Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwasanaethau Caffael
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Gweithio hybrid (Yn y Swyddfa a Gartref))
Cyfeirnod y swydd
043-AC127-0726
Cyflogwr
GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Alder
Tref
Llanelwy
Cyflog
£28,819 - £31,626 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
27/07/2026 23:59

Teitl cyflogwr

GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau logo

Swyddog Cynorthwyol Busnes Caffael

Gradd 4

Trosolwg o'r swydd

Mae Gwasanaeth Caffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn un sefydledig sy'n cynorthwyo'r Byrddau Iechyd a'r Ymddiriedolaethau ledled Cymru i ddarparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y claf. Rydym yn wasanaeth sydd wedi ennill gwobrau, ac rydym yn canolbwyntio ar werth am arian, diogelwch, rhagoriaeth, arloesedd ac ansawdd. Ein nod yw rhoi proses gaffael ddi-dor ar waith sy’n rhyddhau amser clinigol fel bod modd canolbwyntio ar ofalu am gleifion, ynghyd â datblygu dull caffael sy’n seiliedig ar werth ac sydd â chleifion yn ganolbwynt iddi.

Mae gan y Gwasanaeth Caffael swydd wag ar gyfer Swyddog Busnes Caffael. Dyma gyfle gwych i ddatblygu eich gyrfa gaffael mewn amgylchedd deinamig, heriol a phroffil uchel yn genedlaethol.

Mae deiliad y swydd yn gweithio ar lefel genedlaethol a lleol gyda ffocws ar Fflyd a Thrafnidiaeth.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein staff ac rydym yn cefnogi datblygiad ein staff bob blwyddyn trwy lefelau gwahanol cymwysterau CIPS. Ein nod yw cael gweithlu medrus, ymroddedig a phroffesiynol sy’n cefnogi GIG Cymru ym mhob agwedd ar y broses Caffael i Dalu. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cyfrannu at fod yn rhyngwyneb Caffael rhwng Caffael Lleol PCGC a’n cwsmeriaid, a bydd yn cynorthwyo i gynrychioli’r adran ar lefelau amrywiol.  Bydd deiliad y swydd hefyd yn cynorthwyo i roi gwybodaeth am statws/blaenoriaeth cynlluniau gwaith categori ar draws yr Ymddiriedolaeth.  Bydd hyn yn cynnwys cysylltu ag adrannau defnyddwyr a PCGC ar bob lefel er mwyn hyrwyddo cyfraniad caffael at gynlluniau busnes sefydliadau partner ar y cyfle cyntaf.  

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r Rheolwr Busnes Caffael i ddarparu gwasanaeth caffael proffesiynol i'r Ymddiriedolaeth gan gyfrannu at ddatblygu a chyflawni cynllun Busnes PCGC. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r Rheolwr Busnes Caffael ar faterion caffael ac ar brosiectau allweddol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais. 

Gweithio i'n sefydliad

Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.

Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl. 

Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.

Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb.  I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/

Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.  

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cymwysedig i CIPS (Level4)/Gwybodaeth am egwyddorion prynu proffesiynol a gafwyd trwy NVQ lefel 2/3 neu drwy Dystysgrif Uwch mewn Caffael a Chyflenwi, neu brofiad cyfatebol, 5 TGAU gradd C neu uwch.

Gwybodaeth/Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am egwyddorion prynu proffesiynol a gafwyd trwy NVQ lefel 3 neu Dystysgrif Uwch mewn Caffael a Chyflenwi. Gellir ystyried profiad sy'n berthnasol i'r rôl
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth ddigonol am systemau a gweithdrefnau ansawdd, gan gynnwys technegau datrys problemau

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gallu pendant i sefydlu a chryfhau perthnasoedd gweithio effeithiol â rhanddeiliaid
Meini prawf dymunol
  • gallu i weithio o fewn terfynau amser

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu pendant
  • Cymwys o ran defnyddio cynhyrchion Microsoft
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i weithio'n gadarnhaol fel rhan o dîm.
  • Y gallu i ddadansoddi a dehongli setiau data cymhleth

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Customer Service ExcellenceHyderus o ran anabledd - ymroddedigDisability confident committedMenopause Workplace PledgeEnei MemberLexcel Legal Practice Quality MarkRhwydwaith Network 75 logoEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau ApprenticeshipsArmed Force Convenant - Silver Award

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Ian Emptage
Teitl y swydd
Deputy Head of National Sourcing
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
+442921501063
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg