Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cardioleg
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
  • Rhan-amser
  • Gweithio gartref neu o bell
15 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC329-1125
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£24,833 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
03/12/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
11/12/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Cynorthwyydd Gweinyddol yn yr Adran Gardioleg

Gradd 2

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â'r Tîm Cardiaidd yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais. Gwahoddir ceisiadau gan unigolion effeithlon sy'n meddu ar y cymwysterau addas ar gyfer swydd Cynorthwyydd Gweinyddol rhan-amser, a hynny ar drefniant parhaol yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Ceredigion.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn darparu ystod o ddyletswyddau gweinyddol, a fydd yn cynnwys cyflawni dyletswyddau teipio, prosesu geiriau, h.y. llythyrau a theipio cyffredinol, gan gynnwys ffeilio gohebiaeth glinigol ac anghlinigol. Bydd y dyletswyddau hefyd yn cynnwys sganio, llungopïo ac archebu cyflenwadau swyddfa. Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth gweinyddol o ran cadw cronfeydd data yn gyfredol a darparu gwybodaeth 
at ddibenion adrodd yn ôl y gofyn, ac o ran archebu a chwblhau clinigau. Bydd yna hefyd rywfaint o wasanaethau ffôn mewn perthynas â'r cleifion. 

Bydd deiliad y swydd yn cadw at Ganllawiau’r Bwrdd Iechyd, ac yn ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n briodol i natur a gradd y swydd.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 11/12/2025

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 2 (e.e. TGAU, NVQ2) neu brofiad amlwg cyfatebol o sgiliau a gwybodaeth gweinyddol/swyddfa
  • Sgiliau gweinyddol/TG perthnasol
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau bysellfwrdd

Profiad

Meini prawf dymunol
  • Profiad clercol blaenorol
  • Sgiliau ffôn

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sadie McCarthy
Teitl y swydd
Heart Failure clinical nurse specialist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07977067858
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg