Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Derbynnydd
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 043-AC146-0825W
- Cyflogwr
- GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- 4-5 Cwrt Charnwood
- Tref
- Nantgarw
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 Y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 31/08/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Derbynnydd – Cymorth Gweinyddol
Gradd 3
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn a chael gyrfa wirioneddol werth chweil? Ymunwch â Phencadlys Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a byddwch yn rhan o dîm lle rydym yn cydweithio, yn gwrando ac yn dysgu, yn annog gweithio mewn tîm ac yn gwerthfawrogi arloesedd. Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig, ymroddedig, profiadol a chyfeillgar i ymuno â'n tîm derbynfa i'n cefnogi i sicrhau bod y Pencadlys yn gweithredu'n effeithiol. Unigolyn sy’n helpu i gynnal profiad o ansawdd uchel i'r ymwelwyr, ac sy’n ein galluogi i gofnodi'r gweithgarwch a'r gwerth ychwanegol y mae'r dderbynfa yn ei gynnig i'w holl ddefnyddwyr.
Fel derbynnydd, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am redeg derbynfa brysur gan ddelio â staff, ymwelwyr a chontractwyr, y switsfwrdd a danfoniadau gan gyflenwyr.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth ysgrifenyddol/gweinyddol ar gyfer Pencadlys PCGC gan weithio'n agos gydag aelodau'r tîm i sicrhau bod cefnogaeth fusnes gadarn o fewn y Tîm, a fydd yn cynnwys grwpiau staff eraill yn ôl yr angen.
Byddwch yn rhoi cymorth ym mhob agwedd ar brosesau ysgrifenyddol, gweinyddol a threfniadol. Yn ogystal, bydd deiliad y swydd yn darparu cytundeb trawsgyflenwi o bell gydag ysgrifenyddion mewn Rhanbarthau eraill ledled Cymru, gan gyflenwi pan fo angen.
Mae hon yn rôl gefnogol allweddol, a bydd angen sgiliau cyfathrebu, cynllunio a threfnu da ar yr ymgeisydd llwyddiannus. Yn ogystal â hyn, mae angen i’r ymgeisydd fod â phrofiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa ynghyd â llythrennedd cyfrifiadurol ar systemau Microsoft Office, gan gynnwys Outlook, Word ac Excel.
Mae'r gofynion iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon yn hanfodol.
Rhaid i’r ymgeisydd allu dilyn polisïau a gweithdrefnau a deall pwysigrwydd y Ddeddf Diogelu Data a chyfrinachedd.
Swydd rhan-amser barhaol yw hon (37.5 awr/wythnos). Bydd angen i ddeiliad y swydd weithio oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 16:00.
Os ydych chi'n unigolyn brwdfrydig iawn, yn broffesiynol ac mae gennych brofiad o weithio mewn derbynfa, a delio â gweithdrefnau cyhoeddus a gweinyddol, yna rydym yn awyddus i glywed gennych chi.
Gweithio i'n sefydliad
Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.
Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl.
Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.
Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb. I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/
Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gallwch ddod o hyd i swydd-ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person wedi’u hatodi gyda’r dogfennau ategol, neu cliciwch ar “Gwnewch gais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad amlwg mewn rôl weinyddol a dealltwriaeth o weithdrefnau swyddfa.
- Profiad o gyfathrebu â staff proffesiynol a’r cyhoedd ar bob lefel.
- Profiad o ymdrin â data cyfrinachol, sensitif, cynnal a chadw priodol a storio cofnodion.
Meini prawf dymunol
- Gweinyddu systemau cyllid e.e. nodi ceisiadau, monitro a derbynebu.
Cymraeg
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at TGAU neu gyfwerth, neu brofiad gweinyddol perthnasol cyfatebol.
- Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn y GIG.
- Profiad blaenorol fel derbynnydd.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Carly Wilce
- Teitl y swydd
- Corporate Services Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 02921 501500
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Unrhyw ymholiadau cysylltwch [email protected]
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector