Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapi
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- 12 mis (Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad tan 01/12/2027. I gwmpasu absenoldeb mamolaeth)
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS256-1126
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Gofal Integredig Aberaeron
- Tref
- Aberaeron
- Cyflog
- £26,813 - £27,890 Y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 26/11/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 08/12/2026
Teitl cyflogwr
Gweithiwr Cymorth Ffisiotherapi
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad tan 01/12/2027 I gwmpasu absenoldeb mamolaeth
Os ydych yn yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) yn bwriadu recriwtio unigolyn brwdfrydig i ymuno â’n tîm ffisiotherapi cymunedol sy’n gweithio yng Ngheredigion.
Bydd y swydd yn golygu gweithio ochr yn ochr â Ffisiotherapyddion ac ymgymryd â thasgau dirprwyedig i gyflwyno rhaglenni ffisiotherapi gyda chleifion yn eu cartrefi eu hunain. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant sydd â’r gallu i gymell cleifion ac ymgysylltu â nhw, cydweithio â thimau amlddisgyblaethol i ddarparu
gofal holistaidd, yn ogystal â darparu cymorth gweinyddol i’r gwasanaeth.
Rydym yn wasanaeth sy’n esblygu, ac rydym yn bwriadu recriwtio pobl sy’n rhannu ein gwerthoedd craidd yn BIPHDd ac sy’n meddu ar ddiddordeb a sgiliau ym maes adsefydlu.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn y gwasanaeth ffisiotherapi sy’n ymgymryd â rhaglenni asesu a thrin ar gyfer cleifion yn y gymuned. Bydd yn gweithio gyda’r tîm, ac ar ei ben ei hun dan arweiniad a chyfarwyddyd y staff cymwysedig. Bydd yn cynorthwyo gyda dyletswyddau clinigol a
thasgau gweinyddol penodol, gan ddarparu gwasanaeth effeithlon, gofalgar sy’n canolbwyntio ar y claf. Gall y lleoliad fod yn hyblyg rhwng safleoedd yng Ngheredigion.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu dull hyblyg o gyflawni gwasanaeth saith niwrnod, yn seiliedig ar angen y gwasanaeth.
Mae oriau llawn amser neu rhan amser amrywiol ar gael.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 08/12/2026.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Rhifedd a llythrennedd hyd at o leiaf lefel TGAU neu gymhwyster cyfatebol
- NVQ 3 a/neu ddysgu lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol
- Profiad a gwybodaeth ymarferol a ddatblygwyd trwy gyrsiau byr hyfforddiant mewnol
Meini prawf dymunol
- ECDL
- Cymhwyster proffesiynol, technegol neu academaidd sy’n berthnasol i ymarfer clinigol ac sy’n amlygu tystiolaeth o 60 credyd dysgu lefel 3
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o wasanaeth ffisiotherapi neu mewn maes gofal iechyd cysylltiedig
- Sgiliau TG/bysellfwrdd
- Profiad o weithio ar eich pen eich hun ac yn rhan o dîm
- Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant perthna
Meini prawf dymunol
- Profiad clinigol ychwanegol neu brofiad ychwanegol ym maes gofal iechyd
- Profiad o weithio gyda grwpiau o gleifion
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mari Davies
- Teitl y swydd
- Operational Team Lead Physiotherapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07866928954
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector





