Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferylliaeth
Gradd
Gradd 8a
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-PST101-0826
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£58,379 - £65,723 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
08/09/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Uwch-fferyllydd (Arbenigwr Gwrthficrobaidd)

Gradd 8a

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae gennym gyfle gwych i fferyllydd brwdfrydig arwain strategaeth y stiwardiaeth wrthficrobaidd yn Ysbyty Bronglais, cyfle a fydd yn caniatáu i ddeiliad y swydd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Rydym yn chwilio am Fferyllydd uchel ei gymhelliant sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu, rhyngbersonol a rheoli amser rhagorol.

Gan weithio'n agos gyda chleifion a'r tîm amlddisgyblaethol, bydd angen i chi fod yn frwdfrydig a meddu ar sgiliau ardderchog datrys problemau. Rydym yn chwilio am unigolyn a all weithio'n annibynnol ac sy'n meddu ar sgiliau blaenoriaethu rhagorol, ynghyd â'r gallu i ddefnyddio ei fenter. 

Rhaid i ymgeiswyr fod wedi'u cofrestru yn fferyllwyr gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol, a dylent fod wedi cwblhau Diploma mewn Fferylliaeth Glinigol (neu gymhwyster cyfatebol).

Rydym yn dîm blaengar sy’n canolbwyntio ar y claf ac yn cydweithio’n agos gyda’r timau amlddisgyblaethol i wella diogelwch cleifion trwy roi cyngor proffesiynol i bresgripsiynwyr, cynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion, a mynychu rowndiau wardiau dan arweiniad meddygon ymgynghorol. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gan weithio gyda'r Tîm Rheoli Meddyginiaethau, Microbiolegwyr Ymgynghorol a Fferyllwyr Gwrthficrobaidd eraill y Bwrdd Iechyd, byddwch yn helpu i ddarparu stiwardiaeth wrthficrobaidd ledled yr ysbyty.

Byddwch yn helpu i gyflawni'r uchelgeisiau hyn trwy ddefnyddio nifer o fentrau ac ymyriadau, yn cynnwys archwiliadau ac adborth lleol a chenedlaethol; cyfrannu at ganllawiau rhagnodi gwrthficrobaidd lleol a chenedlaethol, a'u rhoi ar waith; gweithio tuag at gyflawni targedau Llywodraeth Cymru; a chefnogi'r gwaith o addysgu a hyfforddi gweithwyr gofal iechyd mewn stiwardiaeth wrthficrobaidd.

Bydd oddeutu hanner yr amser yn cael ei dreulio ar ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â gwrthfiotigau, a'r hanner arall ar ddyletswyddau clinigol eraill. Byddwch yn gweithio gyda'r tîm amlddisgyblaethol yn monitro gwarant ariannol ac yn ymgymryd ag ymchwil a phrosiectau gwella gwasanaethau, ochr yn ochr â chefnogi'r gwasanaethau fferyllol craidd yn y ddosbarthfa ac ar y wardiau. 

Yn rôl Uwch-fferyllydd, byddwch yn gyfrifol am gydgysylltu a darparu gwasanaeth fferyllol clinigol sy'n canolbwyntio ar y claf. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar wardiau meddygol cyffredinol yn datblygu ei rôl fferyllydd, a hynny gyda'r posibilrwydd o ddatblygu i fod yn Fferyllydd Annibynnol mewn clinigau dan arweiniad fferyllydd. 

Bydd gofyn i ymgeiswyr gymryd rhan yn y rota penwythnos, gwyl banc ac ar alwad.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn rhan o'r broses gyffrous o gyflwyno'r gwasanaeth Presgripsiynu a Rhoi Meddyginiaethau yn electronig (ePMA) gan gefnogi cydweithwyr ar draws y tîm amlddisgyblaethol wrth i ni ymgorffori systemau digidol yn ein hymarfer.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 16/09/2026

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd meistr mewn Fferylliaeth
  • Yn gofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
  • MSc neu Ddiploma ol-raddedig yn y maes ymarfer, neu brofiad neu gymwysterau cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • Presgripsiynydd annibynnol
  • Yn aelod o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol
  • Goruchwylydd achrededig ar gyfer Fferyllwyr sylfaen neu ôl-sylfaen
  • Paratoi a Dosbarthu Meddyginiaethau mewn modd Aseptig (Prifysgol Leeds) neu gymhwyster cyfatebol os yw'r rôl yn cynnwys technegau aseptig
  • Yn gofrestredig i Reoli Ansawdd os yw'r rôl yn cynnwys technegau aseptig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth arbenigol am systemau a phrosesau rheoli meddyginiaethau mewn GIG integredig
  • Gwybodaeth am ofal iechyd a phrofiad ohono
  • Gwybodaeth arbenigol am eich maes ymarfer eich hun, sydd wedi'i meithrin trwy hyfforddiant lefel diploma a phrofiad.
Meini prawf dymunol
  • Yn amlygu gwybodaeth arbenigol mewn mwy nag un maes.
  • Profiad o ymchwil ymarferol
  • Hyfforddi ac addysgu staff fferyllfa a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill
  • Profiad o reoli newid
  • Profiad o wella gwasanaethau

Gofynion Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg – lefel 1

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth i ymgymryd a gwaith ar alwad, ac i agor gyda'r nos ac ar benwythnosau
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sean Thomas
Teitl y swydd
Lead Clinical Pharmacist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970 635733
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Rydym yn annog pob ymgeisydd posib i gysylltu â ni am sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r rôl ac/neu i drefnu ymweliad â'r safle.

Cysylltwch ar Sean Thomas neu Donna Robson ar 01970 635733.

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg