Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Audioleg
- Gradd
- Band 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-HS014-0625
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 22/06/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 01/07/2025
Teitl cyflogwr

Ymarferydd Awdioleg Arbenigol
Band 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi dod ar gael i Ymarferydd Awdioleg Arbenigol Band 6 llawn-amser ymuno â Gwasanaeth Awdioleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Byddai hwn yn gyfle delfrydol i Awdiolegydd Band 5 profiadol sy'n awyddus i gamu ymlaen yn ei yrfa. Mae hon yn swydd sy'n cwmpasu'r Bwrdd Iechyd cyfan, ond bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i leoli'n bennaf yn Sir Gaerfyrddin. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar Awdioleg ddiagnostig ac adsefydlu oedolion a phediatrig.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd sy'n rhannu ein gwerthoedd a'n hymrwymiad i sicrhau ansawdd ein gwasanaethau. Rydym yn annog ymgysylltiad agored wrth gynllunio a darparu gwasanaethau, ac yn chwilio am unigolyn sy'n awyddus i rannu gwybodaeth a syniadau mewn fforwm agored a chyfeillgar. Caiff y staff eu cefnogi'n llawn trwy'r broses werthuso, lle nodir a thrafodir dyheadau ac anghenion hyfforddi.
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad anffurfiol, cysylltwch â Jane Deans, y Pennaeth Awdioleg, ar 01267-227449 neu anfonwch neges e-bost at: [email protected].
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr Ymarferydd Arbenigol mewn Awdioleg yn darparu asesiadau a gofal adsefydlu arbenigol oedolion a phediatrig yn y gwasanaethau Awdioleg Glinigol. Bydd hyn yn cynnwys arwain y broses o gynllunio a darparu gofal unigol yn rôl Ymarferydd Annibynnol.
Yn ogystal, bydd yr Ymarferydd Arbenigol yn arwain meysydd penodol o weithgarwch gwyddonol fel y'u pennir gan gyd-weithwyr uwch. Bydd hyn yn cynnwys cyfrannu at weithgarwch datblygu gwasanaethau, archwilio, ymchwil a darparu gweithgarwch datblygiad proffesiynol parhaus
mewnol a gwaith rhyngasiantaethol.
Bydd yr ymarferydd arbenigol yn cyfrannu at hyfforddi a goruchwylio cyd-weithwyr a hyfforddeion iau.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n tri awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
Pum ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion). Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 01.07.25
Manyleb y person
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (lefel 1)
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- BSc. Awdioleg ynghyd â chymhwyster clinigol Awdiolegol israddedig a gydnabyddir gan Academi Awdioleg Prydain neu brofiad cyfatebol
- Dealltwriaeth a chymhwysedd o ran gweithgareddau ymarferwyr awdioleg arbenigol, a gafwyd trwy hyfforddiant ôl-raddedig penodol i awdioleg neu lefel gyfatebol o wybodaeth (e.e. Cymhwyster clinigol Awdiolegol ôl-raddedig a gydnabyddir gan Academi Awdioleg Prydain (e.e. CAC neu fodiwlau HTS neu STP perthnasol)
- Cofrestriad Awdiolegydd gyda'r Cyngor Cofrestru Ffisiolegwyr Clinigol (RCCP) neu'n Wyddonydd Clinigol Cofrestredig/yn Gweithio tuag at Gofrestriad Gwyddonydd Clinigol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
Meini prawf dymunol
- MSc. Awdioleg
- Modiwlau lefel M mewn Awdioleg neu gyfwerth
- Cymhwyster Clinigol Awdiolegol ôl lefel M
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad diweddar o asesu anghenion cyfathrebu, gan gynnwys statws clyw
- Profiad diweddar o osod cymhorthion clyw cymhleth oedolion, a'u gwirio
- Profiad diweddar mewn perthynas â rheoli tinitws
- Profiad o gynnal asesiadau awdioleg pediatrig gyda phlant oedran ysgol
- Profiad o gynorthwyo gyda gweithdrefnau profion festibwlar sain
- Profiad o gymryd rhan mewn archwilio clinigol a datblygu gwasanaethau
Meini prawf dymunol
- Profiad o oruchwylio neu reoli llinell
- Arwain tîm
- Rhoi newid ar waith
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jane Deans
- Teitl y swydd
- Head of Audiology
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227449
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector