Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth
- Gradd
- Band 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (Dyddiau i gael eu cytuno)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC260-0925
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 15/09/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 22/09/2025
Teitl cyflogwr

Swyddog Gweinyddol
Band 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae gennym gyfle cyffrous i Swyddog Gweinyddol ymuno â'r Tîm Gwasanaethau Diabetes yn Ysbyty Bronglais. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cymorth ysgrifenyddol a gweinyddol cynhwysfawr o safon uchel i'r tîm Nyrsio Diabetes Arbenigol.
Bydd deiliad y swydd yn amlygu dealltwriaeth gadarn o drefniadau gweithio y Gwasanaeth Nyrsys Diabetes Arbenigol lleol a bydd yn gallu cyfrannu at flaengynllunio a systemau gwaith effeithiol yn y gwasanaeth.
Bwrw ati i gefnogi'r broses o ddatrys problemau lleol, gan uwchgyfeirio pryderon at yr arweinydd yn ôl yr angen. Bydd yn ymgymryd â phob dyletswydd i safon uchel ac yn chwilio am gyfleoedd i wella effeithlonrwydd.
Yn gyfrifol am drefnu, monitro a chamau gweithredu sy'n ymwneud â chlinigau Nyrsio Diabetes Arbenigol yn yr Ysbyty, byddwch yn delio â chyfathrebiadau i'r gwasanaeth ac amdano, a hynny dros y ffôn, yn ysgrifenedig a thrwy e-bost. Bydd deiliad y swydd yn delio â materion cyfathrebu mewn modd priodol, yn unol â gweithdrefnau lleol ac ar y cyd
â staff priodol. Bydd y dyletswyddau eraill yn cynnwys:
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Sicrhau y cyflawnir rôl ysgrifenyddol lawn a chynhwysfawr yn swyddfa'r nyrsys arbenigol diabetes lleol, gan gynnwys rheoli clinigau arferol (yn cynnwys y system ar gyfer galw'n ôl), teipio – yn cynnwys llythyrau clinigol gan ddefnyddio clyweipio, gwahoddiadau i apwyntiadau, gofyn am nodiadau achosion meddygol a'u dychwelyd, cynnal systemau ffeilio a thaenlenni electronig.
- Cynllunio clinigau, archebu ystafelloedd ar system Bookwise, nodi a datrys mân broblemau ac uwchgyfeirio pryderon neu broblemau mwy difrifol yn ôl yr angen.
- Cynyddu presenoldeb yn y clinig hyd yr eithaf trwy atgoffa cleifion am
apwyntiadau sydd ar ddod a llenwi slotiau apwyntiadau sydd wedi dod ar
gael/wedi'u rhyddhau oherwydd canslo apwyntiadau, os yn bosibl. - Archebu cyflenwadau ar gyfer y Swyddfa Diabetes, caffael cyflenwadau ar gyfer cleifion sy'n defnyddio pympiau inswlin ar system ORACLE, cynnal cofnod o rifau archebion prynu a dyddiadau dod i ben i sicrhau bod system archebu effeithiol a diogel ar waith.
- Cynnal cofnod electronig o weithgarwch clinigol Nyrsio Diabetes Arbenigol a'i fewnbynnu i raglen electronig y cytunwyd arni.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 22.09.2025
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 (e.e. Safon Uwch, Safon UG, NVQ3) neu brofiad amlwg cyfatebol o sgiliau a gwybodaeth gweinyddol/swyddfa
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
- Yn gyfarwydd â phecynnau TG Microsoft, yn enwedig Word, Excel a PowerPoint, ac yn gymwys i'w defnyddio
- Yn gyfarwydd â defnyddio system e-bost a chwilio'r Rhyngrwyd, ac yn hyderus wrth wneud hynny
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn tîm amlddisgyblaethol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lona Phillips
- Teitl y swydd
- CNS diabetic service
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01970623131
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector