Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- English
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol.
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (I gynnwys penwythnosau a Gwyliau Banc)
- Cyfeirnod y swydd
- 120-EA159-0826
- Cyflogwr
- Canolfan Ganser Felindre
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Ganser Felindre
- Tref
- Yr Eglwys Newydd ,
- Cyflog
- £28,819 - £31,626 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 03/09/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Uwch-oruchwyliwr Cyfleusterau
Gradd 4
Trosolwg o'r swydd
Rôl yr Uwch Oruchwyliwr Cyfleusterau ydy cefnogi'r Rheolwr Cyfleusterau Meddal, Goruchwylwyr Cyfleusterau a staff, a chyflenwi yn eu habsenoldeb.
Darparu gwasanaeth cyfleusterau o'r radd flaenaf i gleifion canser, ymwelwyr a staff, gan gynnwys staff wardiau, clinigau dydd, yr ystafell fwyta a swyddogaethau eraill o fewn y Gwasanaethau Gweithredol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae’n bleser gan y Rheolwr Cyfleusterau Meddal gynnig y cyfle i unigolyn brwdfrydig a chymhellol i ymuno â’r tîm Rheoli Cyfleusterau Meddal yn y Ganolfan Ganser Felindre bresennol ac yn y Ganolfan Ganser Felindre newydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rheng flaen sy'n canolbwyntio ar y claf, a fydd yn cynnwys bob agwedd ar yr adrannau Rheoli Cyfleusterau Meddal.
Cefnogi rheolwyr a goruchwylwyr y Gwasanaethau Cyfleusterau i sicrhau cydymffurfiaeth o ran Iechyd a Diogelwch, gwastraff, hyfforddiant, deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau ar draws holl ddisgyblaethau'r Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau Meddal.
Yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl oruchwylwyr gweithredol a'r staff yn cyflawni’r ystod o ddyletswyddau y disgwylir ganddynt wrth ddarparu gwasanaethau arlwyo i gleifion ac wrth ddarparu gwasanaethau domestig, porthora, switsfwrdd/derbynfa i gleifion, staff ac ymwelwyr, yn unol â pholisïau gweithredol presennol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg i wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Yn Ymddiriedolaeth Prifysgol Felindre, rydym yn falch o ddarparu gwasanaethau arbenigol ledled Cymru drwy Ganolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru, gyda chefnogaeth ein timau corfforaethol a'n partneriaethau â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac Iechyd Technoleg Cymru.
Wrth edrych tua’r dyfodol, rydym yn paratoi ar gyfer agor Ganolfan Ganser Felindre newydd (nVCC) yng Ngwanwyn 2027—carreg filltir gyffrous a fydd yn trawsnewid gofal canser i’n poblogaeth. Wedi’i lleoli o fewn cyrraedd hawdd i ddinas fywiog Caerdydd a harddwch trawiadol Bannau Brycheiniog, rydym yn cynnig amgylchedd gwaith unigryw sy’n cyfuno arloesedd, cydweithio ac ansawdd bywyd rhagorol.
Ers ein sefydlu ym 1994, mae ein gweithlu ymroddedig wedi parhau’n ffyddlon i gyflawni egwyddorion gofal doeth ar draws ystod eang o rolau. Rydym yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i wella’r gwasanaethau a ddarparwn ymhellach.
Mae popeth rydym yn ei wneud wedi’i seilio ar werthoedd ein Hymddiriedolaeth. Rydym yn ofalgar, yn barchus ac yn atebol yn y ffordd rydym yn gweithio gyda chleifion, rhoddwyr, partneriaid a’n gilydd—gan sicrhau ein bod yn darparu’r safonau uchaf o ofal wrth ymdrechu’n barhaus i wella.
Os ydych am weithio i sefydliad sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, sy’n croesawu arloesedd ac sy’n cynnig cyfleoedd gyrfa gwerth chweil mewn lleoliad ysbrydoledig, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw’r lle i chi.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person wedi'u hatodi o fewn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud Cais nawr" i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
Meini prawf dymunol
- Sgiliau arweinyddiaeth
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Deddfwriaeth Hylendid Bwyd
- Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am Safonau Glanhau Cymru Gyfan
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Susan Sheppard - Murphy
- Teitl y swydd
- SFM Manager, Deputy Operations Manager.
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 02920196157
Rhestr swyddi gyda Canolfan Ganser Felindre yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector






.png)