Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ymchwil a Datblygiad
- Gradd
- Band 7
- Contract
- Cyfnod Penodol: 3 blynedd (Gyfnod penodol / secondiad tan 31/03/2029)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 120-AC166-9626
- Cyflogwr
- Canolfan Ganser Felindre
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Ganser Felindre
- Tref
- Yr Eglwys Newydd
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 06/07/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Rheolwr Cymorth Busnes Uchelgeisiau Y&D Canser
Band 7
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.
ein gwerthoedd;
- Gofalgar
- Parchus
- Atebol
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.
Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.
Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
· Maer'r swydd hon am gyfnod penodol / secondiad tan 31/03/2029 oherwydd cynllid.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Bydd y Rheolwr Cymorth Busnes yn chwarae rhan allweddol yn yr adran Ymchwil a Datblygu, ac yn darparu cymorth busnes a rheolaethol lefel uchel ac o ansawdd uchel i'r Uwch Dîm Craidd Ymchwil a Datblygu i'w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau'n effeithiol.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r Uwch Dîm Craidd Ymchwil a Datblygu i ddarparu arweinyddiaeth a chyfarwyddyd mewn perthynas â darnau o waith a ddirprwyir, er mwyn helpu i wneud penderfyniadau strategol.
Byddant yn canolbwyntio ar gefnogi a rheoli'r broses cynllunio busnes yn unol â rhaglen waith ddirprwyedig.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gefnogi'r rhaglen waith a'r prosiectau sy'n gysylltiedig â gweithredu 'Uchelgeisiau Trosfwaol Ymchwil a Datblygu Canser Cyffredinol 2021-2031'. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau bod prosesau clir a systemig ar waith i gefnogi'r busnes o weithredu'r strategaeth Uchelgeisiau Ymchwil a Datblygu Canser, a'r cais ar gyfer yr Achos Busnes Integredig ar gyfer Ymchwil a Datblygu Canser (arian wedi'i sicrhau o Gronfeydd Elusennol Felindre). Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol, ac yn cefnogi ac yn cyfrannu at gyflawni amcanion busnes allweddol yn effeithiol, yn unol â’r strategaeth Uchelgeisiau Ymchwil a Datblygu Canser, y cais ar gyfer yr Achos Busnes Integredig ar gyfer Ymchwil a Datblygu Canser, a'r Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP).
Byddant yn gweithredu fel Rheolwr Prosiect ar gyfer Partneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd (CCRP) yn Ysbyty Athrofaol Cymru, fel yr argymhellwyd gan Ymddiriedolaeth Nuffield, ac yn galluogi BIP Caerdydd a’r Fro (CVUHB) a Phrifysgol Caerdydd i weithio’n fwy agos gyda’i gilydd i ddarparu Treialon Clinigol Cyfnod Cynnar, Treialon Therapïau Datblygedig, ac Ymchwil Drosi (o’r labordy i’r claf).
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Wedi'i sefydlu ym 1994, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.
Yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, ein nod ydy meithrin diwylliant o ddarganfod, cydweithredu a sicrhau gwelliant parhaus. Byddwn yn cyflawni hyn drwy ymgorffori ymchwil ac arloesedd ym mhopeth a wnawn, er mwyn cyflawni effaith ystyrlon a mesuradwy i'n cleifion a'n cymunedau.
Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.
https://velindre.nhs.wales/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gweler y Disgrifiad Swydd a'r Manyleb Person cysylltiedig os gwelwch yn dda.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel gradd a Diploma Ôl-raddedig neu brofiad cyfatebol
- Hyfforddiant Prince 2 (ffurfiol neu anffurfiol, neu yn barod i weithio tuag ato)
- Gwybodaeth am ymchwil a datblygu ym maes canser.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o strategaethau a pholisïau Ymchwil y DU
- Tystiolaeth o ddatblygiad pellach – addysg/hyfforddiant
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Meini prawf dymunol
- Yn barod i gwblhau MSc
- Rheoli Newid
- Profiad o fonitro dangosyddion perfformiad.
- Dealltwriaeth o fethodolegau rheoli prosiectau.
- Profiad o weithio i’r GIG
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Hanes da o ddatblygu cynlluniau strategol ac o reoli a chyflwyno Rhaglenni a Phrosiectau graddfa fawr yn llwyddiannus.
- Profiad o reoli prosiectau strategol cymhleth gyda nifer o ffrydiau gwaith a gweithgareddau cysylltiedig.
- Profiad eang a thystiolaeth o weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ar bob lefel i gyflawni newid a moderneiddio
- Profiad o ysgrifennu adroddiadau ar lefel y Bwrdd.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd cymhleth dan bwysau gyda gofynion amser sy'n gwrthdaro.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd rheoli prosiect.
- Sgiliau dadansoddol i driongli data perfformiad ymchwil sy'n ymwneud â gweithredu strategaeth
- Meddyliwr cysyniadol, sydd yn gallu cymharu ystod o opsiynau yn seiliedig ar sefyllfaoedd a/neu wybodaeth gymhleth
- Sgiliau trefnu rhagorol
- Gwybodaeth dda am sgiliau cyfrifiadurol, a chyfres Microsoft Office, gyda’r gallu i feistroli cymwysiadau newydd
- Gwybodaeth o dechnegau ar gyfer cynllunio, monitro a rheoli prosiectau, e.e. PRINCE2
- Dealltwriaeth o gyllidebu a gweithdrefnau dyrannu adnoddau.
- Cyflwyno methodolegau rheoli prosiect ac arferion gorau cysylltiedig yn llwyddiannus i dimau ac unigolion dibrofiad.
- Rheoli adnoddau yn effeithiol
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio ym maes gofal iechyd a/neu leoliad ymchwil
- Profiad o weithio mewn lleoliad gofal iechyd canser
- Gwybodaeth am y broses gaffael, gan gynnwys negodi contractau
- Profiad llwyddiannus o reoli newid.
- Profiad o gyfathrebu ac ymgysylltu gyda grwpiau amrywiol o randdeiliaid.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Meddyliwr strategol sydd â'r gallu i gael trosolwg corfforaethol.
- Y gallu i gydbwyso rheolaeth strategol a gweithredol.
- Sgiliau cyfathrebu, rhyngbersonol, negodi, dylanwadu a rheoli gwrthdaro rhagorol.
- Gweithiwr tîm profedig gyda'r gallu i gymell ac ysbrydoli eraill.
- Yn dangos ystod eang o rinweddau, sgiliau ac ymddygiadau rheolaethol.
- Sgiliau hwyluso arbenigol
- Sgiliau cyflwyno gwych
- Gweithio ar draws ffiniau, chwilio am lwyddiant ar y cyd, gwrando, cynnwys, parchu a dysgu ar sail cyfraniad pobl eraill.
- Dull proffesiynol digynnwrf ac effeithlon.
- Yn dangos safonau uchel o onestrwydd personol.
- Trefnydd, dylanwadwr a rhwydweithiwr effeithiol.
- Cyflwyno Ansawdd mewn amgylchedd prosiect
- Sgiliau rheoli tîm amlwg
- Yn gallu gweithio mewn tîm, gweithio o fewn terfynau amser ac ar eich liwt eich hun
- Hanes o ddatrys problemau mewn amgylchedd rheoli prosiectau
- Sgiliau bysellfwrdd uwch a bod yn dechnegol gymwys o ran defnyddio rhaglenni meddalwedd amrywiol (e.e. Microsoft Word, Excel, PowerPoint, Outlook, Project, Visio)
- Sgiliau drafftio adroddiadau da a chofnodi ar Action Point
- Diplomyddiaeth a'r gallu i ddelio â sefyllfaoedd anodd.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd mewn nifer o wahanol ffyrdd.
Meini prawf dymunol
- Y gallu i gynhyrchu achosion busnes
Arall
Meini prawf hanfodol
- Ymagwedd hyderus ragweithiol a sgiliau rhyngbersonol rhagorol
- Yn gallu datblygu a chynnal perthnasau gweithio effeithiol gyda thimau proffesiynol gwahanol
- Gwydnwch emosiynol i ymateb yn gadarnhaol mewn amgylchiadau heriol.
- Bod yn gadarn, a dangos penderfyniad, brwdfrydedd a stamina i gyflawni nodau a chwblhau pethau.
- Yn barod i weithio y tu allan i oriau gwaith o bryd i’w gilydd.
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1) neu yn barod i weithio tuag at hynny
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rhydian Owen
- Teitl y swydd
- Cancer R&D Strategy Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Canolfan Ganser Felindre yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector






.png)