Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Deintyddol
- Gradd
- Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Deintydd Cyflogedig – B
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 6 sesiwn yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-MED-DEN-028-E
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Clinig Ffordd y Gogledd
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £85,246 - £99,707 per annum, pro rata
- Yn cau
- 06/12/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Uwch-swyddog Deintyddol Band B
Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Deintydd Cyflogedig – B
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi’n frwd dros ddarparu gofal deintyddol eithriadol i unigolion ag anghenion cymhleth? Ydych chi’n ffynnu mewn amgylchedd agos atoch, sy’n canolbwyntio ar y gymuned ac yn barod i weithio mewn lleoliad gwledig a chychwyn ar yrfa foddhaus mewn lleoliad cymunedol? Os felly, mae gennym y cyfle perffaith i chi!
Rydym yn chwilio am Uwch-swyddog Deintyddol ymroddedig sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol i ymuno â’n tîm a darparu gwasanaethau Deintyddiaeth Gofal Arbennig mewn lleoliad gwledig hardd yng Ngheredigion, Gorllewin Cymru.
Byddwch yn darparu ystod o wasanaethau Deintyddol yn unol â chynlluniau a pholisïau cymeradwy’r Bwrdd Iechyd. Bydd gofyn i chi gynorthwyo gyda hyfforddiant a datblygiad deintyddion cymunedol, deintyddion sydd â sgiliau estynedig mewn deintyddiaeth gofal arbennig a phroffesiynau sy’n ategu deintyddiaeth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol Hywel Dda wedi ymrwymo i ddarparu gofal deintyddol i oedolion sy’n agored i niwed a phlant a allai gael anawsterau wrth geisio a chael triniaeth ddeintyddol ledled Ceredigion. Mae ein clinigau yn wahanol i bractisau deintyddol y stryd fawr gan ein bod yn gweld cleifion ar sail atgyfeirio yn unig, sy’n sicrhau eu bod yn cael eu triniaeth gan yr aelod o’r tîm sydd wedi cael yr hyfforddiant mwyaf priodol a hynny yn y clinig gorau sy’n gweddu i’w hanghenion. Cefnogir yr Uwch-swyddog Deintyddol gan yr Arweinydd Clinigol a’r Tîm Cymunedol.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd y rôl yng Nghlinig Ffordd y Gogledd, Aberystwyth ond ar hyn o bryd mae angen cyflenwi mewn rhai clinigau yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi hefyd.
⁻ Darparu gwasanaethau tawelyddu mewnwythiennol a mewnanadlu
⁻ Clinigau cleifion allanol cyffredinol ac arbenigol mewn Ysbytai Cyffredinol Dosbarth ac yn y Gymuned
⁻ Arwain aelodau staff amlddisgyblaethol yn effeithiol o fewn yr uned
⁻ Datblygu addysgu, hyfforddiant ac ymchwil yn y Sefydliad
Manyleb y person
Qualifcations
Meini prawf hanfodol
- Baglor mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol neu gymhwyster cyfatebol
- Tystysgrif gofrestru gyfredol y Cyngor Deintyddol Cyffredinol
- Rhif Perfformwyr neu rif VT cyfredol, neu wedi cwblhau cynllun cymhwysedd Cyfatebol ac felly’n gymwys i’w gynnwys ar unwaith ar y rhestr Perfformwyr
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ôl-raddedig priodol i faes arbenigol. Wedi’i gynnwys ar restr Arbenigol
- Profiad o dawelyddu / achrediad SAAD
Abilities and Skills
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu da – rhyngbersonol, ysgrifenedig ac ar lafar
- Y gallu i drefnu ei hun, trefnu clinig ac ymateb i bwysau amser
- Sgiliau TG sylfaenol
Meini prawf dymunol
- Y gallu i ddefnyddio system gyfrifiadurol glinigol
Knowledge and Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiadol mewn ystod eang o ddeintyddiaeth gyffredinol a/neu gymunedol
- O leiaf pum mlynedd o brofiad ôl-raddedig
- Profiad mewn deintyddiaeth Gofal Arbennig a deintyddiaeth bediatrig yn y ddwy flynedd flaenorol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Marie Mickiewicz
- Teitl y swydd
- Head of Dental Services
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Cysylltwch â Marie Mickiewicz i drefnu trafodaeth ac ymweliad cyn cyflwyno eich cais.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Meddygol a Deintyddol neu bob sector





