Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Awdioleg
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (draws 5 diwrnod)
Cyfeirnod y swydd
100-AC208-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
06/08/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
13/08/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Cydlynydd Awdioleg

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Byddai'r swydd hon yn gyfle delfrydol i rywun sy'n chwilio am rôl yn adran cleifion allanol Ysbyty Bronglais, Aberystwyth. 

Byddwch yn gyfrifol am redeg yr adran Awdioleg o ddydd i ddydd, gan gynnwys safleoedd allgymorth. Byddwch wedi eich lleoli yn yr adran Awdioleg, a bydd gofyn i chi helpu a chefnogi ein cleifion trwy ateb galwadau ffôn, trefnu apwyntiadau i gleifion gydag Awdiolegydd, a rhoi batris ar gyfer cymhorthion clyw a deunyddiau traul. Byddwch hefyd yn gyfrifol am archebu clinigau Awdioleg i oedolion, yn ogystal ag ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau clercol cyffredinol i sicrhau bod yr adran Awdioleg yn rhedeg yn hwylus. Yn ychwanegol, disgwylir i chi gefnogi'r Rheolwr Awdioleg a'r Rheolwr Swyddfa i gyflawni dangosyddion perfformiad allweddol a datblygiadau i wasanaethau.

Mae'n hanfodol bod gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol a phrofiad blaenorol o ddyletswyddau gweinyddol a/neu glercol. Bydd angen i chi allu gweithio mewn ffordd bwyllog, resymegol a methodolegol ond hefyd wneud sawl peth ar yr un pryd ag ymdopi ag ymyriadau'n aml. Byddai profiad o weithio mewn lleoliad gofal iechyd yn fantais.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Datblygu a chynnal gwasanaeth gweinyddu clinigau effeithiol, cyfeillgar a phroffesiynol ar gyfer cleifion a staff, gan sicrhau bod clinigau'n cael eu gweinyddu'n unol â'r arferion gorau o ran lefelau staffio priodol a defnydd effeithlon o adnoddau.

Darparu gwasanaeth cymorth gweinyddol a chymorth wrth y dderbynfa, gan gynnwys ateb y ffôn, cyfarch cwsmeriaid a delio â phost sy'n cyrraedd ac sy'n cael ei anfon. Gan weithio'n agos gyda'r tîm Awdioleg mwy, mynd ati'n barhaus i wella'r gwaith o ddarparu'r gwasanaeth.

Byddwch yn gyfrifol am redeg yr adran Awdioleg o ddydd i ddydd, adran sy'n cynnwys safle allgymorth, ac am gefnogi'r Rheolwr Awdioleg a'r Rheolwr Swyddfa i gyflawni dangosyddion perfformiad allweddol a datblygiadau i'r gwasanaeth.

Byddwch yn eiriolwr dros brofiad y claf yn yr adran Awdioleg, lle byddwch yn darparu gwasanaeth o’r safon uchaf ac yn rhoi’r claf wrth galon popeth a wneir.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar 13/08/2025.

 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Safon dda o addysg gyffredinol
  • Sgiliau rhifedd a llythrennedd
  • Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig effeithiol
  • Y gallu i weithio dan oruchwyliaeth, ac yn hyderus i ofyn am gyngor pan fo hynny'n briodol
  • Cywirdeb da a'r gallu i roi sylw i fanylion
  • Yn llawn cymhelliant, yn rhagweithiol ac yn arloesol
  • Yn gallu gweithio i derfynau amser
  • Sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol, h.y. yn gallu defnyddio e-bost a'r rhyngrwyd i anfon ac adalw gwybodaeth
  • Cymhwyster i NVQ Lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol, neu brofiad mewn rôl deby
Meini prawf dymunol
  • NVQ Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes
  • Tystiolaeth o'r gallu i gyflawni tasgau'n effeithiol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o becynnau TG megis Word, Excel ac Outlook
  • Profiad o waith swyddfa/gweinyddol
  • Yn amlygu dealltwriaeth o ofal cwsmeriaid wrth gysylltu â’r cyhoedd dros y ffôn, yn electronig a/neu wyneb yn wyneb
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ac yn sensitif
  • Gweithio mewn tîm tuag at nod cyffredin
  • Tystiolaeth o brofiad gweinyddol sylweddol mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer
  • Profiad a dealltwriaeth o wasanaethau cleifion allanol a dangosyddion perfformiad
  • Profiad o weithredu polisïau a chanllawiau'r GIG sy'n berthnasol i wasanaethau cleifion allanol
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad gofal iechyd sy'n arbenigo mewn gwneud apwyntiadau gofal iechyd
  • Profiad blaenorol o weithio yn rôl Gweinyddwr/Derbynnydd Awdioleg
  • Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant ar gyfer systemau TG penodol i'r GIG (e.e. olrhain nodiadau achos a system rheoli cleifion AuditBase)
  • Profiad sicr o ddatblygu prosesau gweinyddol, o ddadansoddi gwybodaeth ac o ysgrifennu adroddiadau

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jane Deans
Teitl y swydd
Head of Audiology
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227449
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Rhian Jenkins (Rheolwr Swyddfa ar gyfer Awdioleg) on 01554 783580 neu ebost: [email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg