Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Administration
Gradd
Gradd 5
Contract
Cyfnod Penodol: 18 mis (Gyfnod penodol / secondiad tan 31/12/2027)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
120-AC167-0626
Cyflogwr
Canolfan Ganser Felindre
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Tref
Parc Nantgarw
Cyflog
£32,557 - £39,631 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
09/07/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Canolfan Ganser Felindre logo

Cynghorydd Pobl a Pherthnasoedd

Gradd 5

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;

Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.

ein gwerthoedd;

  • Gofalgar
  • Parchus
  • Atebol

ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.

Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.

Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae gennym gyfle cyffrous i Gynghorwr Pobl a Pherthynas sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid I ymuno â'r tim Pobl a pherthynas sydd newydd eu ffurfio o fewn yr Ymddiriedolaeth.  

Gan weithredu mewn rôl gyffredinol yn cefnogi datblygiad rheolwyr pobl effeithiol, byddwch yn allweddol i lwyddiant gweithredol ein gweledigaeth yn y Strategaeth Pobl: 'Pobl Iach, Gofal Gwych, Dysgu Ysbrydoledig'.

Mae’r Swydd Hon am Gyfnod Penodol/Secondiad am 18 mis tan 31 Rhagfyr 2027 i diwallu anghenion y gwasanaeth. Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon. 

SYLWCH Gallwch lawrlwytho ffurflen ryddhau i'w chynnwys gyda'ch ffurflen gais. (Bydd angen i’r aelod o staff a’r rheolwr llinell gwblhau’r ffurflen hon a’i dychwelyd atoch)

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Darparu dull rhagweithiol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer o hyfforddi a datblygu rheolwyr pobl effeithiol o fewn yr Ymddiriedolaeth
  • Gweithio ar y cyd ar draws yr Adran Gweithlu ac DG ehangach i sicrhau datblygiad gweithredol tuag at y Strategaeth Pobl yr Ymddiriedolaeth
  • Cefnogi'r Rheolwr Pobl a Pherthynas i ddarparu gwasanaeth rhagorol i'n his-adrannau ym mhob mater AD gan gynnwys, recriwtio, disgyblu, salwch a chwyno ac ati.
  • Rheoli achosion ER mewn partneriaeth â Rheolwyr Pobl yr Ymddiriedolaeth, cynghori a hyfforddi ar arfer gorau
  • embedded into practice

  • Cefnogi datblygiad y Cynorthwywyr Pobl a Pherthynas gan ddarparu cyngor ac arweiniad pan fo angen

  • Darparu a datblygu deunyddiau hyfforddi ar gyfer rheolwyr rheoli pobl yn effeithiol gan sicrhau bod ethos rhoi pobl yn gyntaf wedi'i ymgorffori mewn ymarfer

 

Gweithio i'n sefydliad

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.

Wedi'i sefydlu ym 1994, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.

Yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, ein nod ydy meithrin diwylliant o ddarganfod, cydweithredu a sicrhau gwelliant parhaus.  Byddwn yn cyflawni hyn drwy ymgorffori ymchwil ac arloesedd ym mhopeth a wnawn, er mwyn cyflawni effaith ystyrlon a mesuradwy i'n cleifion a'n cymunedau.

Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.

https://velindre.nhs.wales/ 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu  cliciwch "Gwneud cais nawr" I weld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Addysg hyd at lefel gradd, neu feddu ar yr wybodaeth gyfatebol trwy fod wedi cael profiad o weithio mewn Rôl Adnoddau Dynol (AD).
  • Cymhwyster CIPD lefel 5 neu gyfwerth.
  • Tystiolaeth DPP gyfredol.
Meini prawf dymunol
  • Yn fodlon gweithio tuag at CIPD Lefel 7
  • Gwybodaeth am Delerau ac Amodau Gwasanaeth y GIG

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Arddangos amrywiaeth o brofiad Adnoddau Dynol Ymgynghorol
  • Profiad mewn un neu fwy o feysydd Adnoddau Dynol sy'n cynnwys materion / achosion mwy cymhleth
  • Dangos profiad o ymchwilio a chynghori mewn achosion cysylltiadau cyflogaeth mewn gwrandawiadau disgyblu a gwrandawiadau eraill
  • Profiad o gyflwyno hyfforddiant i reolwyr ar bob lefel
  • Profiad o ddefnyddio Systemau Adnoddau Dynol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddefnyddio ESR
  • Parwr / gwerthuswr swyddi hyfforddedig

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu delio â sefyllfaoedd sensitif sy’n cynnwys gwrthdaro a diplomyddiaeth
  • Sgiliau hyfforddi, neu'n barod i astudio ar gyfer lefel 3 ILM mewn hyfforddiant rheolwyr llinell gyntaf
  • Yn gallu dangos ymwybyddiaeth o agenda wleidyddol sefydliad
  • Yn gallu rheoli blaenoriaethau a llwythi gwaith personol a chwrdd â therfynau amser
  • Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ac yn briodol gyda'r holl reolwyr a staff ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Yn gallu datblygu perthnasoedd gwaith effeithiol gyda chydweithwyr a phartneriaid undeb llafur
  • Yn gallu ymateb i newidiadau annisgwyl a mabwysiadu agwedd hyblyg
  • Yn gallu datrys problemau yn effeithiol.
  • Lefel uchel o gyfrinachedd
  • Yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel aelod effeithiol o'r tîm Adnoddau Dynol
  • Yn gallu herio penderfyniadau mewn ffordd adeiladol
  • Yn gallu dangos gwytnwch a stamina o dan bwysau
  • Yn gallu teithio rhwng safleoedd yr Ymddiriedolaeth yn ôl yr angen
Meini prawf dymunol
  • Ability to speak Welsh to level 1 standard

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveDisability confident leaderInvestors in People: GoldImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Core principlesDisability Confident Leader - Welsh

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sarah Thomas
Teitl y swydd
People and Relationship Team Leader
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg