Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferylliaeth
Gradd
Gradd 3
Contract
22 mis (Cyfnod penodol/secondiad tan 01/09/2027 oherwydd cyllido)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i ddydd Gwener 08.45 -5.00 Rhai dydd Sadwrn a Gŵyl y Banc)
Cyfeirnod y swydd
100-ACS184-0925
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
21/09/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Uwch-swyddog Technegol Cynorthwyol

Gradd 3

Trosolwg o'r swydd

Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 01/09/2027 oherwydd cyllido.

Os ydych chi'n gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am y swydd hon fel secondiad, mae angen cytundeb ar gyfer yr secondiad gan eich rheolwr presennol cyn gwneud cais.

Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant a brwdfrydedd sydd â diddordeb mewn gwyddor gofal iechyd i gefnogi'r Tîm Fferylliaeth yn y gwaith o gynnal yr Adran Fferylliaeth o ddydd i ddydd yn Ysbyty’r Bronglais. 

Mae'r Tîm Fferylliaeth yn dîm blaengar, ac mae'n ymdrechu'n barhaus i wella'r modd y darperir gofal fferyllol sy'n canolbwyntio ar y claf, ac o ran gwneud y defnydd gorau o feddyginiaethau yn y Bwrdd Iechyd. 

Mae hon yn swydd cyfnod penodol, 37.5 awr yr wythnos. Rhaid bod gennych sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol, a bydd angen i chi allu gweithio mewn modd effeithiol gyda'r tîm cyfredol yn yr Adran Fferylliaeth.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn tîm o Uwch-swyddogion Technegol, Technegwyr Fferyllol a Fferyllwyr i ddarparu ystod eang o Wasanaethau Fferyllol yn yr ysbyty. Byddwch yn cael hyfforddiant penodol i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau. 

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar 5 TGAU (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch. Mae meddu ar Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) Lefel 2 mewn fferyllfa, yn y gymuned neu mewn ysbyty yn ddymunol; fodd bynnag, nid yw'n hanfodol gan y darperir cymorth a goruchwyliaeth lawn i gyflawni a chwblhau'r cymhwyster NVQ Lefel 2 mewn gwasanaethau fferyllol. 

Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle cyffrous ac unigryw i gynorthwy-ydd fferyllfaol chwarae rôl amrywiol. Byddwch yn helpu i ddarparu gwasanaeth fferyllfaol o ansawdd uchel i'n cleifion trwy weithio yn y fferyllfa, storfeydd a dosbarthu a gwasanaethau rheoli meddyginiaethau ar ein wardiau.

Byddwch yn cael cynnig amrywiaeth o brofiadau a hyfforddiant ym mhob maes.

Mae profiad blaenorol o weithio mewn fferyllfa yn ddymunol a bydd gofyn i chi fod â, neu fod yn gymwys, i weithio tuag at NVQ lefel 2 yn y Gwasanaethau Fferylliaeth.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar rota penwythnosau a gwyliau banc.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd  

  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 

  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 

  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 

  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Cynhelir y cyfweliadau ar 01/10/2025

Gellir dod o hyd i'r ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i goleddu'r angen am ddwyieithrwydd yn llawn, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Safon dda mewn addysg uwchradd, sydd i gynnwys 5 TGAU ar lefel C, neu gyfwerth
  • Cymhwyster lefel 3 neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • Buttercups / Cymhwyster NVQ 2 mewn Fferylliaeth
  • 5 TGAU ar lefel C neu uwch, sydd i gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth
  • Gwybodaeth am enwau cyffuriau

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad TG sylfaenol
Meini prawf dymunol
  • Profiad mewn ysbyty neu fferyllfa manwerthu yn y gymuned
  • Profiad o ofal cwsmeriaid
  • Profiad o gynnal a chadw stoc
  • Y gallu i weithio mewn tim

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg lefel 1

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rachel Evans
Teitl y swydd
Chief Pharmacy Technician
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970 635732
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Mae'r swydd-ddisgrifiad atodedig yn adlewyrchu'r amrywiaeth o rolau a gyflawnir gan Swyddog Technegol Cynorthwyol. Bydd yn ofynnol i chi drafod y swydd â'r rheolwr penodi, a bydd disgwyl i chi gyflawni agweddau ar y swydd-ddisgrifiad. Pe hoffech drefnu ymweliad anffurfiol â’r adran, 
cysylltwch ag Rachel Evans ar 01970 635733. 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg