Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Physiotherapy
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
120-AHP152-0226
Cyflogwr
Canolfan Ganser Felindre
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Ganser Felindre
Tref
Yr Eglwys Newydd
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
19/02/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Canolfan Ganser Felindre logo

Ffisiotherapydd Oncoleg Arbenigol

Gradd 6

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;

Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.

ein gwerthoedd;

  • Gofalgar
  • Parchus
  • Atebol

ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.

Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.

Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i Ffisiotherapydd Siartredig Band 6 i ymuno â’n tîm Therapïau deinamig i weithio ar draws ein gwasanaethau cleifion mewnol yng Nghanolfan Ganser Felindre. Rydym yn chwilio am Ffisiotherapydd brwdfrydig ac arloesol, gyda sgiliau cyfathrebu hynod ddatblygedig, sgiliau trefnu a rheoli amser da, a chymwysterau a gwybodaeth ôl-raddedig priodol. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar dystysgrifau DPP mewn adsefydlu i ymgymryd â'r rôl heriol hon o gynnal asesiadau arbenigol ac ymyriadau adsefydlu i alluogi cleifion canser a gofal lliniarol i fyw'n dda gydag effaith canser.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch yn gweithio gyda thîm amlddisgyblaethol cefnogol mewn gwasanaethau canser i ddarparu dull hyblyg o ddarparu gwasanaethau, gan gyfrannu at y gwasanaethau cleifion mewnol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o dîm deinamig sy'n gwasanaethu ein huned asesu oncoleg acíwt, gofal dydd a gwasanaethau cleifion mewnol. Bydd cyfle hefyd i ddeiliad y swydd ymwneud ag ymchwil a datblygu gwasanaethau. Yn ogystal, byddwch yn ymwneud â gweithio'n hyblyg ar draws y gwasanaeth 7 diwrnod sydd yn cael ei ddarparu i'n cleifion oncoleg mewnol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.

Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth  drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.

Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.

Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Gradd mewn Ffisiotherapi
  • Wedi cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiyniau (HCPC)
  • Wedi cofrestru gyda'r Meddygol Cyffredinol
Meini prawf dymunol
  • Tytiolaeth o astudiaeth ddiweddar
  • Cymhwyster ol-gofrestru/meistr

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad mewn o leiaf 2 faes gwasanaeth ar wahan
  • Gwaith tim rhyngbroffesyniol ac amlasiantaethol
  • Ymwneud yn uniongyrchol a gofalwyr a theuluoedd i geisio eu helpu i fedru gwneud tasgau a gweithgareddau unwaith eto
Meini prawf dymunol
  • Profiad yn y mesydd canlynol Oncoleg a Gofal Lliniarol

Doniau a galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Ymarferydd annibynnol
  • Sgiliau rhesymu clinigol/datrys problemau cryf o fewn maes clinigol
  • Prosesau archwilio a methodoleg ymchwil
Meini prawf dymunol
  • Yn gallu siarad Cymraeg

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau addasol sy'n cofleidio newid a datblygiadau newydd.
  • Y gallu i ymdopi'n dda dan bwysau.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveDisability confident leaderInvestors in People: GoldImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Core principlesDisability Confident Leader - Welsh

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kate Williams
Teitl y swydd
In-patient Physiotherapy Clinical Lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
02920615888
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Cathryn Lewis

Therapies Operational Lead

[email protected]

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg