Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Domestig
- Gradd
- Band 2
- Contract
- 5 mis (Cyfnod penodol / secondiad tan 31.01.2026)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (37.5 awr trwy weithio 5 diwrnod mewn 7 gan gynnwys penwythnosau a Gwyliau Banc yn ôl trefn rota)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-EA031-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £24,833 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 26/08/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 08/09/2025
Teitl cyflogwr

Cynorthwyydd Domestig
Band 2
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 31/01/26. Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
A ydych yn mwynhau cwrdd â phobl ac yn cael boddhad o wneud gwaith da sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn? Os felly, cysylltwch â ni, oherwydd gallwn gynnig amodau gwaith rhagorol i Cynorthwy-ydd Domestig yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.
Rydym yn chwilio am unigolion hunanysgogol a fydd yn gweithio'n rhan o dîm ac ar eu pen eu hunain. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan lawn yn y tîm cymorth; mae prif ddyletswyddau'r swydd yn cynnwys gwaith glanhau cyffredinol ar wardiau/mewn adrannau, ac arlwyo ar wardiau a chynnal lefel uchel o lanhau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn cynnig proses gynefino lawn, sy'n cael ei dilyn gan raglen hyfforddi helaeth pan fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hyfforddi ym mhob agwedd ar y gwasanaeth, a phan fydd gofyn iddynt ddefnyddio amrywiaeth o gyfarpar glanhau ac ennill y Dyfarniad Diogelwch Bwyd Lefel 2 a ddarperir yn fewnol.
Oriau contract sydd ar gael yw contract 2 x 37.5 awr ar sail rota i gynnwys penwythnosau a Gŵyl y Banc yn seiliedig dros 5 diwrnod.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
• Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
• Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro · Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
• 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 08/09/2025
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu amlygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a dealltwriaeth
- Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch sylfaenol, COSHH, Symud a Chodi a Chario, a Hylendid Bwyd, neu barodrwydd i ddysgu trwy hyfforddiant yn y gwaith
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, COSHH, Symud a Chodi a Chario
Profiad
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddelio â'r cyhoedd
Arall
Meini prawf hanfodol
- Dull hyblyg i ddiwallu anghenion y Gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1) neu barodrwydd i weithio tuag at hynny
Sgiliau a Phriodweddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu da
- Y gallu i ddeall a dilyn cyfarwyddiadau arferol
- Y gallu i weithio dan bwysau ac ymateb i alwadau newidiol ar fyr rybudd
- Yn amlygu brwdfrydedd a pharodrwydd i weithio fel Cynorthwyydd Domestig
- Yn barod i weithio ar eich pen eich hun
- Yn barod i drin gwaed a hylifau'r corff
- Yn amlygu blaengaredd
- Yn gallu gweithio mewn tîm
- Yn barod i fod yn gyfrifol am allweddi/ddiogelwch/larymau
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Denise Thomas
- Teitl y swydd
- Soft Facilities Officer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03004307972
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Cymorth neu bob sector