Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Bydwreigiaeth
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-NMR306-1025
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£31,516 - £38,364 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
Today at 23:59
Dyddiad y cyfweliad
14/10/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Bydwraig Cofrestredig - Newydd Cymhwysedig

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Cyfle cyffrous – Bydwraig Tiwtoriaeth (ran-amser, 22.5 awr)

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth, i fydwraig newydd gymhwyso ymuno â'n tîm yn rhan o raglen diwtoriaeth. 

Swydd ran-amser yw hon (22.5 awr), a disgwylir i chi weithio rhai oriau yng Nghaerfyrddin, sy'n safle arall yn y Bwrdd Iechyd, i ehangu eich profiad. 

Bydd y rôl yn cynnwys shifftiau dydd, nos, a phenwythnos, gan eich galluogi i fagu hyder ledled yr ystod lawn o ofal mamolaeth. 

Mae ein tîm cefnogol a brwdfrydig yn edrych ymlaen at groesawu cyd-weithiwr newydd sy'n ymrwymedig i ddarparu gofal parhaus a sicrhau gofal diogel, tosturiol, ac o natur bersonol i'r holl fenywod a theuluoedd sy'n esgor gyda ni ym Mronglais. 

Ymarfer Clinigol – disgwylir i'r fydwraig newydd gymhwyso gyflawni'r meini prawf canlynol gyda chymorth tiwtor a bydwragedd profiadol. Bydd y fydwraig newydd gymhwyso yn atebol am ei hymarfer clinigol ei hun (NMC) a bydd yn cymryd rhan yn y Rhaglen Tiwtoriaeth Bydwreigiaeth a'i chwblhau cyn pen 12 mis.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu gofal tosturiol o ansawdd uchel i fenywod a'u teuluoedd, gan gwblhau rhaglen diwtoriaeth strwythuredig yr un pryd. 

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys nifer o ddiwrnodau astudio pwrpasol a shifftiau a gefnogir gan diwtor, wedi'u cynllunio i'ch helpu i feithrin y sgiliau a magu'r hyder gofynnol i gamu ymlaen trwy'r porth i Fand 6. 

Rôl ran-amser yw hon (22.5 awr yr wythnos), gyda rhai o'r oriau wedi'u lleoli yng Nghaerfyrddin er mwyn cynnig profiad clinigol ychwanegol.

Byddwch yn gweithio yn rôl y drydedd fydwraig ar bob shifft, gan fagu profiad ar draws sbectrwm llawn gofal mamolaeth, i gynnwys: 

  • Gofal cynenedigol, y broses eni, ac ôl-enedigol
  • Yr Uned Asesu Dydd a'r gwasanaethau brysbennu
  • Cyfleoedd i arsylwi a magu profiad yn yr ystafell newyddenedigol ar y safle

Mae'r swydd hon yn cynnig cymorth rhagorol a chysylltiad ag ystod eang o elfennau clinigol i'ch helpu i feithrin hyder a datblygu i fod yn fydwraig Band 6 gymwys. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 14/10/2025.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Bydwraig Cofrestredig
  • Ymroddiad i gwblhau eu rhaglen tiwtoriaeth o fewn 12 mis

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o'r gallu i ddarparu gofal unigol cleient o safon uchel a seilir ar dystiolaeth
  • Yn gallu dangos sefyllfaoedd lle mae arweinyddiaeth neu sgiliau rheoli effeithiol wedi cael eu defnyddio
  • Tystiolaeth o allu cymryd arweiniad yn absenoldeb eu rheolwr llinell uniongyrchol
  • Gallu i ddangos sgiliau bydwreigiaeth wedi eu seilio ar dystiolaeth gyfredol
  • Y gallu i ddangos ymwybyddiaeth o bwysigrwydd archwilio a pholisi

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Emma Booth
Teitl y swydd
Clinical & Operational Lead Midwife
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970 635633
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Yn absenoldeb Emma, cysylltwch a cydgysylltydd Band 7 ar yr uned

Ffôn 01970 635633

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg