Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyfleusterau
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 100-EA058-1125
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/11/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 27/11/2025
Teitl cyflogwr
Y Goruchwyliwr Rheoli Cyfleusterau Meddal
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae dwy swydd 20 awr ar gael ar hyn o bryd ar gyfer dau Oruchwyliwr Rheoli Cyfleusterau Meddal; disgwylir i’r ddwy swydd arwain y gwaith o archwilio a hyfforddi’r Tîm Cyfleusterau Meddal yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth a’r safleoedd Cymunedol. Yn rhan o’r rôl, bydd deiliaid y swyddi’n gweithio yn rhan o dîm ehangach y Goruchwylwyr Rheoli Cyfleusterau Meddal.
Yr oriau yw 20 awr yr wythnos ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 06:00 a 20:00
Os ydych yn mwynhau her, efallai mai hon yw’r swydd i chi
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn awyddus i recriwtio unigolion brwdfrydig ac ymrwymedig sy'n gweithio'n galed, yn llawn cymhelliant, yn flaengar ac yn arloesol.
Mae’r swydd yn un heriol a bydd gan yr ymgeiswyr delfrydol brofiad perthnasol o oruchwylio neu arwain tîm. Mae cymhwyster perthnasol fel NVQ Lefel 3 neu brofiad cyfatebol yn hanfodol.
Bydd angen i ddeiliad y swyddi fod yn hyblyg i weithio lle bynnag y mae'r galw yn yr Adran Cyfleusterau Meddal. Mae'r gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
· Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
· Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
· Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
· 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
· Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 25.11.25
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel dda o addysg gyffredinol
- NVQ lefel 3 neu gymhwyster brofiad, sgiliau a gwybodaeth gyfatebol mewn perthynas â thasgau glanhau/goruchwylio gwaith glanhau
- Gwybodaeth fanwl am Hylendid Bwyd, Iechyd a Diogelwch, COSHH, Symud, Codi a Chario, a gwybodaeth am HACCP
- Sgiliau TG
Meini prawf dymunol
- Tystysgrif Lefel 2 ILM mewn Arwain Tîm neu gymhwyster cyfatebol
- Dyfarniad Diogelwch Bwyd Lefel 2
- Tystysgrif Hyfforddi
- Hyfforddiant ar Oruchwylio
- Tystysgrif IOSH
- Gwybodaeth am drefniadau Atal a Rheoli Haint
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddelio a'r cyhoedd
- Profiad o oruchwylio/arwain tim
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol yn y GIG
- Profiad o oruchwylio mewn sefydliad tebyg
- Profiad o ddyletswyddau glanhau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol, yn ôl y gofyn
- Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Denise Thomas
- Teitl y swydd
- Soft Facilities Management Officer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03004307972
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Cymorth neu bob sector





