Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Offthalmoleg
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR188-0625
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Clinig Llygaid Ffordd y Gogledd
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 09/07/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 16/07/2025
Teitl cyflogwr

Nyrs Gofrestredig Offthalmoleg
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i ymuno â'r tîm nyrsio sy'n gweithio yng Nghanolfan Llygaid Aberystwyth, a hynny yn rôl Nyrs Staff Band 5.
Mae'r uned yn cefnogi clinigau cleifion allanol offthalmig, y gwasanaeth mewnwydrog, asesiadau ymlaen llaw dan arweiniad nyrsys, a chlinigau brys o ddydd i ddydd.
Mae'r gwasanaeth wedi ehangu a bydd yn parhau i wneud hynny i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio seiliedig ar dystiolaeth i ddiwallu anghenion cleifion yn yr adran offthalmig a'u teuluoedd.
Bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â hyfforddiant i gyflawni cymwyseddau dyfeisiau clinigol ar gyfer y cyfarpar offthalmig yn yr adran.
Mae'n swydd lawn-amser, ond bydd oriau rhan-amser yn cael eu hystyried.
Cynhelir y cyfweliadau ar 16/7/2025
Prif ddyletswyddau'r swydd
Disgwylir i ddeiliad y swydd wneud y canlynol:
bod yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio seiliedig ar dystiolaeth i ddiwallu anghenion y cleifion yn yr adran offthalmig a'u teuluoedd;
cydweithio â'r tîm amlddisgyblaethol ac ymgymryd â dyletswyddau heb unrhyw oruchwyliaeth uniongyrchol;
ymgymryd â hyfforddiant a chyflawni cymwyseddau dyfeisiau clinigol mewn perthynas â chyfarpar offthalmig yn yr adran;
cynnal gofal o safon uchel i gleifion, gan ddefnyddio ymarfer seiliedig ar dystiolaeth mewn lleoliad offthalmig;
ymgymryd ag archwiliadau offthalmoleg penodol wedi iddo gyflawni'r cymwyseddau;
cynorthwyo yn yr ystafell lân yn ystod sesiynau mewnwydrog;
cynnal asesiadau dros y ffôn a chyn llawdriniaethau ar gyfer cleifion sydd ar y rhestr ar gyfer llawdriniaeth offthalmig; darparu cymorth nyrsio ar gyfer clinigau brys ac offthalmoleg gyffredinol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae croeso i siaradwyr Saesneg a/neu Gymraeg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i goleddu'r angen am ddwyieithrwydd yn llawn, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestru cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Ymwybyddiaeth o Bolisiau, Gweithdrefnau a Chanllawiau'r Bwrdd Iechyd
Meini prawf dymunol
- Gradd mewn Nyrsio
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru e.e. Triniaeth Cynnal Bywyd Ganolradd
- Hyfforddiant offthalmoleg arbenigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth cyn cofrestru mewn gofal nyrsio uniongyrchol
- Profiad o ddarparu gofal nyrsio cyfannol
- Diddordeb mewn datblygu sgiliau nyrsio
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth glir o'r fframwaith llywodraethu clinigol
- Gweithredu arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Claire Duggan
- Teitl y swydd
- Senior Sister
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01970 636200
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Marta Barreiro Martins
Senior Nurse Manager
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector