Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Finance
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 120-AC818-1026
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Ganser Felindre
- Tref
- Yr Eglwys Newydd
- Cyflog
- £32,557 - £39,631 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 03/11/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Uwch Bartner Busnes Cyllid Ymchwil, Datblygu ac Arloesi
Gradd 7
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.
ein gwerthoedd;
- Gofalgar
- Parchus
- Atebol
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.
Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre le arbennig ym maes gofal iechyd yng Nghymru. Mae’n sefydliad anhygoel i weithio ynddo ac i ddatblygu eich gyrfa hefyd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnwys dwy adran, sef Canolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) a Thechnoleg Iechyd Cymru (HTW) yn disgyn dan adain yr Ymddiriedolaeth hefyd, ar ran Llywodraeth Cymru a GIG Cymru.
Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddion a chefnogaeth i staff.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o drafod y cyfle hwn gyda chi.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae’r Swyddog Busnes Cyllid yn weithiwr cyllid proffesiynol yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Byddant yn gyfrifol am gefnogi'r Uwch Bartner Busnes Cyllid a'r Dirprwy Bennaeth Partneru Busnes Cyllid i reoli'r Swyddogaeth Partneru Busnes ar gyfer Datblygu Ymchwil ac Arloesi o fewn Gwasanaethau Canser Felindre.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd elfennau allweddol y swydd hon yn cynnwys cefnogi’r gwaith o gynhyrchu adroddiadau misol cywir i ddeiliaid cyllideb, rhagolygon alldro blynyddol, gwaith costio ad hoc a chefnogi a chynghori deiliaid cyllidebau ar bob mater ariannol gan gynnwys ymchwilio i ymholiadau ariannol.
Bydd yn rhaid i’r deiliad swydd ddarparu cymorth ar gyfer rolau eraill o fewn y tîm cyllid ar draws yr Ymddiriedolaeth gyfan hefyd, yn ôl yr angen.
Gweithio i'n sefydliad
Yn Ymddiriedolaeth Prifysgol Felindre, rydym yn falch o ddarparu gwasanaethau arbenigol ledled Cymru drwy Ganolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru, gyda chefnogaeth ein timau corfforaethol a'n partneriaethau â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac Iechyd Technoleg Cymru.
Wrth edrych tua’r dyfodol, rydym yn paratoi ar gyfer agor Ganolfan Ganser Felindre newydd (nVCC) yng Ngwanwyn 2027—carreg filltir gyffrous a fydd yn trawsnewid gofal canser i’n poblogaeth. Wedi’i lleoli o fewn cyrraedd hawdd i ddinas fywiog Caerdydd a harddwch trawiadol Bannau Brycheiniog, rydym yn cynnig amgylchedd gwaith unigryw sy’n cyfuno arloesedd, cydweithio ac ansawdd bywyd rhagorol.
Ers ein sefydlu ym 1994, mae ein gweithlu ymroddedig wedi parhau’n ffyddlon i gyflawni egwyddorion gofal doeth ar draws ystod eang o rolau. Rydym yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i wella’r gwasanaethau a ddarparwn ymhellach.
Mae popeth rydym yn ei wneud wedi’i seilio ar werthoedd ein Hymddiriedolaeth. Rydym yn ofalgar, yn barchus ac yn atebol yn y ffordd rydym yn gweithio gyda chleifion, rhoddwyr, partneriaid a’n gilydd—gan sicrhau ein bod yn darparu’r safonau uchaf o ofal wrth ymdrechu’n barhaus i wella.
Os ydych am weithio i sefydliad sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, sy’n croesawu arloesedd ac sy’n cynnig cyfleoedd gyrfa gwerth chweil mewn lleoliad ysbrydoledig, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw’r lle i chi.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gallwch ddod o hyd i Swydd-ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch ar “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus o fewn amgylchedd y GIG.
- Dealltwriaeth glir o drefn gyfrifo ac adrodd y GIG a rheoli cyllid.
- Dealltwriaeth a gwybodaeth am dechnegau gwerthuso buddsoddiadau.
- Profiad o weithio ar lefel uwch o fewn cyllid y GIG neu sefydliad cymhleth tebyg.
- Profiad o drafod, drafftio ac argymell cytundebau gyda sefydliadau allanol.
- Gallu blaenoriaethu, cynllunio a threfnu gwaith i chi'ch hun ac i’r tîm.
- Gallu cyflwyno'n hyderus i gynulleidfaoedd mawr a bach; gallu cyflwyno ac esbonio gwybodaeth ariannol hynod gymhleth mewn modd y gall rheolwyr nad ydynt yn ymwneud â chyllid ei deall.
- Meddu ar sgiliau dadansoddi cadarn gyda'r gallu i ddatrys problemau ariannol hynod gymhleth a all fod angen technegau cymharu neu werthuso opsiynau.
- Trefnus iawn ac yn gallu gweithio'n dda ac yn systematig dan bwysau wrth gynnal safonau da o ran cyfathrebu a gwaith.
- Gallu blaenoriaethu a chynhyrchu gwaith cywir yn gyson, a hynny o dan bwysau ac o fewn amserlenni caeth.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth gyfreithiol o faterion cytundebol ac eiddo deallusol.
- Dealltwriaeth fanwl o reolaethau ariannol Ymddiriedolaeth.
- Rheoli cyllidebau incwm a gwariant cymhleth mawr Profiad o ddatblygu achosion busnes a rheoli buddion
- Gallu siarad Cymraeg - Siaradwr Cymraeg (Lefel 1) neu barodrwydd i weithio tuag ato
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus o fewn amgylchedd y GIG.
- Dealltwriaeth glir o drefn gyfrifo ac adrodd y GIG a rheoli cyllid.
- Dealltwriaeth a gwybodaeth am dechnegau gwerthuso buddsoddiadau.
- Profiad o weithio ar lefel uwch o fewn cyllid y GIG neu sefydliad cymhleth tebyg.
- Recriwtio, rheoli, goruchwylio, gosod llwyth gwaith, gwerthuso a datblygu staff.
- Profiad o drafod, drafftio ac argymell cytundebau gyda sefydliadau allanol.
- Meddu ar feddylfryd gwelliant parhaus gyda'r gallu i adolygu a phennu meysydd gwaith a fyddai'n elwa ar welliant.
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth fanwl o reolaethau ariannol Ymddiriedolaeth.
- Rheoli cyllidebau incwm a gwariant cymhleth mawr Profiad o ddatblygu achosion busnes a rheoli buddion
- Experience of working with research teams/environment
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Darcey Ramsden
- Teitl y swydd
- RD&I Senior Finance Business Partner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





.png)