Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ymchwil
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Gweithio hyblyg
37.5 awr yr wythnos (Model gweithio ystwyth i ganiatáu hyblygrwydd rhwng gweithio gartref a gweithio yn y swyddfa.)
Cyfeirnod y swydd
082-AC061-0825
Cyflogwr
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Dysgu
Tref
Nantgarw
Cyflog
£48,527 - £55,532 Y Flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
26/08/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) logo

Dadansoddwr Ymchwil (Deoniaeth Feddygol)

Gradd 7

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant yn AaGIC ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb sy'n cydnabod y gwerth y mae amrywiaeth yn ei roi i'n gweithlu. I weithio yn y DU, mae angen i ymgeiswyr nad ydynt yn ddinasyddion y DU neu Weriniaeth Iwerddon (ROI) gael eu noddi trwy Fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod ganddynt ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Sylwch nad oes gan AaGIC drwydded ar hyn o bryd i benodi gweithwyr medrus o dramor drwy eu noddi i weithio yn y DU. Os byddant yn llwyddiannus, byddai ymgeiswyr o'r tu allan i'r DU neu ROI yn gyfrifol am gael eu nawdd neu fisa eu hunain i'w galluogi i weithio i AaGIC - Gweithio yn y DU - Work in the UK

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi'n chwilio am her newydd?

 

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol wrth lunio dyfodol addysg a hyfforddiant meddygol yng Nghymru.

 

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn chwilio am Ddadansoddwr Ymchwil (Deoniaeth Feddygol) i arwain ar gyflawni ymchwil a dadansoddi o ansawdd uchel sy’n sail i sicrhau ansawdd strategol a chynllunio ar gyfer GIG Cymru

 

Fel aelod allweddol o dîm y Ddeoniaeth Feddygol, byddwch yn:

- Cynnal ymchwil cynradd ac eilaidd i gefnogi gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth.

- Darparu dadansoddiad arbenigol ac adroddiadau ar ddata addysg a hyfforddiant.

- Cydweithio â rhanddeiliaid ar draws GIG Cymru i wella ansawdd hyfforddiant.

- Cynnig cyngor arbenigol ar fethodoleg ymchwil a chasglu tystiolaeth.

 

Rydym yn chwilio am weithiwr ymchwil proffesiynol profiadol gyda sgiliau dadansoddi cryf, arbenigedd mewn casglu data, a'r gallu i drosi ymchwil gymhleth yn fewnwelediadau ystyrlon. Os oes gennych chi angerdd dros wella addysg a hyfforddiant mewn gofal iechyd, mae'r rôl hon yn cynnig cyfle gwych i gael effaith wirioneddol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn arwain ar gyflwyno prosiectau ymchwil sylfaenol i greu tystiolaeth newydd i danategu sicrwydd ansawdd a chynllunio ansawdd ar gyfer addysg a hyfforddiant, a chynhyrchu adroddiadau o ansawdd uchel yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer y Ddeoniaeth Feddygol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cynnal ymchwil eilaidd i waith ymchwil cyhoeddedig presennol a dadansoddiad o ystod eang o setiau data cyhoeddedig sy’n ymwneud ag addysg a hyfforddiant y GIG a fydd yn sail i weithgarwch sicrhau ansawdd a chynllunio ansawdd strategol ar gyfer gweithlu GIG Cymru, gan weithio’n agos ac ar y cyd â’r Uned Ansawdd, uwch reolwyr, Swyddogion Gweithredol a rhanddeiliaid eraill o bob rhan o GIG Cymru, gan eu galluogi i gefnogi, darparu a rheoli addysg a hyfforddiant yn effeithiol yn unol â’r Ddyletswydd Ansawdd a Fframwaith Ansawdd AaGIC ac mewn ffyrdd sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn seiliedig ar arfer gorau.

Bydd deiliad y swydd yn darparu cyngor tra arbenigol i Grŵp Llywodraethu Ymchwil AaGIC, clinigwyr a rheolwyr ar draws AaGIC a sefydliadau GIG Cymru o ran nodi ymchwil addysg a hyfforddiant priodol, dulliau o wneud yr ymchwil hwnnw, arwain y gwaith o asesu, cynllunio a gwerthuso anghenion tystiolaeth rhanddeiliaid penodol a bydd yn ofynnol iddo gynnal perthnasoedd adeiladol ag ystod eang o randdeiliaid mewnol, allanol a chenedlaethol.

Gweithio i'n sefydliad

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru sydd â swyddogaethau statudol sy'n cynnwys addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth, a gyrfaoedd.  Ein diben yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion/defnyddwyr gwasanaethau ac iechyd rhagorol yn y boblogaeth. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.

 

Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant mewnol o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchu ein meddyliau, ein teimladau a'n credoau o ran sut y byddwn, ac na fyddwn, yn ymddwyn ac yn trin eraill:

- Parch i Bawb ym mhob cyswllt sydd gennym ag eraill,

- Syniadau sy'n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, gwerthuso a gwella'n barhaus,

- Gyda'n Gilydd fel Tîm

 

Derbyniodd AaGIC Wobr HPMA ar gyfer Ymgysylltu â Gweithwyr yn 2019.

 

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:

- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,

- arweinyddiaeth dosturiol,

- proses arfarnu perfformiad ystyrlon sy'n seiliedig ar werthoedd,

- y cyfle i effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bywydau a lles pobl Cymru.

 

Mae llawer o'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid wedi gwneud sylwadau ar y cyffro a'r awyrgylch a olygwn drwy gydweithio fel "Un Tîm AaGIC". Ydych chi am ymuno â'r tîm hwnnw?

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

 

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

 

 

 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd Meistr mewn pwnc sy'n seiliedig ar ymchwil neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol.
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster Rheoli Prosiect

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad amlwg o ddadansoddi ymchwil cyhoeddedig a chyfleu canfyddiadau i ystod amrywiol o randdeiliaid
  • Profiad sylweddol o syntheseiddio ymchwil gyhoeddedig ochr yn ochr â dadansoddi data cyhoeddedig i lywio penderfyniadau strategol yn y dyfodol – yn ddelfrydol ym maes addysg a hyfforddiant.
  • Profiad amlwg o arwain prosiectau ymchwil a/neu werthuso
  • Profiad o weithio'n effeithiol gyda chydweithwyr i driongli ffynonellau gwybodaeth ac i blymio'n ddwfn i nodi cydberthnasau
  • Profiad o ddefnyddio meddalwedd arbenigol sydd ei angen ar gyfer dadansoddi data, adalw tystiolaeth, syntheseiddio a chyhoeddi
  • Profiad o wneud ymchwil meintiol ac ansoddol helaeth i ddylanwadu ar brosiectau
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio gydag ystod o randdeiliaid allanol a sefydliadau partner
  • Profiad o weithio gyda sefydliadau cyfosod tystiolaeth eraill yng Nghymru a thu hwnt
  • Profiad o ddefnyddio data ac ymchwil i wella gwasanaethau
  • Profiad o reoli prosiectau

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau rhifau da iawn gyda sgiliau a phrofiad o ddadansoddi a dehongli data
  • Gwybodaeth a phrofiad o feddalwedd cyfrifiadurol arbenigol ar gyfer cynhyrchu dadansoddiadau cymhleth o ddata
  • Sgiliau arbenigol mewn adalw a chyfosod tystiolaeth
  • Ymgymryd ag ymchwil a dadansoddiad yn rheolaidd i gynorthwyo â dehongli data
  • Gallu dadansoddi data cymhleth yn gynhwysfawr a chyflwyno canfyddiadau i amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys cymharu ystod o opsiynau
  • Gallu cynllunio a threfnu eich llwyth gwaith eich hun tra'n cydbwyso blaenoriaethau sy'n gwrthdaro a cheisiadau brys am wybodaeth
  • Gallu gweithio fel rhan o dîm i gyfrannu at lunio cynlluniau strategol
Meini prawf dymunol
  • Yn deall y cyd-destun amgylcheddol a gwleidyddol sy'n cwmpasu'r GIG
  • Y gallu i siarad Cymraeg

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Gallu teithio i leoliadau ledled Cymru
  • Yn dangos agwedd hyblyg at waith

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Stonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionDisability confident committedDying to Work CharterERS Silver Banner WelshEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental health

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Caroline Groves
Teitl y swydd
Lead for Quality Unit
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg