Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Oncoleg
Gradd
NHS Medical & Dental: Senior Clinical Fellow
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (12 mis tymor sefydlog)
Oriau
Llawnamser - 40 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
120-MD008-0626
Cyflogwr
Canolfan Ganser Felindre
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Ganser Felindre
Tref
Yr Eglwys Newydd
Cyflog
£47,946 - £74,328 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
18/06/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Canolfan Ganser Felindre logo

Senior Clinical Oncology Fellow

NHS Medical & Dental: Senior Clinical Fellow

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;

Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.

ein gwerthoedd;

  • Gofalgar
  • Parchus
  • Atebol

ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.

Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.

Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Bydd y Cymrawd Clinigol yn gweithio mewn amgylchedd cefnogol iawn, gan gydweithio'n agos â thîm amlddisgyblaethol i gefnogi'r gwaith o ddarparu triniaethau i gleifion yn CGF, a gwella gwasanaethau'n ehangach. Mae datblygiad radiotherapi o fewn CGF yn cael ei oruchwylio gan y Grŵp Cyflenwi Radiotherapi, y mae ei aelodau'n cynnwys clinigwyr, ffisegwyr meddygol a radiograffwyr. Disgwylir i ddeiliad y swydd gymryd rhan yn y Grŵp Cyflenwi Radiotherapi. 

Mae'r swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 12 mis o'r dyddiad cychwyn i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.  Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am swydd secondiad, rhaid i chi gael caniatâd gan eich rheolwr llinell presennol cyn i chi wneud cais am y swydd hon.

 

Yn ogystal â darparu presenoldeb clinigol o fewn y gwasanaeth radiotherapi, disgwylir i ddeiliad y swydd gefnogi gweithgareddau clinigol eraill CGF gan gynnwys y Gwasanaeth Oncoleg Acíwt, cleifion allanol, cynllunio radiotherapi a chefnogaeth i gleifion mewnol. Disgwylir i'r Cymrawd gefnogi gofynion addysgol gweithlu amlddisgyblaethol CGF wrth i’r ganolfa barhau i weithredu technegau radiotherapi uwch a gwasanaethau gwella clinigol, hyfforddiant ac ymchwil eraill.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddai'r swydd hon yn addas ar gyfer Cofrestrydd Arbenigedd (StR) Oncoleg Glinigol sydd wedi cwblhau Cymrodoriaeth lefel ôl-FRCR neu gyfwerth gyda diddordeb mewn technegau radiotherapi uwch. Bydd ceisiadau gan Cofrestryddion Arbenigedd Lefel Cyn Cymrodoriaeth hefyd yn cael eu hystyried. Bydd angen i'r ymgeisydd geisio darpar gymeradwyaeth gan y Bwrdd Addysg a Hyfforddiant Meddygol Ôl-raddedig ar gyfer 'ymchwil/profiad y tu allan i'r rhaglen' cyn dechrau'r swydd. Disgwylir i ddeiliad y swydd ddatblygu ei ddealltwriaeth o radiotherapi uwch, gan gynnwys delweddu uwch ar gyfer diffinio cyfaint targed, cynllunio IMRT a PBT, symudiad organau mewnol ac IGRT.

 

Bydd deiliad y swydd yn ymuno â thîm o StRs ac yn cyfrannu at ofal clinigol cleifion allanol a gofal ward cleifion mewnol, gan gynnwys y Gwasanaeth Oncoleg Acíwt a'r uned asesu derbyniadau. Gall deiliad y swydd ddewis cael ei gynnwys mewn gwasanaeth ar alwad cylchdroadol ar gyfer y Gwasanaeth Oncoleg Acíwt yn ystod oriau'r dydd a'r ail feddyg sydd ar alwad oddi ar y safle dros nos. 

 

Bydd y swydd yn darparu cyfleoedd i gael profiad mewn ymchwil treialon clinigol gyda Cis, recriwtio treialon, RTQA a threialon cyfnod cynnar. Disgwylir i ddeiliad y swydd fod yn rhan o ddatblygu SrT, ei gyflwyno i safleoedd newydd, datblygu cynllunio seiliedig ar ddelweddau a thriniaeth addasol, cynllunio anfeddygol, hyfforddiant a sicrhau ansawdd.

Gweithio i'n sefydliad

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.

Wedi'i sefydlu ym 1994, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.

Yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, ein nod ydy meithrin diwylliant o ddarganfod, cydweithredu a sicrhau gwelliant parhaus.  Byddwn yn cyflawni hyn drwy ymgorffori ymchwil ac arloesedd ym mhopeth a wnawn, er mwyn cyflawni effaith ystyrlon a mesuradwy i'n cleifion a'n cymunedau.

Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.

https://velindre.nhs.wales/ 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd-Ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person wedi eu hatodi yn y dogfennau ategol, neu cliciwch ar "Apply now " i'w gweld yn Trac.

Dyma'r graddfeydd tâl gweithredol cyfredol; felly, gall y rhain newid wrth weithredu'r cytundeb fframwaith ar gyfer diwygio i delerau ac amodau gwasanaeth meddygon a deintyddion preswyl yng Nghymru. Gellir dod o hyd i fanylion pellach yn BMA+-+Framework+Agreement+Wales

Manyleb y person

CYMHWYSTERAU A CHYMHWYSTRA

Meini prawf hanfodol
  • Ymarferydd Meddygol Cymwys
  • Yn gymwys i gofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC)
  • FRCR neu gyfwerth
  • Yn fodlon gweithio ar draws 2 safle fel y gofynnir gan y rôl

PROFIAD

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o brofiad mewn amrywiaeth o arbenigeddau meddygol acíwt, gyda phrofiad o reoli cleifion ar dderbyniad meddygol heb ei ddewis yn ystod hyfforddiant craidd neu gyfwerth
  • Cael tystiolaeth bod eu lefel bresennol o gyflawniad a pherfformiad yn gymesur â chyfanrwydd eu cyfnod hyfforddi
  • Heb fod eisoes yn dal, nac yn gymwys i ddal, CCT/CESR yn yr arbenigedd y maent yn gwneud cais amdano
  • Heb fod wedi rhoi'r gorau i raglen hyfforddi yn yr arbenigedd hwn o'r blaen, nac wedi cael eich rhyddhau / eich tynnu oddi arni, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.
Meini prawf dymunol
  • Profiad ar lefel 1/2 CT/ST o reoli cleifion â chlefyd canser a rheoli problemau sy'n gysylltiedig â chanser

SGILIAU CLINIGOL

Meini prawf hanfodol
  • Yn dangos ymwybyddiaeth o hanfodion rheoli cleifion â chanser
  • Cymhwysedd ar lefel cwblhau craidd wrth reoli argyfyngau meddygol, cleifion mewnol a chleifion allanol
  • Sylfaen wybodaeth briodol, a'r gallu i gymhwyso barn glinigol gadarn i broblemau
  • Yn gallu gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol lle bo'n briodol
  • Yn gallu blaenoriaethu angen clinigol
  • Yn dangos ardystiad ALS cyfredol neu gyfwerth
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o sgiliau wrth reoli argyfyngau meddygol acíwt (e.e. tystysgrif ALERT, IMPACT)

SGILIAU ACADEMAIDD

Meini prawf hanfodol
  • Yn dangos dealltwriaeth o ymchwil, gan gynnwys ymwybyddiaeth o faterion moesegol
  • Yn dangos dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol archwilio, rheoli risg glinigol, ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth, diogelwch cleifion a mentrau gwella ansawdd clinigol
  • Yn dangos gwybodaeth am ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  • Tystiolaeth o brofiad addysgu a/neu hyfforddiant mewn addysgu
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o gyflawniadau academaidd ac ymchwil perthnasol, a chyfranogiad mewn prosiect ymchwil ffurfiol
  • Tystiolaeth o bortffolio o brosiectau archwilio/gwella ansawdd, gan gynnwys lle mae'r ddolen archwilio wedi'i chau a bod tystiolaeth o ddysgu egwyddorion rheoli newid
  • Tystiolaeth o ymwneud ag addysgu myfyrwyr, ôl-raddedigion a gweithwyr proffesiynol eraill
  • Tystiolaeth o gyfranogiad mewn cwrs addysgu

GWYBODAETH

Meini prawf hanfodol
  • Rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau amlwg mewn Saesneg ysgrifenedig a llafar, sy'n ddigonol i alluogi cyfathrebu effeithiol am bynciau meddygol gyda chleifion a chydweithwyr; fel y dangosir gan un o'r canlynol: Hyfforddiant meddygol israddedig a gynhelir yn Saesneg neu canlyniadau academaidd System Profi Iaith Saesneg Ryngwladol (IELTS) yn dangos sgôr o 7.0 o leiaf ym mhob maes (siarad, gwrando, darllen, ysgrifennu), gyda sgôr gyffredinol o 7.5 o leiaf, i'w gyflawni mewn un eisteddiad ac o fewn 24 mis i amser y cais

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveDisability confident leaderInvestors in People: GoldImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Core principlesDisability Confident Leader - Welsh

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Seema Arif
Teitl y swydd
Dr Seema Arif
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg