Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddu
Gradd
Band 4
Contract
Parhaol: Oherwydd natur y swydd hon, bydd angen Gwiriad Diogelwch Swyddfa'r Cabinet hyd at Lefel SC (Gweler Disgrifiad y Swydd/Manyleb y Person)
Oriau
Llawnamser - 09:00 - 17:00 Weekdays
Cyfeirnod y swydd
043-AC017-0126
Cyflogwr
GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Tŷ Matrix, Abertawe
Tref
Abertawe
Cyflog
£27,898 - £30,615 per annum
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
12/02/2026 23:59

Teitl cyflogwr

GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau logo

Cydlynydd Cynllunio a Pharhad Busnes

Band 4

Trosolwg o'r swydd

Mae'r Cydlynydd Cynllunio a Pharhad Busnes yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau gwydnwch sefydliadol a chynllunio strategol. Mae'n 
sicrhau bod y sefydliad yn barod i ymateb yn effeithiol i aflonyddwch, gan ddiogelu pobl, asedau a gweithrediadau ac yn darparu capasiti 
gweinyddol i amrywiaeth o weithgareddau cynllunio a thrawsnewidiol y Timau Cynllunio, Perfformiad a Gwybodeg.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Cefnogi'r Tîm Cynllunio, Perfformiad a Gwybodeg (PPI) sy'n cynnwys Parodrwydd am Argyfwng, Ymateb ac Adferiad, y Tîm Cynllunio, 
    Perfformiad a Gwybodeg a'r Swyddfa Rheoli Trawsnewidiol wrth ddarparu gwasanaeth proffesiynol, o ansawdd uchel ac ymatebol i staff a phartneriaid Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ledled Cymru.
  • I gydlynu a chefnogi cyfarfodydd, rhaglenni dysgu a datblygu, gweithdai ymwybyddiaeth staff ac unrhyw ddigwyddiadau eraill dan 
    arweiniad y tîm PPI, a defnyddio menter a phrofiad perthnasol a chynnal cyfrinachedd bob amser.
  • Cefnogi'r tîm i gyd-gyflawni cynlluniau a phrosiectau gyda rhanddeiliaid a phartneriaid mewnol ac allanol.
  • Mewnbynnu data a thynnu adroddiadau o amrywiaeth o systemau digidol er mwyn galluogi adrodd effeithlon ar berfformiad yr Is-adran 
    a'r Sefydliad.
  • Goruchwylio a chynnal y gwahanol sianeli cyfathrebu o fewn y tîm, gan gynnwys y safle mewnrwyd SharePoint a chylchlythyrau mewnol.

Gweithio i'n sefydliad

Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.

Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl. 

Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.

Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb.  I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/

Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd. 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Qualifications and Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Safon dda o addysg gyffredinol hyd at lefel TGAU neu gyfwerth
  • Cymhwyster NVQ Lefel 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn busnes a gweinyddiaeth berthnasol neu brofiad gweithle cyfatebol profedig
  • Llythrennedd digidol h.y. EDSQ, ICDL, defnydd cyfatebol neu amlwg o systemau digidol fel offer Microsoft Office, systemau Cofnodi Cyflogaeth ac ati. tal literacy i.e. EDSQ, ICDL, equivalent or proven use of digital systems such as Microsoft Office tools, Employment Recording systems etc.
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o Reoli Perfformiad a gweinyddu Rheoli Trawsnewidiol
  • Gwybodaeth a phrofiad o brosesau archwilio

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o gyflawni ystod eang o ddyletswyddau gweinyddol mewn amgylchedd swyddfa heriol.
  • Profiad o weithio mewn tîm yn llwyddiannus
  • Profiad o ddelio â data cyfrinachol a sensitif
  • Profiad o weithio fel tîm a gallu amlwg i weithio o bell
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio yn y GIG, y sector cyhoeddus neu sefydliad cymhleth.

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu dangos rhinweddau personol sy'n cyd-fynd â gwerthoedd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
  • Sgiliau rhyngbersonol datblygedig gyda’r gallu i fagu perthynas ar bob lefel
  • Yn gallu cynllunio a blaenoriaethu llwyth gwaith i gwrdd â therfynau amser ac ymdrin yn effeithiol â blaenoriaethau sy'n gwrthdaro
  • Hyfedr wrth ddefnyddio pecynnau TG e.e. Microsoft Office gyda'r gallu i feistroli rhaglenni newydd
  • Yn gydweithredol ac addasadwy ar draws timau ac amgylcheddau amrywiol
  • • Yn barod i ddefnyddio menter a chymryd cyfrifoldeb sy’n gymesur â'r rôl.
  • Yn barod i holi cwestiynau a rhoi adborth adeiladol i hyrwyddo gwelliant parhaus yn y gweithle
  • Parodrwydd i ddatblygu’n broffesiynol ym meysydd Parhad Busnes, Cynllunio, Archwilio a meysydd perthnasol eraill.

Arall

Meini prawf hanfodol
  • • Bydd y swydd hon yn destun Gwiriad Diogelwch Swyddfa'r Cabinet (Lefel SC). Rhaid i ymgeiswyr naill ai fod wedi cael y gwiriad diogelwch neu gytuno i fod yn destun y gwiriad diogelwch fel amod cyflogaeth. Mae gwybodaeth am lefelau'r gwiriadau diogelwch ar gael yn: National security vetting: clearance levels - GOV.UK (Saesneg yn unig)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Customer Service ExcellenceHyderus o ran anabledd - ymroddedigDisability confident committedMenopause Workplace PledgeEnei MemberLexcel Legal Practice Quality MarkRhwydwaith Network 75 logoEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau ApprenticeshipsArmed Forces Bronze Award NWSSP

Gofynion ymgeisio

Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Andrew Francis
Teitl y swydd
Head of EPRR
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07484976292
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg