Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Caffael
Gradd
Gradd 8a
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
043-AC027-0226
Cyflogwr
GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Pencadlys Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, Nantgarw
Tref
Nantgarw
Cyflog
per annum
Yn cau
04/03/2026 23:59

Teitl cyflogwr

GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau logo

Pennaeth Cynorthwyol Caffael Gweithredol

Gradd 8a

Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-

 Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz

 

 Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM

 Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Os ydych yn chwilio am yrfa ym maes Caffael sy'n eich ysgogi, yn cynnig potensial ar gyfer datblygiad personol ac yn eich rhoi mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i GIG Cymru, yna mae gan Wasanaethau Caffael PCGC yrfa a fydd o ddiddordeb i chi. Mae Gwasanaethau Caffael PCGC yn gyflogwr sefydledig sy'n cefnogi darparu nwyddau a gwasanaethau i GIG Cymru. Ein nod yw bod yn “ymgynghorydd y gellir ymddiried ynddo” ac yn bartner hollbwysig i’n cwsmeriaid ar bob mater yn ymwneud â chaffael. Rydym yn ceisio bod yn sefydliad sy’n cael argraff gadarnhaol ar bobl sy’n gweithio i ni a chyda ni, wrth gydymffurfio â set glir o werthoedd sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn gyflogwr arobryn, ac rydym yn cael ein cydnabod yn rheolaidd yn lleol ac yn genedlaethol am y gwaith a wnawn dros GIG Cymru ym myd caffael.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Arwain adran gwasanaethau cwsmeriaid a rheoli gweithredol yr adran Caffael Lleol.

Sicrhau bod y Gwasanaethau Caffael yn cyflawni ein hamcanion gweithredol ac ariannol ac yn gweithredu mewn modd sy’n cydymffurfio â rheoliadau caffael cyhoeddus, cyfraith Cymru/y DU a Chyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog yr Ymddiriedolaeth/Bwrdd Iechyd.

Darparu gweledigaeth ac arweinyddiaeth yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu gwelliannau i wasanaethau yn y swyddogaeth Gaffael, a sicrhau bod systemau, prosesau, polisïau a gweithdrefnau ar waith i alluogi’r tîm Caffael i gyrraedd ei dargedau strategol a gweithredol.

Gweithio i'n sefydliad

Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.

Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl. 

Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.

Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb.  I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/

Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd. 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Aelod cymwys o'r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (Lefel 6)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Hanes blaenorol amlwg o reoli gweithredol, a chyflawni amcanion strategol gweithredol.
  • Arbenigedd mewn gwaith rheoli contractau a chaffael cyhoeddus, a gafwyd drwy hyfforddiant pellach a/neu brofiad perthnasol.
  • Hanes amlwg o sicrhau cynilion a dangosyddion busnes eraill.
  • Profiad o reoli pobl/staff
Meini prawf dymunol
  • Ymwybyddiaeth o’r Gyfundrefn Dethol Darparwyr (Cymru)

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau arwain cryf a’r gallu i arwain drwy esiampl
  • Sgiliau dylanwadu datblygedig gyda sgiliau cyd-drafod/profiad helaeth, yn dda am feithrin perthnasoedd cynhyrchiol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Customer Service ExcellenceHyderus o ran anabledd - ymroddedigDisability confident committedMenopause Workplace PledgeEnei MemberLexcel Legal Practice Quality MarkRhwydwaith Network 75 logoEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau ApprenticeshipsArmed Forces Bronze Award NWSSP

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Gareth Hudson
Teitl y swydd
Deputy Head of Operational Procurement
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
02921 500200
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg