Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
English
Gradd
NHS AfC: Band 7
Contract
Cyfnod Penodol: 3 blynedd (Until 31st March 2028)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
120-AC803-0525
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Gwasanaeth Gwaed Cymru
Tref
Pontyclun
Cyflog
£46,840 - £53,602 y ffwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/06/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre logo

Rheolwr Prosiectau

NHS AfC: Band 7

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;

Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.

ein gwerthoedd;

  • Gofalgar
  • Parchus
  • Atebol


ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.

Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre le arbennig ym maes gofal iechyd yng Nghymru. Mae’n sefydliad anhygoel i weithio ynddo ac i ddatblygu eich gyrfa hefyd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnwys dwy adran, sef Canolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) a Thechnoleg Iechyd Cymru (HTW) yn disgyn dan adain yr Ymddiriedolaeth hefyd, ar ran Llywodraeth Cymru a GIG Cymru.

Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddion a chefnogaeth i staff.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o drafod y cyfle hwn gyda chi.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae Therapïau Uwch yn therapïau celloedd a genynnau newydd y disgwylir iddynt drawsnewid llwybrau gofal presennol ac sydd â’r potensial i wella canlyniadau clinigol ar draws nifer o safleoedd clefydau.  Mae'r therapïau newydd hyn sy'n dod i'r amlwg eisoes yn realiti gyda chanllawiau NICE wedi'u cyhoeddi ar nifer o'r cynhyrchion newydd hyn.

 

Mae Canolfan Triniaeth Therapi Uwch Canolbarth Cymru (MWATTC) yn rhan o rwydwaith o Ganolfannau Triniaeth Therapi Uwch (ATTC) ar draws y DU sydd â’r nod o ysgogi parodrwydd y GIG a gweithgaredd ymchwil yn y sector therapi celloedd a genynnau. Bydd rhaglen MWATTC (Cam 2) yn cael ei chynnal gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre, ochr yn ochr ag Ysbytai Prifysgol Birmingham. Roedd y sefydliad eisoes wedi cynnal rhaglen MWATTC (Cam 1) rhwng 2018 a 2022. Bydd MWATTC yn cyd-fynd â rhaglen Therapïau Uwch Cymru (ATW).

 

Mae hon yn swydd cyfnod sefydlog / secondiad am 36 mis i gyflenwi  -31st March 2028.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae sgiliau rhyngbersonol rhagorol yn hanfodol, gan fod y rôl yn gofyn am ymgysylltu a chydweithio cadarnhaol ag aelodau rhwydwaith ATTC a phartneriaid rhanddeiliaid allweddol eraill.

 Mae sgiliau trefnu da a'r gallu i weithio gyda lefel uchel o ymreolaeth yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.  Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hanes profedig o reoli prosiectau a chyflawni'n llwyddiannus. Gan gynnwys profiad o reoli cyllidebau.

 Bydd gennych brofiad o reoli timau gyda'r gallu i roi arweiniad i aelodau iau'r tîm.

 Mae hwn yn gyfle gwych i ennill profiad ym maes rheoli prosiectau a rhaglenni canolfan ranbarthol o fewn rhwydwaith ledled y DU.

 Er mwyn bodloni gofynion y rôl hon efallai y bydd angen teithio o bryd i'w gilydd.

Gweithio i'n sefydliad

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.

Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth  drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.

Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.

Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

       Arwain trwy esiampl, gan weithredu fel model rôl ac arbenigwr rheoli prosiect atebol ar gyfer y gwasanaeth. 

       Rheoli ac arwain prosiectau clinigol a gweithredol, gan gefnogi'r Uwch Dîm Rheoli i wneud penderfyniadau strategol allweddol.   

       Cefnogi agweddau rheoli newid prosiectau, sy’n gofyn am sgiliau arwain diffiniedig i gymell, annog ac ysbrydoli staff i ddeall a derbyn gwelliannau i wasanaethau pan fydd staff o bosibl yn amharod i newid.

       Dylanwadu ar reolwyr i'w galluogi i gymryd camau unioni lle nad yw perfformiad y prosiect yn unol ag amcanion.  

       Cyfarwyddo a chymell tîm y prosiect gan roi pwyslais ar berfformiad a chyflawniad y prosiect.

       Hyrwyddo a datblygu perthnasoedd gwaith da, gan gefnogi perfformiad a safon cyflawni uchel prosiectau trwy weithio'n gydlynol ac yn effeithiol mewn tîm. 

       Sicrhau bod y tîm a'r rhanddeiliaid yn cael cyfleoedd effeithiol i gyfrannu at ddatblygu'r prosiect.

       Cydgysylltu â Bwrdd y Prosiect i sicrhau cyfeiriad a chywirdeb cyffredinol y prosiect

       O dan gyfarwyddyd Rheolwr y Rhaglen, bydd deiliad y swydd yn defnyddio ei fenter ei hun a bydd yn penderfynu ar y ffordd orau o gyflawni'r canlyniadau dymunol.

       Cymryd cyfrifoldeb am gynnydd cyffredinol a'r defnydd o adnoddau a chychwyn camau unioni lle bo angen.

 

Manyleb y person

Qualifications and/or Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Gradd Meistr neu gymhwyster proffesiynol/rheoli cyfwerth
  • Ymarferydd cofrestredig PRINCE 2 neu gymhwyster cydnabyddedig arall ym maes rheoli prosiectau
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus/hyfforddiant pellach.
Meini prawf dymunol
  • Aelod o gorff proffesiynol cydnabyddedig
  • Rheoli Newid Ymarferydd
  • Ymarferydd Agile PRINCE2 a/neu brofiad ohono.
  • Ymarferydd MSP
  • Gwybodaeth am strwythurau a phrosesau'r GIG

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Experience in delivering projects to quality, time and budget requirements, preferably within a change programme environment
Meini prawf dymunol
  • Experience of business planning process

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rachel Savery
Teitl y swydd
Head of ATW Programme & Deputy Director of MWATTC
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg