Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Domestig
- Gradd
- Band 2
- Contract
- 7 mis (Cyfnod penodol/secondidad tan 31/03/2026 i diwallu anghenion y gwasanaeth)
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-EA037-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £24,833 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/09/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 08/09/2025
Teitl cyflogwr

Cynorthwyydd Domestig
Band 2
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 31/03/2026 i diwallu anghenion y gwasanaeth.
Os ydych chi'n gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am y swydd hon fel secondiad, mae angen cytundeb ar gyfer yr secondiad gan eich rheolwr presennol cyn gwneud cais.
A ydych yn mwynhau cwrdd â phobl ac yn cael boddhad o wneud gwaith da sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn? Os felly, cysylltwch â ni, oherwydd gallwn gynnig amodau gwaith rhagorol i Cynorthwyydd Domestig yn Ysbyty'r Cyffredinol Bronglais.
Rydym yn chwilio am unigolion hunanysgogol a fydd yn gweithio'n rhan o dîm ac ar eu pen eu hunain. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan lawn yn y tîm cymorth; mae prif ddyletswyddau'r swydd yn cynnwys gwaith glanhau cyffredinol yn ardaloedd y wardiau/yr adrannau yn yr ysbyty.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn cynnig proses gynefino lawn, sy'n cael ei dilyn gan raglen hyfforddi helaeth pan fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hyfforddi ym mhob agwedd ar y gwasanaeth, a phan fydd gofyn iddynt ddefnyddio amrywiaeth o gyfarpar glanhau ac ennill y Dyfarniad Diogelwch Bwyd Lefel 2 a ddarperir yn fewnol.
Yr oriau dan gontract sydd ar gael yw 37.5 ac 18 awr yr wythnos yn ôl trefn rota i gynnwys penwythnosau a Gwyliau Banc dros 5 niwrnod.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 08/09/2025.
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddelio â'r cyhoedd
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu amlygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a dealltwriaeth
- Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch sylfaenol, COSHH, Symud a Chodi a Chario, a Hylendid Bwyd, neu barodrwydd i ddysgu trwy hyfforddiant yn y gwaith
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, COSHH, Symud a Chodi a Chario
Arall
Meini prawf hanfodol
- Agwedd hyblyg at waith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1) neu barodrwydd i weithio tuag at hynny
Sgiliau a Phriodweddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu da
- Y gallu i ddeall a dilyn cyfarwyddiadau arferol
- Y gallu i weithio dan bwysau ac ymateb i alwadau newidiol ar fyr rybudd
- Yn amlygu brwdfrydedd a pharodrwydd i weithio fel Cynorthwyydd Domestig
- Yn barod i weithio ar eich pen eich hun
- Yn barod i drin gwaed a hylifau'r corff
- Yn amlygu blaengaredd
- Yn gallu gweithio mewn tîm
- Yn barod i fod yn gyfrifol am allweddi/ddiogelwch/larymau
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Denise Thomas
- Teitl y swydd
- Soft Facilities Officer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 0300 4307972
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Cymorth neu bob sector