Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Oncoleg
- Gradd
- NHS Medical & Dental: Specialty Registrar
- Contract
- Cyfnod Penodol: 1 flynedd (N/A)
- Oriau
- Llawnamser - 40 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 120-MD166-0725
- Cyflogwr
- Canolfan Ganser Felindre
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Ganser Felindre
- Tref
- Yr Eglwys Newydd
- Cyflog
- £37,737 - £59,336 per annum pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 17/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cymrawd Ymchwil Clinigol ym maes Treialon Canser Cyfnod Cynnar
NHS Medical & Dental: Specialty Registrar
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.
ein gwerthoedd;
- Gofalgar
- Parchus
- Atebol
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.
Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.
Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Bydd y Gymrodoriaeth Ymchwil Glinigol hon yn canolbwyntio ar gynnal ymchwil o fewn treialon oncoleg cyfnod cynnar a chyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol Felindre a Phrifysgol Caerdydd. Bydd yn cynnal ymchwil sy'n cyfrannu at welliannau yn y modd y cyflwynir treialon clinigol oncoleg cyfnod cynnar a fydd yn arwain at gyhoeddi gwaith mewn cyfnodolion o ansawdd uchel. Mae'r swydd hefyd wedi'i dylunio i gynhyrchu cynigion ymchwil y gellir eu cyflwyno i ennill cyllid i ymgymryd â gradd ymchwil uwch
Mae hyn yn rhoi cyfle prin i oncolegydd dan hyfforddiant ymgymryd â chyfnod penodol o ymchwil, ac yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth iddo ddod yn arweinydd ymchwil canser yn y dyfodol ar gyfer Canolfan Ganser Felindre a Chymru. Caiff ei gefnogi i ymgymryd â swyddi academaidd clinigol neu ymgynghorydd ymchwil y GIG wedi hynny.
Mae'r swydd hon yn llawnamser (40 awr yr wythnos), tymor penodol am flwyddyn, ac ar gael o 1 Chwefror 2026. Am ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â: [email protected]
1. Maer'r swydd hon am gyfnod penodol / secondiad am 12 mis. Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon. SYLWCH Bydd angen i ymgeiswyr gael caniatâd eu rheolwr llinell cyn cyflwyno eu diddordeb. Gallwch lawrlwytho ffurflen ryddhau i'w chynnwys gyda'ch ffurflen gais yma. (Bydd angen i’r aelod o staff a’r rheolwr llinell gwblhau’r ffurflen hon a’i dychwelyd atoch)
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cynnal ymchwil o fewn ymchwil treialon oncoleg cyfnod cynnar a chyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol Felindre a Phrifysgol Caerdydd. Yn ogystal â chynnal ymchwil sy’n cyfrannu at welliannau wrth gyflwyno treialon clinigol oncoleg cyfnod cynnar ac yn arwain at gyhoeddi gwaith mewn cyfnodolion o ansawdd uchel. Mae'r swydd hefyd wedi'i dylunio i gynhyrchu cynigion ymchwil y gellir eu cyflwyno i ennill cyllid i ymgymryd â gradd ymchwil uwch.
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.
Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.
Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Ymchwil
· Cyfrannu at reoli cleifion oncoleg mewn treialon clinigol cyfnod cynnar
· Dod yn gyfarwydd â phrotocolau treialon cyfnod cynnar ac arferion gwaith yng Nghanolfan Ganser Felindre
· Hyrwyddo uno arferion gwaith mewn treialon cyfnod cynnar rhwng uned treialon Canolfan Ganser Felindre a’r Cyfleuster Ymchwil Glinigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru a chyflawni dyletswyddau ar y ddau safle.
· Hyrwyddo gweithgarwch treialon cydlynol cyfnod cynnar ar diwmor(au) solet yn ne Cymru.
· Hyrwyddo integreiddio agos rhwng tîm treialon cyfnod cynnar a grwpiau treialon safle-benodol
· Datblygu amcanion, prosiectau, neu gynigion ymchwil treial cyfnod cynnar yn annibynnol ar gyfer ymchwil eich hun neu ymchwil ar y cyd. Bydd hyn yn cynnwys cyllid ymchwil a chyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol Felindre.
· Cefnogi a datblygu rhwydweithiau ymchwil o fewn Felindre a thu allan i’r ganolfan a thrwy gyflwyniadau rheolaidd mewn cynadleddau/seminarau cenedlaethol/rhyngwladol.
· Cynhyrchu a mynd ar drywydd syniadau am dreialon clinigol cyfnod cynnar annibynnol a gwreiddiol trwy gymryd rhan ym mhroses y Ganolfan Meddygaeth Canser Arbrofol/ Cynghrair y Diwydiant.
· Lledaenu canfyddiadau ymchwil gan ddefnyddio cyhoeddiadau priodol ac effeithiol, seminarau ymchwil, cyfarfodydd, a chynadleddau.
· Paratoi cymwysiadau moeseg ymchwil a llywodraethu ymchwil fel y bo'n briodol.
· Adolygu a chrynhoi llenyddiaeth ymchwil sydd eisoes yn bodoli yn y maes
Arall
· Ymgysylltu’n effeithiol â sefydliadau yn y sector diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, elusennau, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ac ati, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o broffil Felindre, i feithrin cynghreiriau strategol gwerthfawr, ac i fynd ar drywydd cyfleoedd i gydweithio ar draws ystod o weithgareddau. Disgwylir i’r gweithgareddau hyn gyfrannu at Ganolfan Ganser Felindre a gwella ei phroffil rhanbarthol a chenedlaethol.
· I ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol sy'n briodol i'r rôl ac a fydd yn gwella perfformiad.
· Cefnogi a hyrwyddo strategaeth Ymchwil a Datblygu Canser Felindre.
· Ymgysylltu â phartneriaid ymchwil Felindre, sy’n cynnwys cleifion, cynrychiolwyr cleifion a'r cyhoedd i ddatblygu a hyrwyddo ymchwil canser. Bydd y rôl yn gofyn yn benodol am y canlynol:
Cyfleoedd i ddatblygu a hyrwyddo Ymchwil canser. Ymgysylltu â chlinigwyr o ganolfannau canser ledled Cymru, y Ganolfan Treialon Ymchwil a gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth a gweithgareddau EPT i hyrwyddo Felindre a'i waith i'r byd y tu allan.
Dyletswyddau eraill nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond sy'n gyson â'r rôl.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Ymarferydd Meddygol Cymwys
- Cymhwyster MRCP neu gyfwerth
- Cofrestriad CMC llawn a Thrwydded i Ymarfer
Meini prawf dymunol
- MSc, BSc, PhD
- Gwybodaeth am geisiadau grant
- Gwybodaeth am y broses drwy Ymchwil a Datblygu ar gyfer treialon clinigol
- SCE – Arholiad Tystysgrif Arbenigedd mewn Oncoleg Feddygol neu gyfwerth.
- Cymhwyster ôl-raddedig mewn Oncoleg
- Cofnod cyhoeddi amlwg gan gynnwys cyhoeddiad cyntaf gan yr awdur
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad clinigol ar lefel ST5 neu uwch mewn oncoleg feddygol.
- Profiad ym maes oncoleg gan gynnwys recriwtio a rheoli cleifion i dreialon clinigol.
- Cwblhau cynllun PI Cyswllt NIHR
- Profiad o roi cyflwyniadau ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol
- Sgiliau TG yn enwedig wrth ddefnyddio cymwysiadau MS Office
- Sgiliau dadansoddi – yn gallu dadansoddi a chyflwyno data cymhleth, mewn amrywiaeth o fformatau i ystod o gynulleidfaoedd.
Meini prawf dymunol
- Profiad oncoleg i lefel STR
- Profiad o weithio gyda neu reoli cleifion sydd angen gofal dwys /dibyniaeth uchel
- Gallu profedig i reoli eich amser eich hun a chyflawni ystod o dasgau o fewn terfynau amser
- Profiad o dreialon oncoleg Cam 1
- Tystysgrif ôl-raddedig ym maes Addysgu a Dysgu ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Iechyd
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Gallu profedig i ddefnyddio TG i roi cyflwyniadau ac ysgrifennu adroddiadau.
- Gallu amlwg i werthuso llenyddiaeth yn feirniadol.
- Gallu amlwg ddangos creadigrwydd, arloesedd a gwaith tîm o fewn gwaith
Arall
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1) neu’n barod i weithio tuag ato
- Gallu amlwg i weithio heb oruchwyliaeth agos
- Gallu amlwg i addasu i ofynion newidiol treialon clinigol.
- Sgiliau trefnu a rheoli amser i reoli a chyflawni amrywiaeth o derfynau amser tynn ar gyfer tasgau a phrosiectau
- Rhoi sylw i fanylion
- Agwedd hyblyg at weithio, sy’n cynnwys sgiliau datrys problemau, rheoli newid ac awydd i ddatblygu gwybodaeth
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Professor Rob Jones
- Teitl y swydd
- Consultant Medical Oncologist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Canolfan Ganser Felindre yn Meddygol a Deintyddol neu bob sector