Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Arlwyo
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Rota chwe wythnos - oriau rhwng 7am a 8pm)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-EA042-1025
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 20/10/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 28/10/2025
Teitl cyflogwr

Goruchwyliwr Arlwyo
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i unigolyn ymroddedig a llawn cymhelliant ymuno ag Adran Arlwyo brysur iawn.
Lleolir y swydd hon yn Ysbyty'r Tywysog Phillip, a byddwch yn gyfrifol o ddydd i ddydd am ddarparu cymorth goruchwylio rheng flaen i'r holl staff arlwyo sy'n ymwneud â'r gwasanaeth bwyd a chynhyrchu bwyd ar gyfer staff, ymwelwyr a chleifion.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn ddelfrydol, bydd gan ymgeiswyr gymwysterau goruchwylio neu hanes profedig o oruchwylio grŵp mawr o staff. Oherwydd natur y swydd, mae angen cefndir coginio proffesiynol ar gyfer y rôl yma er mwyn gallu darparu prydau bwydo a manwerthu cleifion.
Mae rhinweddau arwain cryf a sgiliau cyfathrebu rhagorol, ynghyd ag agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth, yn hanfodol.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio wythnos 37.5 awr a bydd gofyniad i weithio oriau anghymdeithasol a phenwythnosau.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais
Cynhelir y cyfweliadu ar 28.10.2025
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel dda o addysg gyffredinol.
- Dyfarniad Lefel 3 mewn Goruchwylio Diogelwch Bwyd.
- Gwybodaeth Fanwl am Hylendid Bwyd
- Iechyd a Diogelwch COSHH
- Symud, Codi a Chario
- Gwybodaeth am HACCP
Meini prawf dymunol
- Dyfarniad ILM Lefel 3 mewn Hyfforddiant ar Oruchwylio.
- Gwybodaeth fanwl am brosesau a gweithdrefnau arlwyo.
- Gwybodaeth am alergenau a deietau therapiwtig
- City and Guilds 706/1 a 706/2 neu gymhwyster cyfatebol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddelio â'r cyhoedd
- Profiad o oruchwylio/ arwain tîm
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol yn y GIG
- Profiad o oruchwylio mewn sefydliad tebyg.
- Profiad o ddyletswyddau glanhau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Tracey Evans
- Teitl y swydd
- Specialist Services Assistant Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 783732
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Cymorth neu bob sector