Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Palliative Medicine
Gradd
GIG Meddygol a Deintyddol: Ymgynghorydd Locwm
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (Dyddiad gorffen un flwyddyn o'r dyddiad cychwyn yn y swydd)
Oriau
Llawnamser - 10.3 sesiwn yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
120-MD014-0926
Cyflogwr
Canolfan Ganser Felindre
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
City Hospice
Tref
Whitchurch
Cyflog
£125,509 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
08/10/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
16/10/2026

Teitl cyflogwr

Canolfan Ganser Felindre logo

Ymgynghorydd Meddygol Locwm mewn Meddygaeth Liniarol

GIG Meddygol a Deintyddol: Ymgynghorydd Locwm

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;

Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.

ein gwerthoedd;

  • Gofalgar
  • Parchus
  • Atebol

ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.

Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.

Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Bydd y swydd yn cynnwys hyd at 10.3 sesiwn, gan gynnwys 8 sesiwn/wythnos yn Hosbis y Ddinas a 2 sesiwn/wythnos gyda thîm cymorth ysbyty gofal lliniarol arbenigol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, a 0.3 sesiwn/wythnos ar gyfer ymrwymiadau y tu allan i oriau gwaith.

Cynlluniau Swydd Enghreifftiol

Mae'r dyletswyddau a ddisgrifir yma yn rhai dros dro, a byddant yn destun adolygiad. Byddant yn rhan gyfansawdd o'r cynllun swydd, a gytunir arno rhwng deiliad y swydd a Chyfarwyddwr Clinigol Meddygaeth Liniarol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre neu ddirprwy enwebedig. 

  1. Cleifion Mewno

DIWRNOD        AM               PM

Dydd Llun , Tîm Amlddisgyblaethol Hosbis y Ddinas/SPA

Dydd Mawrth, Ymweliadau cartref â Hosbis y Ddinas/Gweinyddu Clinigol

Dydd Mercher, Gwasanaeth Oncoleg Cleifion Mewnol/Acíwt Canolfan        Ganser Felindre/Rownd Bwrdd a Ward, gan gynnwys gwaith                    Cynllunio Gofal y Dyfodol a rheoli symptomau/ Cynllunio Gofal y Dyfodol Canolfan Ganser Felindre, mewnbwn Oncoleg Acíwt ac adolygiad gofal lliniarol i gleifion mewnol

Dydd  Iau Hosbis Clinig y Ddinas/Gweinyddiaeth glinigol/gweithgareddau llywodraethu clinigol

Dydd Gwener, Clinig meddygaeth liniarol integredig neu ymweliadau cartref/SPA

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Gweithredu fel Ymgynghorydd Arbenigol mewn Meddygaeth Liniarol ar gyfer pob gwasanaeth clinigol yn Hosbis y Ddinas, a chyfrannu at sesiynau yng Nghanolfan Ganser Felindre dan nawdd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
  • Darparu gofal o ansawdd uchel, prydlon, sy'n canolbwyntio ar y claf a dan arweiniad ymgynghorydd i gleifion mewnol, cleifion allanol, cleifion achosion dydd a chleifion yn y gymuned a'r rhai sy'n defnyddio’r uned asesu oncoleg, radiotherapi a gwasanaethau eraill.
  • Gweithio i sicrhau model integredig o ddarparu gwasanaethau gofal lliniarol i bob claf o fewn dalgylchoedd gwasanaethau Felindre, drwy gydweithio’n agos â darparwyr gofal lliniarol arbenigol a chyffredinol eraill.
  • Asesu a rheoli cleifion sy'n mynychu Felindre sy'n sâl iawn ac yn symptomatig, a darparu mewnbwn ar gyfer y gwasanaeth oncoleg acíwt
  • Cyfrannu at weithgareddau addysgu, archwilio, gwella ansawdd ac ymchwil
  • Cyflawni cyfrifoldebau rheoli a llywodraethu clinigol priodolCymryd rhan mewn rota ar alwad sy’n darparu cymorth bob awr o’r dydd, bob dydd, y tu allan i oriau i bob ysbyty, uned gofal lliniarol arbenigol i gleifion mewnol, a chleifion yn y gymuned yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fr

Mae’r Swydd Hon am Gyfnod Penodol/Secondiad am 12 mis o'r dyddiad cychwyn yn y swydd  oherwydd cyllido. Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon. 

Gweithio i'n sefydliad

Yn Ymddiriedolaeth Prifysgol Felindre, rydym yn falch o ddarparu gwasanaethau arbenigol ledled Cymru drwy Ganolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru, gyda chefnogaeth ein timau corfforaethol a'n partneriaethau â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac Iechyd  Technoleg Cymru.

Wrth edrych tua’r dyfodol, rydym yn paratoi ar gyfer agor Ganolfan Ganser Felindre newydd (nVCC) yng Ngwanwyn 2027—carreg filltir gyffrous a fydd yn trawsnewid gofal canser i’n poblogaeth. Wedi’i lleoli o fewn cyrraedd hawdd i ddinas fywiog Caerdydd a harddwch trawiadol Bannau Brycheiniog, rydym yn cynnig amgylchedd gwaith unigryw sy’n cyfuno arloesedd, cydweithio ac ansawdd bywyd rhagorol.

Ers ein sefydlu ym 1994, mae ein gweithlu ymroddedig wedi parhau’n ffyddlon i gyflawni egwyddorion gofal doeth ar draws ystod eang o rolau. Rydym yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i wella’r gwasanaethau a ddarparwn ymhellach.

Mae popeth rydym yn ei wneud wedi’i seilio ar werthoedd ein Hymddiriedolaeth. Rydym yn ofalgar, yn barchus ac yn atebol yn y ffordd rydym yn gweithio gyda chleifion, rhoddwyr, partneriaid a’n gilydd—gan sicrhau ein bod yn darparu’r safonau uchaf o ofal wrth ymdrechu’n barhaus i wella.

Os ydych am weithio i sefydliad sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, sy’n croesawu arloesedd ac sy’n cynnig cyfleoedd gyrfa gwerth chweil mewn lleoliad ysbrydoledig, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw’r lle i chi.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Qualifications

Meini prawf hanfodol
  • Ar Gofrestr Arbenigwyr y Cyngor Meddygol Cyffredinol fel arbenigwr mewn meddygaeth liniarol neu'n gymwys ar gyfer CCT o fewn 6 mis o ddyddiad y cyfweliad ac wedi llwyddo yn yr arholiad ymadael neu yn gallu dangos datganiad cymhwyster i gofrestru a gyhoeddwyd gan PMETB neu gyda chymhwyster meddygol sylfaenol a chymhwyster arbenigol cydnabyddedig o Aelod-wladwriaeth Ewropeaidd a fydd yn caniatáu iddo fod ar Gofrestr Arbenigwyr y Cyngor Meddygol Cyffredinol
  • CCT/cyfwerth mewn Meddygaeth Liniarol
  • MRCP (DU) neu gyfwerth
  • Profiad gwaith yn y DU ar lefel cofrestrydd arbenigol neu uwch
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster ôl-raddedig, e.e. MA, MSc, MD
  • Cymhwyster addysgu/Cymhwyster uwch mewn addysg feddygol

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o weithio'n effeithiol fel rhan o dîm amlddisgyblaethol
  • Addysgu a hyfforddi staff meddygol ôl-raddedig/israddedig
  • Tystiolaeth o gychwyn, datblygu a chwblhau archwiliad/gwella ansawdd
  • Ymrwymiad i ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a phrofiad o ymchwil
Meini prawf dymunol
  • Gweithio fel rhan o'r tîm rheoli
  • Cyswllt ag asiantaethau eraill

Skills & Abilities

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau Arwain
  • Gweithio mewn tîm
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol - yn gallu cyfathrebu'n sensitif gyda chleifion, perthnasau a staff
  • Sgil Addysgu
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth o systemau gwybodaeth a thechnoleg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveDisability confident leaderInvestors in People: GoldImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Core principlesDisability Confident Leader - Welsh

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Margred Capel
Teitl y swydd
Consultant in Palliative Medicine
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg