Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Microbioleg
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Oriau'n cynnwys gweithio 24/7, dyddiau'r wythnos/penwythnosau a gwyliau banc.)
- Cyfeirnod y swydd
- 028-ACS035-0925
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Rhyl
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 08/09/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Gweithiwr Cymorth Biofeddygol Uwch
Gradd 3
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â’n tîm Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Uwch.
Mae labordai Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi’u lleolli yn rhanbarth Gogledd Cymru o fewn ysbytai Gwynedd, Glan Clwyd a Wrecsam Maelor gyda safle Glan Clwyd yn un o’r Labordai Microbiolegol mwyaf yng Nghymru. Gyda’i gilydd, maent yn darparu amrywiaeth o wasanaethau diagnostig i ysbytai, clinigau ac ymarferwyr cyffredinol yng Ngogledd Cymru a Gogledd Powys.
Mae Microbioleg Gogledd Cymru yn cynnig gwasanaeth bacterioleg diagnostig arferol cynhwysfawr. Mae gan y labordy ddarpariaeth awtomeiddiaeth Kiestra, profion wrin awtomedig ac amrywiaeth eang o lwyfannau profi moleciwlaidd. Mae bob un o’r Labordai Clinigol wedi eu hachredu’n UKAS ISO 15189 ac rydym hefyd yn safle hyfforddi IBMS cymeradwy.
CYNHELIR CYFWELIADAU WYNEB YN WYNEB.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y dyletswyddau’n amrywiol, yn cynnwys mewnbynnu data, derbyn sbesimenau, labelu a phrosesu samplau cleifion mewn gwahanol rannau o’r labordy, gweithredu sterileiddwyr, awtomeiddiad, rheoli stoc a derbyn cyflenwadau’r labordy.
Bydd y swyddi yma’n addas ar gyfer unigolion brwdfrydig a llawn cymhelliant a chanddynt sgiliau cyfathrebu ac ymarferol da, y gallu i ddangos menter, y parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd a gweithio fel rhan o dîm.
Mae Gogledd Cymru’n ardal sy’n cynnig y gorau o ddau fyd, gyda’i mynediad rhwydd i rai o draethau gorau’r DU a chadwyni mynyddoedd a bryniau godidog. Mae’r rhanbarth yn agos i Gaer, Lerpwl a Manceinion gyda holl atyniadau bywyd y ddinas – felly mae rhywbeth yma ar gyfer cerddwyr, dringwyr, morwyr, siopwyr ac adar y nos. Ceir tai fforddiadwy a rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltiadau ffyrdd da ledled Cymru a Lloegr a thu hwnt yng Ngogledd Cymru hefyd – gydag Iwerddon hefyd ond taith llong fer i ffwrdd.
Gweithio i'n sefydliad
Iechyd Cyhoeddus Cymru ydym ni – yr asiantaeth iechyd y cyhoedd genedlaethol yng Nghymru. Ein pwrpas yw ‘Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru Iachach’. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Gyda'n partneriaid, rydym yn gweithio i gynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae ein timau'n gweithio i atal clefydau, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd y cyhoedd. Ni yw prif ffynhonnell gwybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mewn byd sy'n wynebu heriau iechyd cymhleth, nid yw ein gwaith erioed wedi bod mor bwysig.
Rydym yn cael ein harwain gan ein Gwerthoedd, 'Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle cynhwysol sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac sy'n cefnogi trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys rolau rhan-amser a rhannu swyddi.
I gael gwybod rhagor am weithio i ni a’r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Addysg TGAU gan gynnwys Saesneg a Mathemateg neu gymwysterau cyfwerth neu brofiad perthnasol.
Meini prawf dymunol
- Tystysgrif Cyflawniad IBMS Rhan 1. Pwnc sy'n gysylltiedig a Gwyddoniaeth.
Experience
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth sylfaenol sydd yn gydnaws ac gwaith labordy.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn labordy microbioleg yn y DU. Diddordeb mewn gwaith labordy ysbyty. Profiad hyfforddiant.
Skills & knowledge
Meini prawf hanfodol
- Deheurwydd llaw da a chydsymudiad llaw/llygad da Gallu gweithio'n ddibynadwy ac yn effeithlon ar eich menter eich hun ac fel rhan o dim. Gallu dilyn cyfarwyddiadau a gweithdrefnau geiriol ac ysgrifenedig yn gywir. Y gallu i gyfathrebu gwybodaeth glinigol gymhleth yn effeithiol gyda staff a chysylltiadau allanol o bob gradd. Y gallu i weld problemau. Deall egwyddorion arferion da mewn labordy. Deall egwyddorion a phwysigrwydd systemau Gwarantu Ansawdd. Ymwybyddiaeth iechyd a diogelwch.
Meini prawf dymunol
- Sgiliau bysellfwrdd sylfaenol. Defnydd blaenorol o'r System Rheoli Gwybodaeth Labordy. Deall arferion gwaith labordy gydag ychydig wybodaeth sylfaenol am Ficrobioleg. Fodlon i ddysgu pethau newydd. Deall arferion gwaith labordy gydag ychydig wybodaeth sylfaenol am Ficrobioleg.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Clare Allman
- Teitl y swydd
- Technical Operational Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
CYNHELIR CYFWELIADAU WYNEB YN WYNEB.
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector