in the UK
Trosolwg o'r swydd
· Bydd gan yr arweinydd Atal ar gyfer Optometreg gyfrifoldeb a rheolaeth gyffredinol dros weithredu rhaglen hyfforddi atal cenedlaethol lwyddiannus ledled Cymru.
Er bod y swydd hon wedi'i hysbysebu fel penodiad tymor penodol, dim ond fel secondiad y cynigir y penodiad i staff y GIG. Os ydych chi am wneud cais am secondiad, rhaid i chi gael cymeradwyaeth eich rheolwr llinell. Gall y swydd hon gael ei hymestyn neu ei gwneud yn barhaol ar ddiwedd y cyfnod tymor penodol/secondiad yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael ac anghenion busnes.
Prif ddyletswyddau'r swydd
· Cwmpasu, optimeiddio a chymharu gweithgareddau presennol, gan sicrhau dull cenedlaethol amlbroffesiynol.
· Ysgogi gweithrediad ac ymgysylltiad hyfforddiant atal ar gyfer Optometreg yng Nghymru.
· Sicrhau ansawdd a chysondeb o ran dull gweithredu yn unol â blaenoriaethau iechyd cenedlaethol.
Dangos effeithiolrwydd gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Gweithio i'n sefydliad
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru sydd â swyddogaethau statudol sy'n cynnwys addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth, a gyrfaoedd. Ein diben yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion/defnyddwyr gwasanaethau ac iechyd rhagorol yn y boblogaeth. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.
Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant mewnol o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchu ein meddyliau, ein teimladau a'n credoau o ran sut y byddwn, ac na fyddwn, yn ymddwyn ac yn trin eraill:
- Parch i Bawb ym mhob cyswllt sydd gennym ag eraill,
- Syniadau sy'n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, gwerthuso a gwella'n barhaus,
- Gyda'n Gilydd fel Tîm
Derbyniodd AaGIC Wobr HPMA ar gyfer Ymgysylltu â Gweithwyr yn 2019.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:
- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,
- arweinyddiaeth dosturiol,
- proses arfarnu perfformiad ystyrlon sy'n seiliedig ar werthoedd,
- y cyfle i effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bywydau a lles pobl Cymru.
Mae llawer o'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid wedi gwneud sylwadau ar y cyffro a'r awyrgylch a olygwn drwy gydweithio fel "Un Tîm AaGIC". Ydych chi am ymuno â'r tîm hwnnw?
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch Ymgeisiwch nawr i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg lefel gradd ôl-raddedig mewn cymwysterau Optometreg cysylltiedig.
- Gwybodaeth am addysg a hyfforddiant ar lefel israddedig ac ôl-raddedig yn y DU.
- Profiad blaenorol o reoli addysg a hyfforddiant ataliol.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Swyddi blaenorol yn arwain meysydd gwaith tebyg.
- Tystiolaeth o reoli prosiectau cymhleth ac amrywiol.
- Wedi gweithio gydag ac wedi dylanwadu ar amrywiaeth o randdeiliaid mewnol ac allanol.
- Yn deall yr agenda atal mewn Optometreg neu broffesiwn tebyg.
Meini prawf dymunol
- Rôl reoli flaenorol, gan gynnwys rheolaeth llinell.
- Dealltwriaeth o'r amgylchedd gwleidyddol a chymdeithasol allanol, gan gynnwys materion a blaenoriaethau polisi'r GIG, a'r agenda ehangach o bolisi cyhoeddus sy'n effeithio ar asiantaethau perthnasol eraill.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i feddwl yn strategol a rheoli prosesau newid.
- Sgiliau cyfathrebu, rhyngbersonol a diplomyddiaeth ragorol.
- Y gallu i weithio'n annibynnol yn unol ag amcanion ac amserlenni y cytunwyd arnynt.
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1 neu uwch) neu barodrwydd i weithio tuag ato.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Nik Sheen
- Teitl y swydd
- Head of Optometry
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector