Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyllid
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
043-AC207-1126
Cyflogwr
GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Y Pencadlys yn Nantgarw
Tref
Nantgarw
Cyflog
£50,129 - £57,365 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
10/12/2026 23:59

Teitl cyflogwr

GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau logo

Rheolwr Cyllid – Adrodd

Gradd 7

Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-

Cliciwch yma am nesges gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr

Cliciwch yma i ddarganfod beth yw barn ein staff am PCGC

Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM

Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz

Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM

 

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.

 

 

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi’n gyfrifydd cymwys uchelgeisiol sy’n awyddus i ddatblygu eich gyrfa yn GIG Cymru?. Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Cyllid PCGC fel Rheolwr Cyllid – Adrodd .   Bydd y swydd, a fydd yn rhoi ystod eang o brofiadau i chi ym maes rheolaeth ariannol ar draws PCGC, wedi’i lleoli yn ein pencadlys yn Nantgarw, Caerdydd.  Mae'r rôl yn gofyn am unigolyn ymroddedig, gweithgar sydd â phrofiad ariannol a llygad da am fanylion sy'n gweithio'n dda fel rhan o dîm ac sy'n gallu gweithio i derfynau amser llym. 

Byddem hefyd yn ystyried hyn fel cyfle datblygu i staff Cyllid presennol a phrofiadol, yn unol ag Atodiad 21 o Delerau ac Amodau Agenda ar gyfer Newid y GIG.

Derbynnir ceisiadau drwy Atodiad 21 ar gyfer ymgeiswyr sydd yng nghyfnodau olaf eu cymhwyster CCAB neu CIMA cyllid proffesiynol. Bydd y taliad yn unol ag Atodiad 21 h.y. 70% o Fand 7 yn y flwyddyn gyntaf a 75% o Fand 7 yn yr ail flwyddyn, yn amodol ar fodloni meini prawf y cynllun datblygu. Ni fyddai staff mewnol Band 6 sy'n dechrau swydd band 7 atodiad 21 yn dioddef colled i'w cyflog.

Prif ddyletswyddau'r swydd

1.    Sicrhau bod gwybodaeth ariannol yn cael ei phrosesu a'i hadrodd yn gyson yn unol â gweithdrefnau trwy gwblhau ei waith ei hun a thrwy gydlynu gwaith eraill. 

2.    Yn ymchwilio i ymholiadau hynod gymhleth, a darparu cymorth a chyngor yn ôl yr angen. Bydd gan ddeiliad y swydd rôl arwyddocaol mewn adrodd corfforaethol a ddefnyddir i lywio cyngor strategol/cynllunio busnes. 

3.    Paratoi a chwblhau cyfrifon a ffurflenni statudol/GIG, a sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol ag amserlenni ariannol a gofynion cyfreithiol, a dehongli'r rhain lle bo angen.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

Gweithio i'n sefydliad

Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.

Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl. 

Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.

Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb.  I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/

Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.  

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud cais nawr" i'w gweld yn Trac.

 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth
  • Cyfrifydd (CCAB) cymwys
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).
  • Gwybodaeth a phrofiad arbenigol o weithdrefnau ariannol a gweithdrefnau cyfrifyddu
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth a phrofiad o agweddau ariannol ar ddeddfwriaeth y GIG a pholisïau cyllid y GIG

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn Adran Gyllid gan ddefnyddio systemau ariannol
  • Profiad o reolaeth ariannol a chynllunio busnes ac ariannol
  • Profiad sylweddol o ddefnyddio Oracle Financials a Qliksense
Meini prawf dymunol
  • Cymryd rhan mewn gweithredu system ariannol neu offeryn adrodd newydd

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau Windows gwych
  • Lefel uwch o sgiliau Microsoft Office, gan gynnwys Excel, PowerPoint, Outlook a Word
  • Y gallu i dderbyn a deall materion yn gyflym
  • Rhifog iawn a chywir
  • Gallu defnyddio system Rheolaeth Ariannol i gynhyrchu adroddiadau ariannol, trin a dehongli data
  • Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a chyflwyno gwych
  • Sgiliau dadansoddi, dehongli a chymharu sylweddol
  • Y gallu i weithio yn annibynnol a’r un mor effeithiol fel rhan o dîm amlddisgyblaeth
  • Y gallu i weithio ar nifer o dasgau cymhleth ar yr un pryd a chynhyrchu gwaith o safon uchel o fewn terfynau amser tynn a chydag adnoddau cyfyngedig
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac ar eich liwt eich hun.
  • Angen canolbwyntio’n ddwys am gyfnod maith
  • Yn gallu gweithio'n hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth
  • Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ag ystod eang o staff a rheolwyr proffesiynol ar bob lefel, oddi mewn ac oddi allan i’r sefydliad
  • Hynod ymroddgar a brwdfrydig, gyda safonau proffesiynol uchel.
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau Cymraeg
  • Yn gallu defnyddio Microsoft Access a PowerPoint
  • Ysgrifennu adroddiadau gan ddefnyddio meddalwedd
  • Profiad ymarferol o fodelu ariannol a thaenlenni cymhleth

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu teithio pan fo angen

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Customer Service ExcellenceHyderus o ran anabledd - ymroddedigDisability confident committedMenopause Workplace PledgeEnei MemberLexcel Legal Practice Quality MarkRhwydwaith Network 75 logoEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau ApprenticeshipsArmed Force Convenant - Silver Award

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Claire Watkins
Teitl y swydd
Head of Financial Resources, Systems and Planning
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07974708688
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg