Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cardioleg
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR180-0625
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/06/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 14/07/2025
Teitl cyflogwr

Ymarferydd Cardioleg Arbenigol
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Bydd eich rôl yn cynnwys:
- Sefydlu a darparu clinigau dan arweiniad annibynnol, yn cynnwys clinigau wyneb yn wyneb a rhithwir. Lle bo hynny'n ofynnol ar gyfer y rôl hon, defnyddio sgiliau asesu uwch a allai gynnwys cymwyseddau a sgiliau asesu a diagnosio clinigol
- Bod yn arweinydd ymarfer, sy'n rheoli ei lwyth gwaith ei hun ac yn gweithio ar draws ffiniau proffesiynol, sefydliadol, asiantaethau a systemau i wella gwasanaethau a datblygu ymarfer seiliedig ar dystiolaeth
- Gwella'r broses o reoli cleifion trwy wneud y gorau o ymchwiliadau a thriniaethau, a all gynnwys cychwyn, titradu a/neu bresgripsiynu meddyginiaethau a therapïau, gan weithio'n unol â chanllawiau a rheoliadau cyfredol y Bwrdd Iechyd a phroffesiynau penodol
- Defnyddio sgiliau cyfathrebu uwch i gynghori staff, cleifion, perthnasau ac aelodau o'r cyhoedd ynghylch hybu iechyd mewn perthynas â chlefyd cardiaidd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd gofyn i chi:
- Mynd ati'n annibynnol i gyflawni llwyth achosion o gleifion ag anghenion cymhleth iawn, gan ddefnyddio egwyddorion seiliedig ar dystiolaeth sy’n canolbwyntio ar y cleient i ddadansoddi'n feirniadol, asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso ymyriadau. Bydd hyn yn cynnwys addysg, hybu iechyd, a chymorth yn achos pob agwedd ar gynllun trin a rheoli y claf.
- Cydweithredu ag aelodau eraill o'r tîm amlddisgyblaethol ledled llwybrau a lleoliadau gofal gwahanol i sicrhau bod anghenion gofal iechyd cleifion yn cael eu diwallu. Bydd hyn yn cynnwys gwerthuso'r gwasanaeth presennol yn barhaus a myfyrio ar eich ymarfer eich hun.
- Bod yn adnodd arbenigol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ledled nifer o leoliadau, monitro a chefnogi gwasanaethau, a chymryd rhan yn y broses o lunio llwybrau, ymchwil addysg ac archwilio, gan hefyd fynd ati'n barhaus i feithrin a diweddaru'r wybodaeth a'r sgiliau tra arbenigol sy'n ofynnol ar gyfer y rôl.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 14/07/2025.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gweithiwr Proffesiynol neu Nyrs neu'n meddu ar dystiolaeth o gofrestriad perthnasol
- Cwrs cardiaidd ôl-raddedig perthnasol ar lefel 7 neu gymhwyster cyfatebol
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Gwybodaeth a dealltwriaeth mewn perthynas â chanllawiau clinigol allweddol, e.e. NICE, a'r modd y bydd y rhain yn dylanwadu ar ymarfer clinigol
- Yn gallu amlygu profiad a sgiliau cyfatebol ar lefel uwch
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu cydnabyddedig
- Modiwl asesu clinigol a diagnostig neu barodrwydd i ymgymryd â hynny yn unol â gofynion y rôl
- Cymhwyster arweinyddiaeth
- Cymhwyster Gwella Ansawdd
- Cymhwyster cwnsela
- Presgripsiynu Anfeddygol (v300) neu ymrwymiad i gwblhau'r cymhwyster fel rhan o'r rol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gofrestru helaeth sy'n cynnwys gweithio mewn un neu ragor o lwybrau cardiaidd
- Profiad o gynnal clinigau dan arweiniad nyrsys
- Profiad o gynnal sesiynau addysg cleifion
- Sgiliau cyflwyno
- Ysgrifennu adroddiadau
- Profiad o gynnal ymchwil neu archwiliad
- Profiad arweinyddiaeth a rheolaeth
- Multi-disciplinary working experience
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn gofal aciwt
- Profiadau blaenorol o weithio mewn rôl arbenigol
- Profiadau blaenorol yn y prosiectau newid gwasanaeth
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dawn Jones
- Teitl y swydd
- Head of Nursing
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01970 635846
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector