Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Acíwt
Gradd
Gradd 8a
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Rhannu swydd
37.5 awr yr wythnos (Gwaith y tu allan i oriau. Swydd llawn amser yw hon ond ystyrir rhannu swyddi.)
Cyfeirnod y swydd
100-NMR218-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£56,514 - £63,623 y flwyddyn (pro rata os yn rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
05/08/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
15/08/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ymarferydd Nyrsio Clinigol/ Rheolwr Safle

Gradd 8a

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

A ydych yn Nyrs Glinigol brofiadol sydd am wella eich sgiliau a gwybodaeth? 

Mae gennym y cyfle perffaith i Ymarferydd Nyrsio Clinigol/Arweinydd Safle ymuno â thîm sefydledig. 

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reolaeth weithredol a chydgysylltiad clinigol y safle y tu allan i oriau, gyda chymorth y Rheolwr Safle ar alwad. 

Byddwch yn darparu arweinyddiaeth, cefnogaeth glinigol a chyngor, gan ddefnyddio sgiliau clinigol gwell i gefnogi timau meddygol a nyrsio, gan gydweithio'n agos â'r Uwch Reolwyr Nyrsio a Phennaeth Nyrsio'r Ysbyty.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am gydgysylltu gofal clinigol ar safle'r ysbyty acíwt y tu allan i oriau. Darperir cyngor gan yr uwch-reolwyr yn ystod oriau gweithio, a hynny trwy'r Uwch-reolwyr Nyrsio/tîm Rheolaeth Acíwt, a thrwy rota uwch-reolwyr ar alwad y tu allan i oriau. Yn ystod y cyfnod y tu allan i oriau, bydd hefyd yn gyfrifol am arwain y safle gyda chymorth y rheolwr ar alwad. 

Disgwylir i ddeiliad y swydd arfer gradd uchel o ymreolaeth broffesiynol bersonol a gwneud dyfarniadau beirniadol i fodloni disgwyliadau a gofynion y rôl a chymryd rhan yn y rota ar alwad.

Mae deiliad y swydd yn gyfrifol ac yn atebol ledled safle'r ysbyty acíwt, i wneud y gorau o ofal cleifion, diogelwch cleifion ac effeithlonrwydd gweithredol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadu ar 15/8/25

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd  
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Gofrestredig (Rhan 1)
  • Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Tystiolaeth o astudio ar lefel gradd Meistr neu brofiad cyfatebol ynghyd a pharodrwydd i gwblhau MSc Ymarfer Clinigol Uwch (Ymarferydd Nyrsio) neu raglen gyfatebol
  • ALS a PLS/eu cwblhau yn unol ag amserlen y cytunir arni
  • Gwybodaeth am faterion diogelu: POVA, Galluedd Meddyliol, DoLS, Eiriolaeth; Amddiffyn Plant
  • Gwybodaeth am gyfyngu cleifion dan y Ddeddf Iechyd Meddwl
  • Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch a Rheoli Risgiau
  • Gwybodaeth am gynllun Gwneud Iawn y GIG a 'Bod yn Agored’
  • Gwybodaeth am Godau Ymarfer y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Cynnal eich datblygiad personol a sefydliadol
  • BSc (Nyrsio)
Meini prawf dymunol
  • MSc/PGDip Ymarfer Clinigol Uwch (Ymarferydd Nyrsio) neu gymhwyster cyfatebol
  • Yn Nyrs-bresgripsiynydd annibynnol cofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Gwybodaeth arbenigol am reoli llif cleifion/reoli gwelyau
  • Gwybodaeth am gynnal bywyd trawma datblygedig (ATNC/TNCC)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad perthnasol o nyrsio aciwt mewn lleoliad aciwt, a hynny mewn rol uwch
  • Profiad o wneud penderfyniadau cymhleth
  • Profiad o arwain a rheoli
  • Profiad lle bu angen rhywfaint o waith ymreolaethol
  • Profiad o weithio amlbroffesiynol
  • Cymhwysedd amlwg/ datblygol mewn sgiliau asesu clinigol uwch, a'r gallu i gynnal ymyriadau clinigol uwch, e.e. ALS, gosod canwlau mewnwythiennol, rhoi cyffuriau mewnwythiennol, fflebotomi, dadansoddi canlyniadau gwaed, gwirio marwolaethau disgwyliedig, cathetreiddio dynion, ABG, defnyddio PGD lle bo'n briodol
  • Y gallu i ddirprwyo a blaenoriaethu gwaith
  • Y gallu i ddadansoddi gwaith ymchwil mewn modd beirniadol a'i gymhwyso i ymarfer y sefydliad
  • Tystiolaeth o'ch diddordeb a'ch cyfraniad personol at ddatblygu ymarfer clinigol
  • Sgiliau mentora/goruchwylio clinigol
  • Sgiliau rhyngbersonol ardderchog
  • Sgiliau pendantrwydd
  • Sgiliau addysgu ac asesu
  • Y gallu i ymateb i newid a'i arwain
  • Sgiliau arwain a rheoli newid
  • Y gallu i ddarparu cyngor arbenigol yn y tîm amlddisgyblaethol
  • Y gallu i ddadansoddi canfyddiadau ymchwil mewn modd beirniadol, a'u cymhwyso i ymarfer
Meini prawf dymunol
  • Profiad rheolaeth Adnoddau Dynol
  • Sgiliau asesu corfforol a chymryd hanes, gwneud diagnosis gallu, neu gyfeirio'n annibynnol
  • Sgiliau TG
  • Sgiliau Archwylio Clinigol
  • Ymwybyddiaeth o Lywodraethu Clinigol
  • Ymwybyddiaeth o faterion cyfoes ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dawn Jones
Teitl y swydd
Hospital Head of Nursing
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970 635846
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg