Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferylliaeth
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Gweithio 08:45 i 17:00 ddydd Llun i ddydd Gwener ynghyd â rota hwyr, rota dydd Sadwrn a gwyliau banc ac ar alwad
Cyfeirnod y swydd
100-PST038-0626
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£50,129 - £57,365 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
14/07/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
22/07/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Fferyllydd Clinigol Arbenigol

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais ar gyfer Fferyllydd Clinigol Arbenigol cylchdro sydd â'r brwdfrydedd a'r gallu i ddod yn rhan o'r Tîm Fferylliaeth dynamig. Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd cefnogol sy'n cynnig cyfleoedd hyfforddi i adeiladu ar eich sgiliau sylfaen a datblygu eich arbenigedd.

Mae Ysbyty Bronglais yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth sydd â thua 130 o welyau, ac yn nhref glan môr Aberystwyth. Mae’r adran fferylliaeth yn cyflogi tua 30 o aelodau staff. Mae’n darparu ystod o arbenigeddau meddygol, gan gynnwys uned gofal coronaidd acíwt, a gwasanaethau anadlol, oncoleg, hematoleg, gastroenteroleg, endocrinoleg, strôc acíwt, 
pediatreg, mamolaeth, llawfeddygaeth gyffredinol ac orthopedeg, yn ogystal ag uned penderfyniadau clinigol brysur ac adran achosion brys.

Bydd disgwyl i chi ymgymryd ag Ymrwymiad i Ddyletswydd Frys (ar alwad), a gweithio ar benwythnosau a gwyliau banc yn rhan o rota.

Swydd lawn-amser yw hon, ond bydd oriau rhan-amser yn cael eu hystyried.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r swydd yn gofyn am fferyllydd uchel ei gymhelliant sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu, rhyngbersonol a sgiliau dysgu/presenoliaeth. Byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth o gylchdroadau rhwng wardiau, a byddwch hefyd yn ymgymryd â dyletswyddau yn y ddosbarthfa.

Bydd y swyddi hyn yn eich galluogi i ddyfnhau eich gwybodaeth a'ch arbenigedd ac i ehangu sgiliau trosglwyddadwy o dan gyfarwyddyd cyd-weithwyr profiadol. Byddwch yn adeiladu ar brofiad blaenorol, gan ddatblygu mwy o ymreolaeth a chyfrifoldeb, a byddwch hefyd yn magu profiad mewn nifer o feysydd arbenigol. Bydd deiliad y swydd yn cael ei 
gefnogi i ymgymryd â'r cymhwyster presgripsiynu anfeddygol os nad yw eisoes yn meddu ar y cymhwyster hwnnw, neu'n cael ei gefnogi i ddefnyddio ei gymhwyster i ddatblygu ei arbenigedd ymhellach. 

Bydd disgwyl i chi gefnogi'r fferyllwyr iau yn y tîm, ynghyd â'r fferyllwyr dan hyfforddiant, a'r myfyrwyr israddedig sy'n dilyn y cwrs MPharm.

Bydd deiliaid y swyddi'n cyfrannu at y broses o gynllunio a chyflawni'r strategaeth optimeiddio meddyginiaethau.

Anogwn ddarpar ymgeiswyr i gysylltu â ni i drafod y swydd hon ymhellach.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd

Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro

Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall

47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 22/07/2026

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd meistr mewn fferylliaeth (4 blynedd) neu brofiad neu gymwysterau cyfatebol
  • Fferyllydd Cofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
  • Gwybodaeth broffesiynol am systemau a phrosesau rheoli meddyginiaethau mewn GIG integredig
  • Profiad o addysgu a goruchwylio fferyllwyr, technegwyr, cynorthwywyr a myfyrwyr
  • Diploma mewn Fferylliaeth Glinigol neu brofiad neu gymwysterau cyfatebol
  • Gwybodaeth am faes arbenigol fel y disgrifir yn yr hysbyseb swydd
Meini prawf dymunol
  • Tiwtor cyn gofrestru achrededig
  • Tiwtor Fferylliaeth Diploma Achrededig
  • Presgripsiynydd Annibynnol

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Yr hyblygrwydd i ymgymryd a dyletswydd frys, gan gynnwys penwythnosau, gwyliau banc ac agor gyda'r nos
  • Yn meddu ar ymagwedd hyblyg
  • Teithio rhwng safleoedd a'r tu allan i'r sefydliad
  • Yn deall ac yn amlygu ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth a phrofiad datblygedig iawn o ofal iechyd
  • Y gallu i amlygu cyflawniad mewn o leiaf un maes rheoli meddyginiaethau arbenigol
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i amlygu cyflawniad mewn mwy nag un maes rheoli meddyginiaethau arbenigol

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sean Thomas
Teitl y swydd
Clinical lead Pharmacist, Bronglais Hospital
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970 635733
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Donna Robson

01970 635927

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg