Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
TG
Gradd
Band 5
Contract
Secondiad: 12 mis (12 months secondment cover)
Oriau
  • Llawnamser
  • Gweithio hyblyg
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
025-AC250-1025
Cyflogwr
Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Technium 2 - Gweithio Hybrid
Tref
Abertawe
Cyflog
£31,516 - £38,364 pa
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
03/11/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Iechyd a Gofal Digidol Cymru logo

Hwylusydd Gofal Sylfaenol

Band 5

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.


Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.


Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais.  Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

NODER MAI DIM OND CEISIADAU GAN STAFF A GYFLOGIR GAN GIG CYMRU AR HYN O BRYD Y BYDDWN YN EU DERBYN.  

Fel tîm sy’n tyfu, mae gennym swydd wag gyffrous ar gyfer Hwylusydd Gofal Sylfaenol i weithio fel rhan o’r Tîm Gwasanaethau Gofal Sylfaenol yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru. 

Fel Hwylusydd Gofal Sylfaenol, byddwch yn gyfrifol am ddarparu a chefnogi technolegau digidol i randdeiliaid Gofal Sylfaenol.  

Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant sy’n barod i weithio, dysgu a chyfrannu’n weithredol o fewn amgylchedd tîm, ac sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol.  

Mae profiad o ddarparu technolegau digidol yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol.  

Oherwydd lleoliad a lledaeniad ein portffolio gwasanaeth, bydd gofyn i chi fod yn hyblyg a gallu teithio i wahanol safleoedd ledled Cymru o leiaf 3 gwaith yr wythnos; gall hyn olygu aros dros nos o bryd i’w gilydd. 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Prif ddyletswyddau’r swydd yw: 

  • Cefnogi gweithrediad mentrau cenedlaethol neu leol drwy gyflwyno technolegau digidol i ystod eang o randdeiliaid Gofal Sylfaenol 
  • Hyfforddi a mentora rhanddeiliaid Gofal Sylfaenol wrth fabwysiadu technolegau digidol newydd 
  • Meithrin perthnasoedd â rhanddeiliaid Gofal Sylfaenol i reoli eu hanghenion gwasanaeth digidol yn effeithiol 
  • Monitro ceisiadau gwasanaeth a gweithredu fel pwynt uwchgyfeirio ar gyfer materion rhanddeiliaid Gofal Sylfaenol, gan gysylltu ag IGDC, byrddau iechyd a chyflenwyr, yn ôl yr angen.  
  • Sefydlu a chynnal cyfathrebu ysgrifenedig a llafar dwyffordd effeithiol gyda’r holl randdeiliaid 
  • Darparu adroddiadau rheolaidd i randdeiliaid ar gynnydd ac effeithiolrwydd y gwasanaethau TG a ddarperir, gan sicrhau cydymffurfiaeth â’r safonau cenedlaethol ac arferion gorau 
  • Cyfrannu at ddatblygu cynlluniau prosiect sy’n nodi adnoddau, llwybrau critigol, a risgiau. 

Mae’r swydd hon am gyfnod penodol o 12 mis i gwrdd â gofynion y gwasanaeth. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn gorff cenedlaethol arbenigol ac yn rhan o GIG Cymru. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn GIG Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddarparu gwasanaethau digidol a data cenedlaethol syn cefnogir gwaith o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae gwasanaethau iechyd a gofal modern yn dibynnu ar offer digidol, data a gwybodaeth da. Mae IGDC yn rhedeg neun gweithio gyda mwy na 100 o wasanaethau ac yn darparu rhaglenni trawsnewid digidol cenedlaethol mawr i gefnogi hyn. Yn ogystal, mae IGDC yn darparu cyngor arbenigol mewn perthynas â seiberddiogelwch a llywodraethu gwybodaeth. Rydym yn rhoir offer digidol i staff rheng flaen syn eu helpu i ddarparu gofal mwy diogel a mwy effeithlon. Rydym hefyd yn rhoi offer digidol i gleifion ar cyhoedd i reoli eu hiechyd au llesiant eu hunain yn well, gan rymuso pobl i fyw bywydau iachach. Rydym yn rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn, gan weithio ir safonau uchaf i ddarparu ansawdd ac i wneud digidol yn rym er gwell ym maes iechyd a gofal. 

Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.

 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Yn gyfrifol am: 

  • addasu blaenoriaethau i fodloni gofynion rhanddeiliaid sy’n newid yn aml, gan hunan-reoli unrhyw ofynion sy’n gwrthdaro  
  • darparu hyfforddiant i randdeiliaid Gofal Sylfaenol ar y cynhyrchion a’r gwasanaethau digidol sydd ar gael iddynt 
  • cynnal cyfathrebu ysgrifenedig a llafar dwy ffordd effeithiol 
  • gweithredu mentrau cenedlaethol neu leol 
  • darparu adborth ar brosesau a gweithdrefnau newydd i gefnogi newidiadau i weithrediad gwasanaethau gan sicrhau gwelliannau parhaus i wasanaethau i randdeiliaid Gofal Sylfaenol 
  • paratoi a drafftio adroddiadau arferol ac ad hoc 
  • defnyddio technoleg i’w llawn botensial i wella perfformiad a gwneud argymhellion i brosesau gweithredol y timau i wella perfformiad ar draws y tîm 
  • darparu a derbyn gwybodaeth gymhleth neu sensitif mewn perthynas â chynnyrch/gwasanaethau, prosiectau a ffrydiau gwaith y bydd angen eu dehongli a’u cyfleu i aelodau’r tîm 
  • hwyluso’r defnydd o gynhyrchion a gwasanaethau cenedlaethol trwy sianeli cyfathrebu y cytunwyd arnynt. 

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol neu’n gallu dangos hanes o brofiad cyfatebol.
  • Ymrwymiad i’ch datblygiad proffesiynol parhaus eich hun.
Meini prawf dymunol
  • Tystysgrif Sylfaen ITIL neu brofiad cyfatebol amlwg.
  • Gwybodaeth ymarferol o Dermau Clinigol.
  • Gwybodaeth am sefydliadau GIG Cymru a strategaeth ITIL
  • Gwybodaeth am safonau perthnasol y GIG a gofynion cyfreithiol sy’n ymwneud â Llywodraethu Gwybodaeth a Diogelwch.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid mewn lleoliad Gofal Sylfaenol
  • Profiad o gyflawni prosiectau mewn lleoliad Gofal Sylfaenol.
Meini prawf dymunol
  • Cyflwyno i grwpiau bach.

Skills and Attributes

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun tra’n bod yn aelod effeithiol o dîm hybrid
  • Ymagwedd ragweithiol a hyblyg at waith.
  • Gallu ymateb i amgylcheddau newidiol.
  • Sgiliau trefnu rhagorol a’r gallu i nodi blaenoriaethau
  • Meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol.
  • Yn gallu datblygu a chynnal perthynas waith effeithiol gyda chydweithwyr a Rhanddeiliaid.
Meini prawf dymunol
  • Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveWork With Me - A commitment to becoming a more inclusive business for disabled peopleGold Award for Corporate Health StrategyImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesGood Recruitment CollectiveStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.CTP The Ministry of Defence partnering with Right ManagementDisability confident employerRemploy CymruThe University of Wales Trinity Saint David - Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi SantThe Poppy FactoryDying to Work CharterThe Chartered Institute for IT - Reward the professionalism of your team, define and accelerate career paths, and recognise your organisation’s commitment to advancing technology.Federation for Informatics Professionals - A collaboration between the leading professional bodies in health and care informatics supporting the development of the informatics profession.Armed Forces CovenantEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Tracy Evans
Teitl y swydd
Delivery Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg