Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Microbioleg
- Gradd
- Gradd 5/6 (yn dibynnu ar brofiad)
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener 08:45 - 17:00, 1:6 penwythnos, cymryd rhan mewn rotau ar alwad a gwyliau banc)
- Cyfeirnod y swydd
- 028-HS072-0725
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Singleton
- Tref
- Abertawe
- Cyflog
- £31,516 - £47,280 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 05/08/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Gwyddonydd Biofeddygol/Arbennig
Gradd 5/6 (yn dibynnu ar brofiad)
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Nodwch y gall y penodiad gael ei wneud ar Band 5 neu Fand 6 yn dibynnu ar brofiad.
Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno â Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru gan ein bod wedi ehangu ein gweithlu a'r ffordd y darperir gwasanaethau Microbioleg yn ddramatig. Mae Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys rhwydwaith o labordai sydd ar hyn o bryd wedi'u lleoli ar sawl safle ledled Cymru.
Mae cyfle wedi codi i ymuno â'n Tîm Bacterioleg yn Ysbyty Singleton. Byddwch yn cael y cyfle i fod ar flaen y gad ym maes Microbioleg yng Nghymru yn dilyn buddsoddiad sylweddol mewn technoleg a staff newydd. Ein nod yw darparu gwasanaeth diagnostig ymatebol, modern, cyflym i bobl Cymru gan ddefnyddio offer o'r radd flaenaf.
I ddangos ein hymrwymiad a'n hymroddiad i'n staff rydym yn cynnig dilyniant awtomatig i Fand 6 ar ôl cwblhau eu Diploma Arbenigol IBMS (Microbioleg/ Bacterioleg Feddygol) yn llwyddiannus gyda chydymffurfiaeth 100% o ran hyfforddiant statudol a gorfodol a dogfennau cymhwysedd perthnasol.
Bydd deiliaid y swydd llwyddiannus yn cael eu cynorthwyo'n llawn, a rhoddir hyfforddiant llawn gan ein tîm hyfforddi. Byddwch yn cael eich annog i ddatblygu a rhoddir cyfleoedd i wella eich gyrfa.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n frwdfrydig, yn llawn cymhelliant ac yn arloesol, gyda galluoedd trefnu ac ymarferol da wedi'u cefnogi gan wybodaeth wyddonol. Dylai ymgeiswyr feddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu wedi'u datblygu'n dda a gallu i gefnogi gwaith unigol ac mewn tîm. Bydd bod gyda agwedd hyblyg at waith, gyda hunangymhelliant a sgiliau ymarferol da yn hanfodol i'ch rôl. Byddwch yn defnyddio'ch gwybodaeth a'ch sgiliau fel Gwyddonydd Biofeddygol i gyfrannu at system gadarn a chwbl weithredol yn yr adran. Byddwch yn cynorthwyo wrth adeiladu tîm cryf a chynorthwyo'r Uwch Wyddonwyr Biofeddygol i alluogi gwelliannau parhaus yn yr adran a thrwy gydol y Rhwydwaith Microbioleg. Mae dealltwriaeth o arferion labordy da ac ISO15189 rheoli ansawdd yn ddymunol.
Bydd dydd deiliad y swydd yn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth 24/7 yn unol â rota gyhoeddedig.
Mae ein tîm yn cynnig amgylchedd gwaith amrywiol, heriol a gwerth chweil, gyda'r cyfle i fod ar flaen y gad ym maes Microbioleg yng Nghymru.
Gweithio i'n sefydliad
Iechyd Cyhoeddus Cymru ydym ni – yr asiantaeth iechyd y cyhoedd genedlaethol yng Nghymru. Ein pwrpas yw ‘Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru Iachach’. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Gyda'n partneriaid, rydym yn gweithio i gynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae ein timau'n gweithio i atal clefydau, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd y cyhoedd. Ni yw prif ffynhonnell gwybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mewn byd sy'n wynebu heriau iechyd cymhleth, nid yw ein gwaith erioed wedi bod mor bwysig.
Rydym yn cael ein harwain gan ein Gwerthoedd, 'Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle cynhwysol sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac sy'n cefnogi trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys rolau rhan-amser a rhannu swyddi.
I gael gwybod rhagor am weithio i ni a’r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gallwch ddod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb y Person atodedig yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwnewch gais nawr” i'w gweld yn Trac.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cofrestru fel Gwyddonydd Biofeddygol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
Cymwysterau
Meini prawf dymunol
- Hen lyfr glas CoC neu ddiploma arbenigol mewn Microbioleg
Profiad
Meini prawf dymunol
- Profiad ol-gofrestru mewn Labordy Microbioleg
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Profiad o berfformio technegau llaw ac awtomataidd
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Deall pwysigrwydd systemau Sicrhau Ansawdd.
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Deall cyfrifoldebau sy'n ofynnol o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch bresennol.
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Gallu dysgu newydd sgiliau
Sgiliau
Meini prawf dymunol
- Sgiliau technoleg gwybodaeth
Profiad
Meini prawf dymunol
- Profiad o hyfforddi a goruchwylio staff iau
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Louise Stone
- Teitl y swydd
- Operations manager Bacteriology
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01792 704165
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Mae ymweliadau â labordai yn cael eu hannog. Cysylltwch â [email protected] rhwng 08:45-17:00 ddydd Llun - dydd Gwener.
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector