Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddol a Chlerigol
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i ddydd Gwener 08:30 i 16:30 gyda 30 munud o egwyl cinio di-dâl)
Cyfeirnod y swydd
120-AC205-1025
Cyflogwr
Canolfan Ganser Felindre
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Ganser Felindre
Tref
Yr Eglwys Newydd
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
06/11/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Canolfan Ganser Felindre logo

Cynorthwyydd Cymorth Gweinyddol

Gradd 3

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;

Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.

ein gwerthoedd;

  • Gofalgar
  • Parchus
  • Atebol

ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.

Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.

Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

  • Darparu cymorth data, gwybodaeth a gweinyddol o safon uchel ac effeithlon i'r Gwasanaethau Diogelu rhag Ymbelydredd
  • Cynorthwyo'r tîm i ddarparu gwasanaethau cymorth, gweinyddu ac adrodd cynhwysfawr yn ôl y gofyn, a darparu dull rhagweithiol o gefnogi'r tîm trwy ddosbarthu a chofnodi bathodynnau dosimetreg ymbelydredd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyfathrebu â RPS, gan gynnwys ymateb i ymholiadau mewn modd effeithlon ac amserol ac uwchgyfeirio i staff i ymateb fel y bo’n briodol.
  • Darparu gwasanaeth gweinyddu cywir ac effeithlon i’r adran, trwy ddarparu’r canlynol: galwadau ffôn sy’n dod i mewn/allan, sgwrsio digidol, e-byst, a chadw cofnod gwasanaeth ar gyfer ActionPoint
  • Defnyddio SharePoint a systemau cronfa ddata i greu a rhedeg adroddiadau i ymateb i geisiadau a gofynion sefydliadol, gan gynnwys cynnal a chadw a diweddaru taenlenni Excel, cronfeydd data ac ESR, a lle bo’n briodol, creu cronfeydd data a thaenlenni newydd at ddibenion adrodd. Cynhyrchu adroddiadau fel y cyfarwyddir.

Gweithio i'n sefydliad

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.

Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth  drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.

Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.

Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

  • Delio ag ymholiadau, gan gyfeirio materion mwy cymhleth at aelod priodol o'r adran ffiseg feddygol neu'r gwasanaeth amddiffyn rhag ymbelydredd.
  • Gweithredu fel prif ryngwyneb gwasanaeth dosimetreg personol yr RPS ar gyfer cyfathrebu o ddydd i ddydd, gyda chwsmeriaid, personél diogelwch ymbelydredd, rheolwyr adrannol, ac aelodau unigol o'u gwahanol grwpiau staff, gan gynnwys ceisiadau i gofrestru cwsmeriaid, adrannau ac unigolion, ceisiadau i derfynu trefniadau monitro, ymholiadau cyffredinol ac ariannol, cwynion, ac ati.
  • Cydgysylltu ag Ymddiriedolaethau eraill GIG Cymru, sefydliadau academaidd a sefydliadau allanol pan fo angen.
  • Darparu cyngor sylfaenol (e.e. cyfeirio staff a Rheolwyr at broses bathodynnau Dosimetreg RPS).
  • Cydlynu dyddiaduron y tîm a'r calendr digwyddiadau.
  • Trefnu cyfarfodydd, lleoliadau a lluniaeth yn ôl yr angen, a chynorthwyo gyda’r gwaith paratoi agendâu, adroddiadau a dogfennau angenrheidiol. Sicrhau bod yr holl wybodaeth angenrheidiol yn cael ei chyfleu a'i dosbarthu i fynychwyr, cyn dyddiad y cyfarfod.
  • Cefnogi staff gyda phrosesau AD e.e. ceisiadau Mamolaeth, gweithdrefnau Gadael, ac ati
  • Cymryd nodiadau mewn cyfarfodydd.
  • Darparu cymorth a dangos dyletswyddau o ddydd i ddydd i aelodau newydd o staff gan sicrhau bod gwybodaeth sy'n berthnasol i'r swydd yn cael ei rhannu â'r tîm gweithredol.
  • Gweithio gyda chydweithwyr (o fewn a thu allan i DHCW) mewn ffordd gydweithredol i wneud y defnydd gorau o adnoddau a gwella dogfennaeth a pherfformiad yr adran.
  • Defnyddio systemau SharePoint a chronfeydd data i greu a chynhyrchu adroddiadau i ymateb i geisiadau ac anghenion sefydliadol.
  • Cynnal a diweddaru taenlenni Excel, cronfeydd data ac ESR, a lle bo'n briodol, creu cronfeydd data a thaenlenni newydd at ddibenion adrodd.
  • Cynhyrchu adroddiadau fel y cyfarwyddir.
  • Bydd y deiliad swydd yn cael ei oruchwylio a bydd cyngor ar gael yn ôl yr angen gan ei Reolwr Llinell.
  • Cynnal perthynas waith dda gyda chwsmeriaid y Gwasanaeth Diogelu rhag Ymbelydredd.
  • Ymateb i geisiadau am wybodaeth o arolygon staff.
  • Gweithredu system cofnod dos a gwybodaeth gyfrifiadurol y Labordy Dosimetreg Personol a'r holl feddalwedd cymwysiadau eraill (Cronfa Ddata, taenlen, cyflwyniadau, ac ati) a ddatblygwyd i gynorthwyo gyda gwaith a rheolaeth RPS Caerdydd. Mewnbynnu a diwygio data lle bo angen.
  • Rhoi sylwadau ar bolisïau a gweithdrefnau cyffredinol yn ymwneud â'ch rôl eich hun a chynnig gwelliannau.
  • Bod yn gyfrifol am gynnal a chadw stoc o ddeunydd ysgrifennu ar gyfer y gwasanaeth amddiffyn rhag ymbelydredd. Cynorthwyo gweinyddwr yr adran i archebu cyflenwadau ar gyfer yr adran ffiseg feddygol.
  • Sicrhau argaeledd parhaus argraffwyr ac offer swyddfa ar draws yr adran ffiseg feddygol a'r gwasanaeth amddiffyn rhag ymbelydredd.
  • Meddu ar wybodaeth ddigonol am Access er mwyn defnyddio cymwysiadau sy'n bodoli eisoes ac amlygu unrhyw broblemau gweithredol.
  • Gwybodaeth am systemau rheoli swyddfa.
  • Trefnu eich amser eich hun mewn modd effeithlon.
  • Y gallu i bacio, dadbacio, didoli a thrin nifer fawr o fonitorau dosimetreg ymbelydredd personol yn gywir.
  • Mae angen ymdrech gymedrol o bryd i'w gilydd i weithredu offer swyddfa, defnyddio cyfrifiadur personol a thrin monitorau dosimetreg ymbelydredd personol.
  • Bydd yn ofynnol defnyddio Uned Arddangos Weledol ar gyfer dadansoddi data am y rhan fwyaf o’r amser.
  • Gofyniad cyson am ganolbwyntio hirfaith, e.e., mae hyn yn cynnwys creu a diwygio cofnodion cronfa ddata cwsmeriaid; codio, dogfennu a sicrhau danfon a derbyn dosimetrau; coladu a chyhoeddi adroddiadau dos; gweithredu trefn cronfa ddata ariannol ac ystadegol; a gwirio a monitro anfonebau cwsmeriaid.
  • Mae dod i gysylltiad ag amgylchiadau gofidus neu emosiynol yn brin.

Manyleb y person

Cymwysterau/Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Wedi’ch addysgu at safon TGAU (gan gynnwys Saesneg a Mathemateg) neu'n meddu ar y lefel profiad gyfatebol.
  • NVQ lefel 3 neu gyfwerth
Meini prawf dymunol
  • Cyfleu gwybodaeth fanwl i eraill.
  • RSA3 neu gyfwerth.
  • Gwybodaeth gyffredinol dda.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o Word, Excel a gwybodaeth dda am systemau gwybodaeth (gan gynnwys cronfeydd data).
  • Blaenoriaethu a rheoli eich gwaith eich hun.
  • Defnyddio eich menter eich hun wrth ymdrin â materion.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o redeg swyddfa fach.
  • Profiad o weinyddu yn y GIG.

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Cyfleu gwybodaeth fanwl i eraill.
  • Hyfforddi staff proffesiynol eraill mewn systemau a gweithdrefnau swyddfa.
  • Delio â sefyllfaoedd anrhagweladwy.
  • TG Sylfaenol – Prosesu geiriau a thaenlenni.
  • Saesneg ysgrifenedig a llafar da.
  • Rhifedd da.
  • Ysgrifennu hawdd ei ddarllen.
  • Sgiliau negodi da.
  • Dysgu dyletswyddau i ddechreuwyr newydd.
Meini prawf dymunol
  • Prosesu a storio data gan ddefnyddio systemau papur a chyfrifiadurol.
  • Defnyddiwr sylfaenol o feddalwedd cronfa ddata.
  • Arolygu neu archwilio eich gwaith eich hun.
  • Y gallu i siarad Cymraeg hyd at Lefel 1.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveDisability confident leaderInvestors in People: GoldImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Core principlesDisability Confident Leader - Welsh

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Cheryl Cleary
Teitl y swydd
Directorate Support Officer
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg